Hafan>Ymchwil>Rheolaeth Moeseg

Rheolaeth Moeseg

​​​​​​​​​​​

Yn Met Caerdydd, mae egwyddorion moeseg ac integriti o’r radd uchaf yn sail i bob gweithgaredd ymchwil. 

Pwyllgor Moeseg y Brifysgol (UEC) sydd â'r cyfrifoldeb am gynnal a monitro llywodraethu moeseg yn y sefydliad yn y pen draw. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod ymchwil a wneir gan staff a myfyrwyr ac sy’n sy'n cynnwys cyfranogwyr dynol yn cydymffurfio â'r safonau moesegol uchaf yn ogystal â diogelu'r egwyddorion cyffredinol a nodir yn Fframwaith Moeseg Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Nid yw gwaith y pwyllgor wedi'i gyfyngu i faterion moesegol sy'n ymwneud ag ymchwil ond gall gynnwys unrhyw fater sy'n ymwneud â chydymffurfio â Fframwaith Moeseg y Brifysgol.

Cefnogir UEC gan bwyllgorau moeseg yn yr Ysgol sy'n adrodd yn uniongyrchol iddo.

Gweinyddir UEC gan y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch gwaith y pwyllgor at Kate Jefferies yn y lle cyntaf.

Caiff ceisiadau am gymeradwyaeth moeseg prosiect ymchwil eu hystyried gan bwyllgor moeseg yr Ysgol lle mae'r prif ymgeisydd arweiniol. Felly dylid cyfeirio ymholiadau penodol ynghylch y broses cymeradwyo moeseg at y cyswllt o fewn yr Ysgol berthnasol yn y lle cyntaf.

Mewn achosion lle nad yw'r prif ymgeisydd wedi'i leoli o fewn Ysgol Met Caerdydd, neu mewn PDR, bydd y cais yn cael ei gyfeirio at bwyllgor yr Ysgol fwyaf perthnasol, neu'n uniongyrchol at UEC. Dylid cyfeirio ymholiadau sy'n ymwneud ag achosion o'r fath at Kate Jefferies yn y lle cyntaf.

Mae pwyllgorau ysgolion yn cyfarfod yn rheolaidd er y gall cyfarfodydd fod yn llai aml y tu allan i ddyddiadau'r tymor. Dylai myfyrwyr ymgynghori â'u goruchwyliwr i gael dyddiadau cyfarfod ar gyfer pwyllgorau’r Ysgol berthnasol.
Gellir cyrchu'r ffurflen gais a'r nodiadau canllaw o dan y 'Dogfennau Defnyddiol' isod.

Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o’r ffurflen cyn cychwyn eich cais, er mwyn osgoi ei dychwelyd atoch.  Yn benodol, ni ellir derbyn ceisiadau a gyflwynwyd gan ddefnyddio fersiwn 7 neu’n gynharach o’r Ffurflen Gais Moeseg gan nad ydynt yn ystyried GDPR


Fframweithiau a Chysylltiadau Moeseg Ysgol

Mae pob Ysgol wedi datblygu fframwaith ar gyfer cymeradwyo moeseg prosiectau ymchwil, dewiswch yr un perthnasol o'r cwymplenni isod.

Ysgol Gelf a Dylunio

Cyswllt: Dr Stephen Thompson

Fframwaith CSAD ar gyfer cymeradwyo moeseg prosiectau ymchwil (D.S. Mynediad i fyfyrwyr a staff CSAD yn unig)

Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol

Ysgol Reoli

Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd

Cyswllt:  Yr Athro Philip James
Cyswllt Chwaraeon: sportethics@cardiffmet.ac.uk
Cyswllt iechyd: healthethics@cardiffmet.ac.uk

CSSHS ar gyfer prosiectau ymwchil

Ysgol Dechnolegau

PDR


Deddf Meinweoedd Dynol

        
Sefydlodd Deddf Meinweoedd Dynol 2004 yr HTA i reoleiddio gweithgareddau sy'n ymwneud â symud, storio, defnyddio a gwaredu meinwe dynol. Rhaid i staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd gydymffurfio â gofynion y Ddeddf Meinweoedd Dynol ym mhob gweithgaredd sy'n ymwneud â storio meinwe dynol. Yn benodol, dylai staff a myfyrwyr fod yn ymwybodol o God Ymarfer y sefydliad er mwyn cael Caniatâd Gwybodus a chadw ato.

Yr Unigolyn Dynodedig HTA yn Met Caerdydd yw Dr Claire Kelly