Doethur mewn Addysg (EdD)
Page Content
Pam dilyn cwrs EdD?
Mae syniadau damcaniaethol ac ymarferol yn y sector Addysg yn newid ac yn esblygu'n gyson. Mae angen i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes hwn ymwneud ag ymchwil gyfredol a datblygu eu harfer proffesiynol trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP). Mae llwybr EdD y Ddoethuriaeth Broffesiynol yn galluogi myfyrwyr i ddod yn llythrennog mewn ymchwil ac i gymhwyso'r sgiliau hynny i'w harfer proffesiynol bob dydd. Mae'r EdD yn canolbwyntio ar ymchwil 'gymhwysol', sy'n gysylltiedig â diddordebau ymchwil unigol myfyrwyr. Defnyddir gwybodaeth academaidd a phroffesiynol i ganolbwyntio ar brosiect 'newid' sy'n gysylltiedig â rôl swydd unigol myfyrwyr.
Strwythur y Rhaglen
Tystebau
"Mae ymgymryd â’r EdD wedi bod yn brofiad heriol a gwerth chweil hyd yma. Mae wedi llywio ac ehangu fy ngwybodaeth a’m hymarfer i lefel uwch sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fy hyder a’m hunaniaeth broffesiynol. Mae’r cyfle i astudio gyda gweithwyr proffesiynol eraill ar Lefel 8 wedi darparu cyfleoedd cydweithredu a rhwydweithio gwerthfawr. Mae gweithio gyda fy nhîm goruchwylio a chyd-fyfyrwyr yn cefnogi ein cymuned ymchwil fywiog a thrafodol."
Kris Sobol, Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd. Myfyriwr Doeth. Proff. / EdD
Gwybodaeth Cyswllt
Dr Susan Davis
Arweinydd Llwybr Addysg
Ysgol Addysg ,
Campws Cyncoed,
Ffordd Cyncoed,
Caerdydd
CF23 6XD
e: sdavis@cardiffmet.ac.uk
T: 02920 416545
Dychwelyd i dudalen hafan
Doethuriaeth Broffesiynol