Skip to main content
Ysgol Dechnolegau Caerdydd>Cyrsiau>Gradd BSc (Anrh): Diogelwch Cyfrifiadurol

Gradd BSc (Anrh): Diogelwch Cyfrifiadurol

Blwyddyn Mynediad

Mae ein gradd mewn Diogelwch Cyfrifiadurol (a elwir yn aml yn Diogelwch Seiber) yn archwilio’r technolegau a’r arferion sydd wedi’u cynllunio i ddiogelu rhwydweithiau, cyfrifiaduron a data rhag ymosodiad neu fynediad heb awdurdod. Mae seiberddiogelwch yn faes sy’n tyfu ym mron pob sector diwydiant, ac mae angen i sefydliadau o bob math a maint amddiffyn eu hunain rhag hacio, ymosodiadau a thorri data. Gallwch ddisgwyl i gynnwys cwrs a arweinir gan y diwydiant eich paratoi ar gyfer hyn sy’n cwmpasu’r egwyddorion allweddol sy’n sail i Ddiogelwch Cyfrifiadurol; diogelwch ymosodol, diogelwch amddiffynnol a llywodraethu diogelwch gwybodaeth.

Trwy ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai technegol ac astudiaethau achos byd go iawn, byddwch yn dysgu sut mae ymosodiadau’n gweithio, y bygythiadau a’r gwendidau tebygol, a’r dulliau a ddefnyddir gan ymosodwyr. Bydd ein labordy seiberddiogelwch Cisco newydd a’r holl offer priodol, yn eich helpu i roi theori ar waith gyda phecynnau cymorth safonol y diwydiant. Byddwch yn dysgu sut i gynnal profion hacio a dadansoddiad bregusrwydd mewn sefydliadau busnes i ddatblygu systemau diogel.

Byddwch yn cael y cyfle i ymuno â chymdeithasau dan arweiniad myfyrwyr fel Capture the Flag (CTF) a Merched mewn Seiberddiogelwch (WiCyS) lle mae cystadlaethau, cefnogaeth a rhannu cyfleoedd perthnasol yn cael eu hyrwyddo. Mae ein partneriaethau diwydiannol a phroffesiynol gyda sefydliadau fel cynllun Cyber First NCSC, Canolfan Seibergadernid Cymru, Thales (NDEC), Airbus, a Charmwood Risk Management yn cryfhau’r rhaglen ac yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr i chi.

Mae modiwlau’r cwrs wedi’u hintegreiddio â chynnwys ardystio proffesiynol fel Cisco Networking (CCNA) a Hacio Moesegol Ardystiedig (CEH) yn ogystal â chael eu hintegreiddio â hyfforddiant ar gyfer Archwilio Mewnol ISO27001 i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Felly, nid yw’n syndod bod ein graddedigion wedi mynd ymlaen i sicrhau rolau a lleoliadau o fewn sefydliadau sydd wedi’u hen sefydlu fel Admiral, Heddlu De Cymru, a Chanolfan Seibergadernid Cymru.

Y cwrs hwn oedd y radd baglor gyntaf yng Nghymru i dderbyn ardystiad dros dro gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC). Mae Met Caerdydd hefyd yn Bartner Academaidd i’r Sefydliad Siartredig Diogelwch Gwybodaeth (CIISec) ac yn academi a gymeradwyir gan CREST.


Blwyddyn Sylfaen

​Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.


Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.

Cynnwys y Cwrs

Gradd

Mae’r rhaglen radd yn cynnwys nifer o fodiwlau gorfodol, gydag ystod o opsiynau yn y flwyddyn olaf i ddatblygu eich diddordebau a’ch arbenigedd penodol.

Mae gan fyfyrwyr hefyd yr opsiwn i gwblhau lleoliad blwyddyn o hyd mewn diwydiant rhwng Blwyddyn 2 a 3.

Mae pob modiwl yn 20 credyd, oni nodir yn wahanol.


Blwyddyn 1:

  • Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu
  • Egwyddorion Rhaglennu
  • Bygythiadau ac Ymosodiadau
  • Gwybodaeth, Risg a’r Gyfraith
  • Dylunio Gwe a Chronfeydd Data
  • Explore


Blwyddyn 2:

  • Cyfrifiadura Corfforol
  • Systemau a Chynhyrchion Diogel
  • Pensaernïaeth a Gweithrediadau Seiberddiogelwch
  • Diogelwch Meddalwedd
  • Expand
  • Rhwydweithiau a Diogelwch


Blwyddyn 3:

  • Rheoli Seiberddiogelwch
  • Seiberddiogelwch a Chrypograffeg
  • Hacio Moesegol
  • Prosiect Datblygu (40 credyd)

Modiwlau dewisol (dewiswch un):

  • Profiad Gwaith Diwydiannol
  • Offer a Thechnegau Lefel Isel ar gyfer Seiberddiogelwch
  • Technolegau Newydd ym maes Seiberddiogelwch
  • Fforensig


NODYN: Mae modiwlau dewisol yn dibynnu ar argaeledd a galw; felly, ni all pob modiwl dewisol redeg ar un Flwyddyn Academaidd.

Dysgu ac Addysgu

Anogir dull myfyriwr-ganolog o ddysgu ac addysgu drwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, megis labordai technegol a phrosiectau unigol a phrosiectau grŵp. Bydd astudiaethau achos go iawn ac anerchiadau gan westeion a fydd yn arbenigwyr o fyd busnes, ac â chefnogaeth Teams a Moodle, ein hamgylcheddau dysgu rhithiol, yn ychwanegu at hyn.

Oherwydd natur y rhaglen, bydd gweithdai ymarferol ar y campws ac ar-lein yn allweddol er mwyn datblygu dealltwriaeth a galluoedd technegol myfyrwyr, â sylfeini damcaniaethol sicr yn greiddiol iddyn nhw. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach drwy hunan-astudio cyfeiriedig ac amser ar gyfer dysgu annibynnol – yn ogystal â chyflawni’r gwaith ar yr amserlen – i gael datblygu portffolio proffesiynol o waith prosiect ac arteffactau meddalwedd wrth iddyn nhw symud i swyddi yn raddedigion.

Bydd Tîm y Rhaglen yn cefnogi’r myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol, o dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen. Bydd Tiwtor Personol o fewn yr Ysgol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr hefyd a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol. Cefnogir myfyrwyr hefyd gan Hyfforddwyr Myfyrwyr; mae rôl Hyfforddwr Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr cyfredol 2il, 3edd flwyddyn a Meistr sy’n darparu cefnogaeth cymheiriaid mewn Modiwlau.

Asesu

Bydd y strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a phwnc penodol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ffurfiol, aseiniadau rhaglennu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid ac astudiaethau achos.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Daw newyddion am y “seiber-ymosodiad” diweddaraf bron bob wythnos ond, er hyn, prin iawn, iawn yw’r bobl sydd â’r sgiliau priodol i gael delio â’r broblem. Mae hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar allu sefydliadau i atal yr ymosodiadau neu i ddelio â nhw. Bydd chwilio’n gyflym am “brinder sgiliau seiberddiogelwch” yn dangos i chi mor ddifrifol yw’r broblem – mewn adroddiad yn yr Independent, dim ond 31.6% o’r swyddi seiberddiogelwch gofynnol sydd wedi’u llenwi.

Gyda’r galw am raddedigion medrus yn cynyddu, bydd cwrs Diogelwch Cyfrifiadurol Met Caerdydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa heriol a buddiol mewn rôl flaengar yn amddiffyn busnes a seilwaith cenedlaethol y DU. Mae’n bosib cael profiad o’r byd go iawn yn rhan o’ch astudio drwy gwblhau lleoliad blwyddyn rhyngosod / interniaeth ddiwydiannol (opsiynol). Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, llwyddodd ein myfyrwyr i sicrhau lleoliadau mewn cynlluniau cystadleuol cenedlaethol gyda Microsoft, HP, General Electric a’r Swyddfa Dywydd.

Wedi cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd rhagor o opsiynau ar gael i astudio ar gyrsiau ôl-raddedig a addysgir ar draws cyfrifiadura a systemau gwybodaeth yma ym Met Caerdydd, yn ogystal â rhaglenni ymchwil a PhD.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.​

  • Pwyntiau tariff: 104-112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
  • Lefel T: Teilyngdod. Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu ebost askadmissions@cardiffmet.ac.uk neu trydar @CMetAdmissions.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Vibhushinie Bentotahewa:
Ebost: vibentotahewa@cardiffmet.ac.uk

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Codau UCAS:
G100 - Gradd 3 blynedd
G10F - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen)

Lleoliad Astudio: Campws Llandaf

Ysgol: Ysgol Dechnolegau Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd yn llawn amser.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
Pum mlynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen a lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.​

CWRDD Â'R TÎM
Vibhushinie Bentotahewa

Ers i mi fod yn blentyn, darlithio oedd fy mreuddwyd a ddaeth yn realiti pan ymunais â'r Ysgol Dechnolegau fel darlithydd mewn Diogelwch Cyfrifiadurol. Roedd yn ddechrau ar gyfle am ragoriaeth ac yn fraint cael gweithio gyda gweithwyr proffesiynol sydd â blynyddoedd o wybodaeth a phrofiad. Hefyd, fe wnaeth ychwanegu gwerth a momentwm at fy addysgu a'm hymchwil.

Ar wahân i addysgu, rwy'n cymryd rhan weithredol mewn ymchwil academaidd a gweithgareddau allgymorth. Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys Diogelwch Data, Diogelu Data, Preifatrwydd personol, deddfwriaeth Diogelu Data, a datblygu polisi. Rwyf bob amser yn ceisio integreiddio fy nghanfyddiadau ymchwil i addysgu ac annog y myfyrwyr i gymhwyso theori yn ymarferol.

Mae gen i angerdd dros addysgu, a fy nymuniad yw rhannu fy mhrofiad a'm gwybodaeth gyda'r myfyrwyr yn yr Ysgol Dechnolegau a'u helpu i wireddu eu potensial llawn. Wrth wneud hynny, rwy'n eu hannog i baratoi eu map ffordd eu hunain a'i ddilyn tuag at gyflawni eu huchelgeisiau a'u nodau eu hunain.

Dr Vibhushinie Bentotahewa
Darlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen BSc Cyfrifiadureg yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd

ARCHWILIO EIN CYFLEUSTERAU | TAITH RHITHIOL
Taith rithiol o amgylch Ysgol Technolegau Caerdydd

Ewch am dro rhithiol o'n Ysgol Technolegau newydd sbon ym Met Caerdydd.