Teitl
y Swydd: Darlithydd mewn Tai ac Iechyd
Rhif Ystafell: D1. 03
Rhif Ffôn: + 44 (0) 29 2041 6856
Cyfeiriad E-bost: hdawson@cardiffmet.ac.uk
Addysgu
Mae gan Henry Dawson BSc (Anrh) mewn Bioleg Gymhwysol ac MSc mewn Iechyd yr
Amgylchedd. Mae Henry wedi bod yn ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau
Iechyd ers mis Tachwedd 2012. Mae'n arweinydd modiwl ac yn gyfrannwr ar gyrsiau
israddedig Iechyd yr Amgylchedd ac Iechyd y Cyhoedd a'r rhaglen Meistr mewn
Diogelwch Galwedigaethol, Iechyd a Lles
Ymchwil
Meysydd diddordeb Henry yw'r astudiaeth o bolisi sy'n ymwneud â llety wedi
ei rentu'n breifat, y berthynas rhwng tai ac iechyd a'r defnydd o dechnoleg i
wella addysgu.
Cyhoeddiadau
Dawson, H. B.
University education and training systems in the UK. Mawrth 2016. Wedi ei
gyflwyno yn 13eg Gynhadledd Flynyddol MUESA, Kampala, UgandaDawson, H.B.
The housing health and safety rating system. Gorffennaf 2014. Wedi ei gyflwyno
yn 13eg Gynhadledd Iechyd Amgylcheddol y Byd, Las Vegas, UDA
Dolenni Allanol
Mae Henry yn Aelod
â Phleidlais o Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd, Ymarferydd Iechyd yr
Amgylchedd Siartredig (CEnvH, MCIEH), ac yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.
Mae'n arholwr allanol ar gyfer cymwysterau ôl-raddedig Prifysgol Gorllewin
Lloegr mewn Iechyd yr Amgylchedd ac Ymarfer Iechyd yr Amgylchedd. Mae Henry yn
eistedd ar Banel Arbenigwyr Tai Cymru sy'n cydlynu gweithredu ar dai rhent
preifat gan gynghorau lleol a Chyngor y Diwydiant Gosodiadau sy'n dylanwadu ar
bolisi ac yn darparu arweiniad ar faterion sy'n ymwneud â'r farchnad tai rhent
preifat yng Nghymru a Lloegr.