Mae Prifysgol
Metropolitan Caerdydd yn gartref i FAB-Cre8 - grŵp
ymchwil ac arloesi amlddisgyblaeth wedi ei leoli yn Ysgol Celf a Dylunio
Caerdydd. Mae FAB-Cre8 yn cael ei hybu gan ddiddordeb mewn technolegau sy’n dod
i’r amlwg ac yn dod ag academyddion ynghyd o bob rhan o’r brifysgol sy’n
ymwneud ag ystod o brosiectau ymchwil. Maent yn gweithio gyda phrosesau saernïo
digidol, cyfrifiaduro ffisegol, y ‘Rhyngrwyd Pethau’ a chymhwyso ymchwilio i
ddeunyddiau i ystod eang o gyd-destunau celf a dylunio.
Ym
Mehefin 2017 lansiodd grŵp FAB-Cre8 brosiect ‘Y Llyfrgell
Deunyddiau’ - adnodd rhyngweithiol adnabod amledd radio (RFID) sy’n
gartref i gannoedd o samplau deunydd. Mae’r Llyfrgell
Deunyddiau yn osodiad parhaol i fyfyrwyr ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol
Metropolitan Caerdydd a bydd yn parhau i ehangu. Mae’r llyfrgell hon yn
caniatáu i ddefnyddwyr gyrchu cynnwys digidol mewn perthynas â deunyddiau sy’n
cael eu cadw o fewn cyfres o diwbiau profi. Mae’r defnyddiwr yn gosod y tiwb
profi yn y darllennydd sy’n actifadu ffilm o’r deunydd yn cael ei ddefnyddio.
Mae’r ffilmiau hyn sy’n seiliedig ar brosesau yn datgelu potensial deunyddiau i
wneuthurwyr, dylunwyr a myfyrwyr mewn fformat hawdd ei ddefnyddio.
Gallwch chi ddarllen mwy am
grŵp FAB-Cre8 a’r Llyfrgell Deunyddiau yma