Ynglŷn â Ni>Gwasanaethau Cynadleddau>Ystafelloedd Cynadledda Penodedig

Ystafelloedd Cynadledda Cyncoed

​Mae'r Ystafelloedd Cynadledda ar Gampws Cyncoed wedi'u hailwampio’n llawn, gan gynnig ystafelloedd cyfarfod ffres a chyfoes yng Nghaerdydd. Gall yr ystafelloedd cynadledda ddal hyd at 80 o bobl ac maen nhw’n cynnwys Wi-Fi am ddim a'r cyfarpar clyweled diweddaraf a sgriniau Clevertouch mawr at ddibenion cyflwyniadau. Mae'r holl ystafelloedd ar y llawr daear ac yn agos at y brif dderbynfa. Mae'r Ystafelloedd Cynadledda’n ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd, sesiynau hyfforddi a chynadleddau bach i ganolig eu maint. I gael gwybodaeth am ein hystafelloedd cyfarfod eraill, ystafelloedd hyfforddi, ystafelloedd cynadledda a darlithfeydd, cliciwch yma.

Mae'r Tîm Cynadleddau profiadol a chyfeillgar wrth law i sicrhau bod eich digwyddiad yn llwyddiant mawr.


​Ystafelloedd Cynadledda 1, 2 a 3

Mae'r Ystafelloedd Cynadledda yn cynnwys tair ystafell gyfarfod, a gellir agor dwy ohonynt allan i roi un ystafell gyfarfod fawr.

A mae'r tair ystafell yn darparu'r un dodrefn cyfoes, gyda golau dydd naturiol a'r goleuadau gorau posibl yn yr ystafelloedd.

I weld y manylion llawn amgylch yr Ystafelloedd Cynadledda ac i gael manylion llawn o gynlluniau, dimensiynau a chynhwysedd ystafelloedd cliciwch yma.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn ein ​Llyfryn Cynadleddau a Digwyddiadau ar- lein.


CR1 U Shape only small.jpg