Harry Bowles

Darlithydd mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ieuenctid

Rhif ffôn: 029 2041 7281
Cyfeiriad e-bost: hbowles@cardiffmet.ac.uk

Ymunodd Harry â'r staff academaidd yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd yn fuan ar ôl cwblhau ei PhD ym mis Gorffennaf 2014. Mae gan Harry broffil ymchwil ar y gweill gydag arbenigedd mewn ethnograffeg a methodolegau ymchwil ansoddol eraill. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar yrfaoedd athletaidd, hunaniaeth a phrofiadau datblygiadol pobl ifanc mewn chwaraeon a diwylliannau corfforol. Mae Harry hefyd yn cyfrannu at gynhyrchu ymchwil o ansawdd uchel yn yr Ysgol fel aelod o Bwyllgor Moeseg Ymchwil yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd ac fel Cadeirydd panel Moeseg Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (Chwaraeon). Mae Harry yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac mae'n gwneud cyfraniad amrywiol at ddarpariaeth addysgu israddedig ac ôl-raddedig ar draws yr Ysgol. 

Ymchwil / Cyhoeddiadau

Bowles, H. C. R. (2018). University Cricket and Emerging Adulthood: "Days in the Dirt." London: Palgrave Macmillan

Bowles, H. C. R (2017). MCCU university cricket helps students find their level on and off the field. The Conversation.

Bowles, H. C. R (2017). Youth, cricket, identity and crisis: a sign of the times. Beyond the Boundaries, Issue 20, 40.

Neil R., Bowles H. C. R., Fleming, S. and Hanton, S. (2016). The experience of competition stress in cricket. The Sport Psychologist, 30(1), 76-88.

Bowles, H. C. R. (2015). Confidence: A Prerequisite for the viva voce experience. The PsyPAG Guide for Psychology Postgraduates: Surviving Postgraduate Study. Leicester: The British Psychological Society.

Bowles, H. C. R. (2014, September). "Days in the Dirt": An Ethnography on Cricket and Self. Presented at 4th International Conference for Qualitative Research in Sport and Exercise, Loughborough University, UK. 

Bowles, H. C. R., Bailey, J., Barnett, J., Santos, S. and Castro, J. (2012, April). Becoming Critical: Problems Faced by Qualitative Researchers. Presented at the Spotlight on the Social Sciences Conference, Cardiff University, UK. 

Addysgu a Goruchwylio

Mae Harry yn ymarferydd addysgu profiadol ac mae ganddo gyfrifoldebau dysgu ac addysgu sylweddol fel Arweinydd Modiwl, Tiwtor Blwyddyn, Cydlynydd Traethawd Hir a Goruchwyliwr Ymchwil ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae Harry ar dîm goruchwylio prosiect PhD a ariennir gan KESS ar ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl a phrofiadau defnyddwyr gwrywaidd mewn ardaloedd cydgyfeirio yng Nghymru, a phrosiect PhD a ariennir gan ESRC ar gaethiwed ac adferiad mewn chwaraeon. 

Cymwysterau a Gwobrau

    • B.Sc. (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (2010) 
      • Gwobr Medal Gwyddoniaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (2010)
        • Gwobr Goffa Eric Tomas am Draethawd Hir y Flwyddyn, Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (2010) 
          • Gwobr Canmoliaeth Uchel i Dîm y Flwyddyn, Prifysgol Metropolitan Caerdydd (2013) 
            • Doethuriaeth Athroniaeth, Prifysgol Metropolitan Caerdydd (2014)
              • Cymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA) 

              Dolenni Allanol

              Aelod o Gymdeithas Gymdeithasegol Prydain

              Awdur Palgrave Macmillan https://www.palgrave.com/gp/book/9783319762814


              Proffil Chwaraeon / Hyfforddi