Hafan>Ymchwil>CSAD DProf

Doethur Ymarfer Proffesiynol CSAD (DProf)

​ ​

​Pam ymgymryd â DProf Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd?

Os yw unigolyn yn dymuno newid arfer neu arferion y sefydliad y mae'n gweithio neu'n cydweithredu ag ef, neu os yw'n dymuno ymwneud â phrosiect ymchwil a datblygu sefydliadol, neu os yw eisoes yn ymwneud â phrosiect ymchwil a allai gynnwys newidiadau arloesol i arfer peirianyddol, yna mae ymgymryd â Doethuriaeth Broffesiynol yn un llwybr i gyflawni'r fath amcanion ac uchelgais – o dan arweiniad a goruchwyliaeth. Caiff pob ymgeisydd o fewn CSAD a PDR eu tywys a'u goruchwylio gan ddau aelod o staff o gefndir Celf a Dylunio, neu o arbenigedd arall o fewn y Brifysgol.

Lluniwyd y DProf i gynnig dilyniant i gymwyster Meistr, gan gynnwys PGDip, MPhil, MA ac MRes o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, sefydliadau academaidd eraill y DU a'r tu allan i'r DU. Yn nodweddiadol, bydd gan ymgeiswyr gymhwyster Meistr o ddisgyblaethau sy'n berthnasol i ymarfer Celf a Dylunio. O fewn CSAD, gallai ymgeiswyr symud ymlaen o'r MA Cerameg, MA Celf Gain, MA Celf a Dylunio neu MSc Dylunio Cynnyrch. 

Ceir amrywiaeth eang o brosiectau, ond gallent gynnwysnclude: 

  • Creu gwaith celf y gall pobl sy’n dioddef o gyflwr iechyd penodol i ryngweithio ag ef a gwerthuso unrhyw welliannau neu newidiadau i’w hiechyd; 
  • Mireinio dyluniad, deunyddiau neu fecanweithiau cynnyrch er mwyn gwella defnyddioldeb, neu wella effeithlonrwydd neu leihau’r gost gynhyrchu neu werthu;
  • Treialu deunyddiau amgen i’w hylosgi o fewn odyn i danio cerameg, er mwyn lleihau'r allyriadau a cheisio ffynhonnell danwydd fwy cynaliadwy, ac ystyried y newid i'r gwrthrych gorffenedig.

Dylai Doethuriaeth Broffesiynol gael ei llywio gan wybodaeth a/neu theori bresennol, ac arwain at gyfraniad gwreiddiol a sylweddol at newid mewn arfer proffesiynol neu arfer sefydliadol; yng nghyd-destun meysydd yn ymwneud â Chelf a Dylunio.

Cyfeiria ymgeiswyr sydd wedi cwblhau'r llwybrau Doethuriaeth Broffesiynol eraill, at gydnabyddiaeth ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol ehangach iddynt hwy eu hunain c i’r sefydliadau y maent yn gweithio gyda nhw. Yn ogystal, mae ymgeiswyr yn cynnig sylwadau ar wella eu sgiliau a'u profiad yn ogystal â’u cyfleoedd datblygu gyrfa gyda'u cyflogwyr presennol a chyflogwyr eraill. Mewn rhai achosion, mae ymgeiswyr wedi cael cynnig dyrchafiad. Ymhellach, mae ymgeiswyr yn cyfeirio at y gallu i 'feddwl y tu allan i'r bocs' ac i fod yn fwy beirniadol, trefnus ac ystyriol wrth wneud eu gwaith.

Strwythur y Rhaglen

 

 

Gwybodaeth Cyswllt

Dr John Littlewood
Cydlynydd Doethuriaeth Professiona CSAD: Arweinydd Llwybr ar gyfer DEng, DProf, DSBE
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rhodfa’r Gorllewin
Llandaf
CF5 2YB
E: jlittlewood@cardiffmet.ac.uk
T: 02920 416646

Dychwelyd i dudalen hafan Doethuriaeth Broffesiynol​​