Skip to main content
Dr Paul Angel

Dr Paul Angel

Pennaeth Adran

Adran: Adran Cyfrifiadureg

Rhif/lleoliad swyddfa: Ysgol Dechnolegau Caerdydd, Campws Llandaf

Rhif ffôn:

Cyfeiriad e-bost: pnangel@cardiffmet.ac.uk

Trosolwg/bywgraffiad byr

Dechreuais ym Met Caerdydd fel Prif Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y cwrs Dylunio a Datblygu Gemau Cyfrifiadurol. Cyn hynny rwyf wedi datblygu gemau ynghyd â chyfansoddiad cerddoriaeth a meddalwedd modelu 3D ac wedi gweithio yn y diwydiant TG ehangach yn datblygu a chynnal systemau cronfa ddata addysgol. Yn dilyn fy PhD mewn Golwg Peirianyddol, parheais yn y byd academaidd fel Cymrawd Ymchwil cyn dod yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Morgannwg yn 2001. Tra yno, roeddwn yn gyfrifol am ddatblygu ac addysgu'r modiwlau Graffeg Gyfrifiadurol a Rendro Amser Real ac ers 2014 roeddwn yn Arweinydd Cwrs ar gyfer y rhaglen Datblygu Gemau. Yn 2016 ymunais â Met Caerdydd fel Prif Ddarlithydd i ddatblygu’r rhaglen Dylunio a Datblygu Gemau.  Mae'r rhaglen wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda nifer o raddedigion yn mynd ymlaen i weithio gyda chwmnïau datblygu gemau AAA. Ers hynny, rwyf wedi ymgymryd â rôl Pennaeth Adran Cyfrifiadureg yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd.

Addysgu.

Mae fy addysgu yn canolbwyntio ar ddylunio a datblygu gemau, graffeg gyfrifiadurol a rhaglennu cyfochrog.

Ymchwil

Mae fy mhrif ddiddordebau ymchwil yn cynnwys Graffeg Gyfrifiadurol, Deallusrwydd Artiffisial (DA), Prosesu Delweddau a Golwg Peirianyddol.  Mae fy ymchwil gyfredol yn canolbwyntio ar gymhwyso technegau Graffeg Gyfrifiadurol Amser Real i ddatblygu gemau ac ysgrifennu cod cysgodi i greu effeithiau gweledol gan ddefnyddio'r Uned Prosesu Graffeg (UPG) a geir mewn cyfrifiaduron modern a dyfeisiau symudol.  Mae fy niddordebau ymchwil eraill yn cynnwys rhaglennu cyfochrog, cysyniadau rhaglennu swyddogaethol, algebra geometrig, rhaglennu gwedd-ganolog a chronfeydd data sy'n canolbwyntio ar gydrannau. 

Cyhoeddiadau allweddol

Jenkins G.J., Angel P., Joint Constraint Modeling Using Evolved Topology Generalized Multi-Layer Perceptrons (GMLP), IJSSST, Cyf. 9, Rhif 4, Rhagfyr 2008, ISSN: 1473-804x ar-lein, 1473-8031 

Angel, P. Identifying Species of Parasitic Wasp using Artificial Neural Networks. 5ed Cynhadledd Ryngwladol ar Wybodeg Ecolegol (ISEI5). 2006. 

Gold C., Angel P., Voronoi Hierarchies , Lecture Notes in Computer Science, 2006, Volume 4197/2006, 99-111, DOI: 10.1007/11863939_7 

Angel, P, "Automating the Identification of Species of Parasitic Wasp using Image Processing and Neural Networks", Cyflwyniad Poster, 2il Symposiwm Rhyngwladol ar Dechnoleg Gwybodaeth mewn Ymchwil Bioamrywiaeth, St Petersburg, 2001. 

Angel, P, Morris, C.W., "Analysing the Mallat Wavelet Transform to Delineate Contour and Textural Features", Computer Vision and Image Understanding, Cyf 80, Rhif, 3, tt. 267-288, 2000. 

Angel, P. "Multiscale Image Analysis for the Automated Localisation of Taxonomic Landmark Points and the Identification of Species of Parasitic Wasp", Ysgol Gyfrifiadura, Prifysgol Morgannwg, 2000. 

Angel, P, Morris, C.W, "A Neural Network Pipeline Architecture for Image Feature Extraction", 1st Int. Conf. in Imaging Science, Systems and Technology. Ed. H. Arabnia, 1997. 

Prosiectau a gweithgareddau eraill

Dolenni allanol