Ydych chi’n Weithiwr Cymdeithasol sydd â diddordeb yn eich datblygiad proffesiynol parhaus eich hun? Ydych chi am fodloni gofynion meini prawf ailgofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru? Ydych chi’n hoffi gweld pobl yn tyfu ac yn datblygu? Hoffech chi ymgymryd â rôl hollbwysig mewn addysg gwaith cymdeithasol a hyrwyddo dysgu ac addysgu gweithwyr cymdeithasol dan hyfforddiant?
Os yw hyn o ddiddordeb i chi, bydd cwblhau ein Dyfarniad Galluogi Dysgu Ymarfer ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn rhoi cymhwyster cymeradwy Gofal Cymdeithasol Cymru i chi i’ch galluogi i ymgymryd â rôl hollbwysig mewn addysg gwaith cymdeithasol a dod yn Addysgwr Ymarfer (a elwid gynt yn Asesydd Ymarfer / Athro Ymarfer).
Mae’r Dyfaniad hon yn hyrwyddo eich statws proffesiynol eich hun, yn cyfrannu at ddatblygiad proffesiynol parhaus, yn darparu tystiolaeth ragorol o hyfforddiant a dysgu ôl-gofrestru, ac yn rhoi cyfle gwych i chi fod yn rhan o ddatblygu dyfodol gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n eich galluogi i ennill gwybodaeth a sgiliau goruchwylio ac asesu ymarfer gwaith cymdeithasol naill ai ar lefelau cymhwyso neu ôl-gymhwyso. Er y gall addysgwr ymarfer fod yn rôl drom, mae’n tynnu ar lawer o’r sgiliau gwaith cymdeithasol sydd gennych eisoes, megis cyfathrebu, trafod, casglu a dadansoddi gwybodaeth, gosod a gweithio i dargedau, rheoli, galluogi eraill ac ysgrifennu adroddiadau.
Addysgir y Dyfarniad Galluogi Dysgu Ymarfer ym Met Caerdydd wyneb yn wyneb ar Gampws Llandaf ac mae ar gael ar Lefel 6 a Lefel 7 (Meistr) ac mae’r Dyfarniad werth 30 Credyd Academaidd. Mae’r modiwl yn rhyngweithiol, yn cael ei addysgu gan ddarlithwyr profiadol (sydd eu hunain wedi ymgymryd â rôl yr addysgwr ymarfer, a elwid gynt yn aseswr ymarfer) ac mae’r chwe diwrnod a addysgir (yn ogystal â hanner diwrnod o gynefino) yn rhoi’r cyfle i chi gaffael gwybodaeth ar sail tystiolaeth sy’n gysylltiedig ag asesu ymarfer ac i gwrdd ag ymgeiswyr eraill sy’n dymuno bod yn rhan o daith ddysgu’r myfyriwr.