Astudio>Ehangu Mynediad>Cyrsiau Achrededig

 Cyrsiau Achrededig

I gofrestru ar y cyrsiau achrededig rhad ac am ddim canlynol, rhaid bod gennych lefel ofynnol o Saesneg, megis TGAU gradd C neu IELTS 6.0 neu gyfwerth. Cyflwynir yr holl gyrsiau hyn trwy gyfrwng Saesneg.

Arfer Celf a Dylunio


​Mae'r cwrs achrededig newydd sbon hwn yn canolbwyntio ar adeiladu eich arfer celf a dylunio yn fwy ffurfiol. Bydd yn mynd â chi ar daith sy’n ehangu eich sgiliau ymchwilio a datrys problemau ac yn cryfhau eich gallu i archwilio thema yn greadigol, tra’n adeiladu ar eich gwybodaeth bresennol am liw, dylunio a phatrwm. Bydd y cwrs yn eich galluogi i arddangos eich sgil, gwybodaeth a gallu i eraill mewn ffordd frwdfrydig a chydlynol trwy ddatblygu portffolio. Er bod y cwrs hwn yn canolbwyntio ar decstilau, gellir cymhwyso'r theori a'r sgiliau i ddisgyblaethau creadigol ehangach. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddysgu am a defnyddio cyfleusterau yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd​.

Cynlluniwyd y cwrs i baratoi dysgwyr ar gyfer astudio ar lefel Prifysgol a chefnogi dilyniant i ystod eang o gyrsiau israddedig a gynigir yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd​, yn dibynnu ar brofiad a chymwysterau blaenorol.

Dyddiadau ac amseroedd
Bob Dydd Mawrth, 30 Ebrill 2024 - 4 Mehefin 2024 (ac eithrio gwyliau banc a gwyliau ysgol)
9:30yb - 1:30yp
Lleoliad: Prifysgol Metropolian Caerdydd, Campws Llandaf