Cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu 2016 ar Ddydd Iau 7fed Gorffennaf yn Adeilad Ogmore, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf i gynulleidfa lawn o staff academaidd a staff cefnogi Met Caerdydd.
Cliciwch yma am drafodion y gynhadledd..
Cliciwch yma am adolygiad o ganlyniadau'r gynhadledd.
Thema'r Gynhadledd: Addysg sy'n Wynebu'r Dyfodol
Thema Cynhadledd Haf 2016 oedd 'Addysg sy'n Wynebu'r Dyfodol', oedd yn archwilio nifer o destunau cysylltiedig yn y Strategaeth Dysgu, Addysgu ac Asesu, gan gynnwys:
- Dulliau Asesu ac Adborth Arloesol (e.e. gwella / cefnogi dysgu, dilysrwydd, cadw, hyblygrwydd);
- Ymgysylltiad myfyrwyr (e.e. rôl dysgu ac addysgu wrth wella cadw myfyrwyr, hyrwyddo dysgu a gwella profiad myfyrwyr);
- Graddedigion sy'n wynebu'r dyfodol (e.e. dysgu myfyriwr-ganolog, datblygiad personol / proffesiynol, addysgegau hyblyg, rhyngwladoli - gan gynnwys dinasyddiaeth fyd-eang - a chynaliadwyedd).
Os hoffech chi gysylltu ynglŷn â'r gynhadledd, e-bostiwch ltconference@cardiffmet.ac.uk