Yr Athro Sheldon Hanton

 

​​

Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil) 
 

Mae Sheldon Hanton yn Athro Seicoleg a daeth yn Ddirprwy Is-Ganghellor Ymchwil yn 2012. Arferai fod yn Gyfarwyddwr Ymchwil y Brifysgol ac roedd yn Gyfarwyddwr Ysgol ar gyfer Ymchwil, Astudiaethau Graddedig a Menter. Yn wreiddiol o Swydd Lincoln, graddiodd Sheldon o Brifysgol Metropolitan Leeds cyn dilyn MSc a PhD ym Mhrifysgol Loughborough.

Fel Dirprwy Is-Ganhellor (Ymchwil) mae'n gyfrifol am yr holl strategaeth ymchwil ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd gan gynnwys y cyflwyniad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil hynod lwyddiannus (2014).  Mae ei bortffolio yn cynnwys Gwasanaethau Ymchwil a Menter a'r Ganolfan Ryngwladol Dylunio ac Ymchwil (PDR), a dderbyniodd Wobr Pen-blwydd y Frenhines yn ddiweddar am ragoriaeth ymchwil mewn dylunio llawfeddygol a phrosthetig. Mae ganddo gyfrifoldeb hefyd am ymchwil Ewropeaidd a chyllid menter a phob agwedd ar y ddarpariaeth myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.

Mae Sheldon yn parhau i fod yn ymchwilydd weithredol ac yn rhestru ei brif ddiddordebau fel straen sefydliadol ac wrth gystadlu, caledwch meddyliol, seicoleg anafiadau ac ymarfer proffesiynol. Mae wedi cynnal ac yn parhau i ddal nifer o swyddi golygyddol rhyngwladol proffil uchel ac yn flaenorol, fe ymgynghorodd â Thîm Nofio Lloegr mewn gwersylloedd hyfforddi a chystadlaethau rhyngwladol.

Gellir gweld crynodeb cryno o'i broffil ymchwil ar dudalen we Gwasanaethau Ymchwil a Menter​.