Lucy Kember

​​

Darlithydd mewn Tylino Chwaraeon ac Adfer

Rhif ffôn: 029 20205889

E-bost: lkember@cardiffmet.ac.uk

Mae Lucy yn ddarlithydd mewn tylino chwaraeon ac adfer ar y radd BSc Tylino, Adfer a Chyflyru ar gyfer Chwaraeon (SCRaM) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Ar ôl graddio o’r cwrs SCRaM yn 2010 gydag anrhydedd dosbarth 1af, mae Lucy wedi treulio’r pum mlynedd diwethaf yn datblygu practis preifat, tra'n gweithio mewn chwaraeon proffesiynol gyda sefydliadau fel Scarlets Llanelli, Undeb Rygbi Cymru a Phêl-rwyd Cymru. 

Mae'n arbenigo mewn technegau meinwe meddal datblygedig ac adfer ac atal anafiadau chwaraeon.

Addysgu a Goruchwylio

Prif rôl Lucy yw dysgu elfen tylino'r radd BSc SCRaM. Mae hi'n arweinydd modiwl ar Lefel 4, 5 a 6 (SSP4014 / SSP5088 Cyflwyniad i Dylino ar gyfer Chwaraeon ac Arferion Meinwe Meddal, Tylino Chwaraeon ac Arferion Meinwe Meddal SSP6096), tiwtor personol i fyfyrwyr Lefel 5, ac ar hyn o bryd mae'n goruchwylio myfyrwyr traethawd israddedig.

Cymwysterau a Gwobrau

BSc Tylino, Adfer a Chyflyru ar gyfer Chwaraeon (2010)

Therapi Chwaraeon MSc (2015)

Tylino ar gyfer Chwaraeon Lefel 4 (2008)

Aelod o'r Gymdeithas Tylino Chwaraeon (2016)