Bydd y micro-gwrs Cyflwyniad i Ddylunio Gemau Fideo yn rhoi trosolwg i chi o biblinell datblygu cynnar gêm fideo.
Byddwch yn dysgu sut mae pob gêm fideo yn dechrau, o greu Dogfen Dylunio Gemau a chelf cysyniad, hyd at wneud y bloc bras cyntaf o lefel gêm mewn peiriant gêm addas, a phrofi'r mecaneg gêm a phrofiad chwaraewyr. Byddwch yn dysgu am ddylunio lefel, arferion safonol y diwydiant, a rôl y strwythur naratif – sut y gall adrodd straeon helpu i greu ymdeimlad o drochiant mewn gemau fideo.
Erbyn diwedd y micro-gwrs, byddwch wedi gwneud eich camau cyntaf i fyd dylunio a datblygu gemau.
Mae'r cwrs yn agored i bawb sydd â diddordeb mewn gemau fideo a sut maen nhw'n cael eu gwneud.
Mae micro-gyrsiau yn gyrsiau byr hyblyg, wedi'u cyflwyno mewn fformatau cymysg ar-lein ac wyneb yn wyneb. Ar hyn o bryd maent yn cael eu treialu ar draws prifysgolion Cymru heb unrhyw gost i'r dysgwr. Gallwch fynychu micro-gwrs i uwchsgilio a dysgu rhywbeth newydd, fel llwybr i gyflogaeth, neu i gael blas ar bwnc penodol. Mae micro-gwrs technoleg ddigidol ym Met Caerdydd yn ymdrin â phynciau y mae galw amdanynt gan ddiwydiant. Cliciwch yma i weld y micro-gyrsiau eraill ym Met Caerdydd.