Skip to main content
Ysgol Dechnolegau Caerdydd>Cyrsiau>Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol ac Electronig - Gradd BEng / MEng (Anrh)

Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol ac Electronig - Gradd BEng / MEng (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Bydd y radd integredig hon mewn Peirianneg Systemau Electronig a Chyfrifiadurol yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio gyda meddalwedd a chaledwedd i ddylunio systemau electronig a chyfrifiadurol cyffrous. Byddwch yn rhoi theori ar waith o’r diwrnod cyntaf, gan weithio yn ein cyfleusterau arloesol sy’n cynnwys dadansoddwyr mesur cylchedau electronig, citiau offeryniaeth rhithwir, argraffwyr prototeipio PCB, offer dylunio cylchedau ac efelychu, rhyngrwyd pethau a thechnoleg diwydiant 4.0.

Byddwch yn dysgu sut i gyfuno meddalwedd a chaledwedd i ddylunio’r systemau electronig a chyfrifiadurol cyffrous sy’n siapio ein ffordd o fyw. Yn seiliedig ar ymchwil blaenllaw ac wedi’i dylunio gyda mewnbwn diwydiannol cryf, mae’r radd yn rhoi gwybodaeth drylwyr i chi mewn pynciau peirianneg craidd fel theori trydanol, electroneg a chyfrifiadurol, electroneg analog a digidol yn ogystal â rhaglennu caledwedd lefel isel. Bydd cymhwyso mathemateg i ddyluniad systemau rheoli yn rhoi cipolwg i chi ar leoli a thrin peiriannau awtomataidd. Yn ogystal, byddwch yn ymdrin â phrosesu signal digidol, Rhyngrwyd Pethau, ac yn mynd i’r afael â materion proffesiynol a moesegol mewn peirianneg.

Gellir cael profiad byd go iawn fel rhan o’ch astudiaeth trwy gwblhau lleoliad rhyngosod blwyddyn / interniaeth ddiwydiannol ddewisol. P’un a ydych am weithio mewn diwydiant, lansio’ch cwmni eich hun, neu fynd i mewn i fyd ymchwil a datblygu, bydd y radd yn rhoi’r cyfle i chi achub y blaen ar gyfer gyrfa yn y sector hwn sy’n tyfu’n gyflym.

Mae’r rhaglen hon yn ceisio achrediad gyda’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg ar ran y Cyngor Peirianneg at ddibenion bodloni’r gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion achredu a gyda’r bwriad o ôl-ddyddio’r dyddiad effeithiol i gynnwys yr holl fyfyrwyr sy’n graddio o’r rhaglen.

Blwyddyn Sylfaen

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.


Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.

Cynnwys y Cwrs

​Blwyddyn 1

Bydd Blwyddyn 1 yn ymdrin â nifer o bynciau a luniwyd i roi sylfaen eang i dechnegau ac egwyddorion peirianneg a ddefnyddir mewn systemau electronig a chyfrifiadurol. Byddwch yn astudio theori ac ymarfer dylunio systemau analog a digidol, ac yn cyflwyno byd cyffrous systemau mecanyddol ac electroneg mewn cyfuniad (mecatroneg). Bydd eich gwaith yn cael ei ategu gan gyfarwyddyd mewn mathemateg peirianneg gymhwysol, a datblygu a threfnu datrysiadau adeiladu meddalwedd. Bydd gwaith prosiect yn eich galluogi i atgyfnerthu’r deunydd a gwmpesir gan systemau sy’n datblygu i ddatrys problemau byd go iawn.

Modiwlau:

  • Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu
  • Egwyddorion Rhaglennu
  • Electroneg Analog a Digidol 1
  • Peirianneg Mathemateg 1
  • Cyflwyniad i Fecatroneg
  • Explore


Blwyddyn 2

Bydd Blwyddyn 2 yn adeiladu ar bynciau a themâu Blwyddyn 1 i gael cyflwyno nifer o bynciau ychwanegol a fydd wedi’u dylunio i roi golwg ddyfnach i chi ar dechnegau ac egwyddorion peirianneg a ddefnyddir o fewn systemau electronig a chyfrifiadurol. Bydd yn ymdrin â theori ac ymarfer dylunio signalau, systemau a chyfathrebiadau. Cewch y cyfle i adeiladu systemau electronig i gyfnerthu’r gwaith damcaniaethol drwy ddatblygu prosiectau caledwedd. Bydd cymhwyso mathemateg i ddylunio systemau rheoli yn rhoi mewnwelediad i chi i leoli ac i drin peirianwaith awtomataidd. Byddwch yn dysgu sut bydd rhaid datblygu systemau electronig a chyfrifiadurol gan fod yn ymwybodol o anghenion bygythiad seiber. Bydd opsiynau rheoli prosiectau a sgiliau ymchwil yn cael eu trafod hefyd. Byddwch yn ymgymryd â gwaith prosiect helaeth hefyd er mwyn cyfnerthu eich dysgu drwy ddatblygu systemau i ddatrys problemau go iawn.

Modiwlau:

  • Electroneg Analog a Digidol 2
  • Mathemateg Peirianneg 2
  • Cyfrifiadura Ffisegol
  • Systemau Rheoli
  • Signalau a Systemau Cyfathrebu
  • Rheoli Prosiectau Peirianegol


Blwyddyn 3

Bydd Blwyddyn 3 yn ymdrin ag ystod o bynciau mewn ffordd fwy manwl. Gan y byddwch wedi datblygu sgiliau rhaglennu yn ystod blynyddoedd blaenorol, byddwch nawr yn mynd ymlaen i gymhwyso’r sgiliau hyn i raglennu caledwedd a sglodion rheolyddion a microbrosesyddion arbenigol. Bydd y gwaith yn parhau i ddatblygu ac i ddwysáu eich dealltwriaeth o systemau analog a digidol, gan gynnwys systemau cyfathrebu a phŵer electronig. Yn ogystal â’r modiwlau craidd, ceir opsiynau i astudio deallusrwydd artiffisial a sut y gellir ei gymhwyso i roboteg a chymwysiadau rheoli awtomataidd; saernïaeth gyfrifiadura uwch; seiberddiogelwch; ynghyd â rheoli prosiectau technegol. Bydd prosiect unigol yn eich galluogi i gyfnerthu eich dysgu drwy ddatblygu systemau i gyfrannu tuag at ddatrys problem go iawn o’ch dewis.

Bydd y dewis gan y myfyrwyr hefyd i gwblhau lleoliad blwyddyn mewn diwydiant rhwng Blynyddoedd 2 a 3.

Modiwlau:

  • Prosiect Ymarferol Peirianneg Proffesiynol
  • Systemau ac Electroneg Pŵer
  • Rhaglennu Caledwedd Lefel-isel
  • Prosesu Signalau Digidol

Opsiynol:

  • Systemau Paralel a Gwasgaredig
  • Deallusrwydd Cyfrifiadurol
  • Systemau Cyfathrebu Digidol ac Analog
  • Profiad Gwaith Diwydiannol (Lleoliad)


Blwyddyn 4

Gan adeiladu dealltwriaeth eang a dwys o’r pynciau a gyflwynir yn nhair blynedd gyntaf y rhaglen, bydd Blwyddyn 4 yn eich galluogi i feistroli sgiliau uwch ar draws pynciau cymhleth. Bydd yn gwneud hyn drwy ymdrin â phynciau craidd yn Rhyngrwyd Pethau, technegau mesur ac offeru ar gyfer casglu data. Bydd prosiect datblygu grŵp yn rhoi’r cyfle i chi ddod â llawer o’r pynciau a fydd wedi’u trafod yn y rhaglen at ei gilydd, yn ogystal â galluogi archwiliad o ddiddordeb penodol neu faes datblygu. Yn ogystal â’r agweddau craidd hyn, ceir cyfleoedd i archwilio’n fanylach bynciau a fydd yn amrywio o ddeallusrwydd artiffisial a chywasgu delweddau hyd at archwilio technolegau newydd yn y dyfodol. Ceir cyfle hefyd i ymgymryd â lleoliad diwydiannol byr a all fod yn ddefnyddiol iawn i sicrhau swyddi yn y dyfodol.

Modiwlau:

  • Prosiect Datblygu Tîm
  • Rhyngrwyd Pethau
  • Materion Proffesiynol a Moesegol mewn Peirianneg
  • Mesur ac Offeru

Opsiynol:

  • Ffiniau mewn Technoleg
  • Interniaeth
  • Cywasgu Delweddau a Fideo
  • Prosesu Signalau Uwch
  • Rhaglennu ar gyfer Dadansoddi Data

Dysgu ac Addysgu

Anogir dull myfyriwr-ganolog o ddysgu ac addysgu drwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, megis labordai technegol a phrosiectau unigol a phrosiectau grŵp. Bydd astudiaethau achos go iawn ac anerchiadau gan westeion a fydd yn arbenigwyr o fyd busnes, ac â chefnogaeth Teams a Moodle, ein hamgylcheddau dysgu rhithiol, yn ychwanegu at hyn.

Oherwydd natur y rhaglen, bydd gweithdai ymarferol ar y campws ac ar-lein yn allweddol er mwyn datblygu dealltwriaeth a galluoedd technegol myfyrwyr, â sylfeini damcaniaethol sicr yn greiddiol iddyn nhw. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach drwy hunan-astudio cyfeiriedig ac amser ar gyfer dysgu annibynnol – yn ogystal â chyflawni’r gwaith ar yr amserlen – i gael datblygu portffolio proffesiynol o waith prosiect ac arteffactau meddalwedd wrth iddyn nhw symud i swyddi yn raddedigion.

Bydd Tîm y Rhaglen yn cefnogi’r myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol, o dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen. Bydd Tiwtor Personol o fewn yr Ysgol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr hefyd a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol. Cefnogir myfyrwyr hefyd gan Hyfforddwyr Myfyrwyr; mae rôl Hyfforddwr Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr cyfredol 2il, 3edd flwyddyn a Meistr sy’n darparu cefnogaeth cymheiriaid mewn Modiwlau.

Asesu

Bydd y strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a phwnc penodol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ffurfiol, aseiniadau rhaglennu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid ac astudiaethau achos.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae’r gymdeithas fodern yr ydym yn byw ynddi yn dibynnu’n fawr ar dechnoleg, ac mae’r chwyldro digidol wedi chwarae rhan sylweddol yn y broses o dwf cyflwym dyfeisiau clyfar a rhyng-gysylltiedig mewn gofal iechyd, amaethyddiaeth, gofod, awtomeiddio a thelathrebu. Mae’r datblygiadau hyn wedi arwain at amhariadau a newidiadau sylweddol, gyda pheirianwyr yn gyrru’r trawsnewidiadau hyn. O ganlyniad, mae gyrfaoedd mewn peirianneg yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gwerthfawr.

Yn y Deyrnas Unedig, mae’r proffesiwn peirianneg yn cael ei oruchwylio gan sefydliadau proffesiynol sy’n gweithredu ar ran y Cyngor Peirianneg. Mae’r sefydliadau hyn yn sefydlu’r safonau ar gyfer addysg, hyfforddiant a phrofiad sydd eu hangen i gofrestru fel Peiriannydd Corfforedig neu Beiriannydd Siartredig. Mae’r safonau hyn yn cyd-fynd â chymwysterau a gydnabyddir yn rhyngwladol, gan sicrhau bod gweithwyr peirianneg proffesiynol yn ennill cydnabyddiaeth fyd-eang o fewn y diwydiant.

Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn bodloni’r cymwyseddau gofynnol ar gyfer addysg, bydd rhaglenni peirianneg Met Caerdydd yn ceisio achrediad trwy’r sefydliad peirianneg mwyaf priodol – y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET). Mae’n ofynnol i raglenni newydd gyflwyno tystiolaeth o garfan lawn (myfyrwyr yn graddio’n llwyddiannys dros 4 blynedd y cwrs) i’w harchwilio cyn dyfarnu Achrediad llawn. Unwaith y caiff ei ddyfarnu, yna gall pob myfyriwr sydd wedi mynychu’r cwrs hwnnw hawlio eu bod wedi mynychu rhaglen gydnabyddedig ac felly fod yn gymwys i gael cydnabyddiaeth lawn (MEng) neu rannol (BEng) o’r safon addysg ofynnol ar gyfer cofrestriad proffesiynol.

Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i ymgymryd â blwyddyn allan opsiynol mewn diwydiant i ategu eu hastudiaethau gyda phrofiad byd go iawn o waith peirianneg mewn amgylchedd masnachol. Bydd hyn yn eu paratoi’n well ar gyfer mynd i mewn i’r gweithle ar ôl graddio.

Mae myfyrwyr sy’n gwneud yn dda ar y rhaglen hefyd yn cael cynnig cyfleoedd i astudio ar lefel uwch ar gyfer cymwysterau ôl-raddedig mewn pynciau technoleg a pheirianneg trwy raglenni pellach a addysgir neu drwy ymchwil.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.​

  • Pwyntiau tariff: 112-120 (Gradd BEng) neu 120-128 (Gradd MEng)
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau BCC gan gynnwys gradd C yn Mathemateg neu Ffiseg. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM (Gradd BEng) neu DDM (Gradd MEng). Gan gynnwys 6 Clod yn y modiwlau Mathemateg neu Ffiseg.
  • Lefel T: Teilyngdod. I gynnwys Mathemateg neu Ffiseg.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: I gynnwys Mathemateg neu Ffiseg.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. I gynnwys Mathemateg neu Ffiseg.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 3 x gradd H2. I gynnwys Mathemateg neu Ffiseg. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau CD. I gynnwys Mathemateg neu Ffiseg. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bost askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Jasim Uddin:
E-bost: JUddin@@cardiffmet.ac.uk

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Codau UCAS:
BEng - Gradd 3 blynedd - G801
BEng - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen) - G81F
MEng - Gradd 4 blynedd - G800
MEng - Gradd 5 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen) - G80F

Lleoliad Astudio: Campws Llandaf

Ysgol: Ysgol Dechnolegau Caerdydd

Hyd y Cwrs:
3-5 mlynedd llawn amser yn dibynnu ar ddilyn y llwybr BEng neu MEng ac ymgymryd â blwyddyn sylfaen.​

CWRDD Â'R TÎM
Jasim Uddin

Mae gan Dr Jasim bortffolio ymchwil helaeth a gydnabyddir yn fyd-eang ym meysydd Peirianneg Electromagneteg, Metaddeunyddiau, RF a Microdon. Mae'n cymhwyso ei harbenigedd i ystod amrywiol o gymwysiadau ymarferol, gan gynnwys gofal iechyd, amddiffyn a thechnolegau gofod, cynaeafu ynni, a chyfathrebu diwifr. Dr. Mae Jasim yn dal swydd uchel ei pharch fel uwch aelod IEEE a hefyd yn aelod gweithredol o IET. Mae hefyd yn cael ei chydnabod a'i anrhydeddu fel Cymrawd nodedig o Advanced HE.

Trwy gydol ei gyrfa, mae Dr Jasim wedi goruchwylio nifer o brosiectau rhyngwladol mewn cydweithrediad â gwahanol sefydliadau o Awstralia, Malaysia, Canada, a Bangladesh mewn disgyblaethau amrywiol gan gynnwys metamaterials, amledd radio (RF), a microdonnau. Ar hyn o bryd, mae hi'n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Rhaglen Peirianneg Systemau Electroneg a Chyfrifiadurol (ECSE). Yn ogystal, mae'n cyfrannu'n weithredol at y gymuned academaidd fel aelod o bwyllgor panel achredu Ysgol Dechnolegau Caerdydd (YDC).

Mae arbenigedd Dr Jasim yn cael ei gydnabod ymhellach trwy ei rôl fel golygydd rhifyn arbennig yng nghylchgrawn Symmetreg, yn benodol ym maes 'Advancements in Energy Harvesting, Metamaterials, and their Integrated Multifunctional Systems'. Mae ei chyfranogiad mewn nifer o gynadleddau rhyngwladol IEEE yn amlwg gan ei fod yn dal swyddi o gyfrifoldeb mawr, gan gynnwys cadeirydd pwyllgor rhaglen dechnegol (TPC), cadeirydd y pwyllgor, a chadeirydd sesiwn. Dr. Dangosir cyfraniadau rhyfeddol Jasim yn glir gan ei awduraeth neu gyd-awduriaeth o dros 40 o gyhoeddiadau, sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth amlwg mewn cyfnodolion uchel eu parch, cynadleddau, a phenodau mewn llyfrau.

Dr Jasim Uddin
Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen mewn Peirianneg Electroneg a Systemau Cyfrifiadurol yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd

ARCHWILIO EIN CYFLEUSTERAU | TAITH RHITHIOL
Taith rithiol o amgylch Ysgol Technolegau Caerdydd

Ewch am dro rhithiol o'n Ysgol Technolegau newydd sbon ym Met Caerdydd.