Teitl y Swydd:Prif Ddarlithydd - Cydlynydd Amserlenni a Chwricwlwm
Rhif Ystafell:D1. 03
Rhif Ffôn:+ 44 (0) 29 2041 6854
Cyfeiriad E-bost: adcurnin@cardiffmet.ac.uk
Addysgu
Mae meysydd addysgu Andrew Curnin yn cynnwys ymarfer cyfreithiol ar gyfer rheolyddion, cyfraith diogelwch bwyd a hylendid. Mae'n chwarae rhan weithredol yn esblygiad addysgu ac ymarfer iechyd yr amgylchedd ar lefel genedlaethol gyda Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd.
Mae hefyd wedi cyflwyno rhaglenni hylendid bwyd ledled y DU a'r Dwyrain Canol ynghyd â chyfrannu at ddylunio a darparu rhaglen Rheoli Diogelwch Bwyd MSc ym Mhrifysgol Hong Kong.
Ymchwil
Mae wedi cwblhau nifer o brosiectau sy'n gysylltiedig â diogelwch bwyd a oedd yn cynnwys cydweithredu ag academyddion eraill, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Llywodraeth Cymru
Cyhoeddiadau
Mae Andrew wedi cynhyrchu a chyfrannu at sawl cyhoeddiad gan gynnwys adroddiad ar gyfer yr Ymchwiliad Cyhoeddus i'r Achos ym mis Medi 2005 o E. Coli O157 yn Ne Cymru, dan gadeiryddiaeth yr Athro Hugh Pennington, aelod panel o weithgor yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ar gymwysterau sydd angen eu cydnabod er mwyn cynnal archwiliadau hylendid bwyd.
Dolenni Allanol
Mae Andrew yn Ymarferydd Siartredig Iechyd yr Amgylchedd ac yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Mae hefyd yn aelod o banel arbenigol Penaethiaid Iechyd yr Amgylchedd Cymru mewn Diogelwch Bwyd. Fe'i penodwyd hefyd yn arholwr allanol mewn nifer o Brifysgolion sy'n cynnig iechyd yr amgylchedd ar lefel gradd.