Gwasanaethau Myfyrwyr>Anabledd, Iechyd Meddwl a Dyslecsia>Gwybodaeth Cynorthwyydd Anfeddygol (NMH) ar gyfer Aseswyr

Gwybodaeth Cynorthwyydd Anfeddygol (NMH) ar gyfer Aseswyr



Er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn cefnogaeth o'r ansawdd uchaf wrth astudio ym Met Caerdydd, mae tîm o arbenigwyr mewnol, gan gynnwys Tiwtoriaid Sgiliau Astudio Arbenigol a Mentoriaid Arbenigol ar gael i gynnig cymorth un-i-un​.

Mae pob Arbenigwr Band 4 yn gallu diwallu anghenion ein myfyrwyr gan fod ganddynt wybodaeth ymarferol lawn o brosesau a systemau Met Caerdydd ac mae ganddynt fynediad i ystafelloedd pwrpasol ar draws ein safleoedd.

Fel rhan o ymrwymiad Met Caerdydd i gefnogi myfyrwyr, rydym hefyd yn cynnwys Gweithwyr Cymorth (Band 1 a 2) a ariennir gan y Brifysgol, lle nad yw cefnogaeth bellach yn cael ei hariannu trwy'r Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA).


Cyfraddau NMH​

Mae'r tabl cyfraddau isod yn dangos ein cyfraddau NMH ar hyn o bryd - 01/09/2023 hyd at 31/08/2024​.

Sylwer: Cyfraddau Cymorth NMH fesul awr a ddangosir yn y tabl isod. Cyfradd Safonol (yn bersonol).


Net TAW Cyfanswm
Hwyluswyr Mynediad a Dysgu Arbenigol Band 4
Mentor Arbenigol - Iechyd Meddwl£53.00£0.00£53.00
Mentor Arbenigol - ASC£53.00£0.00£53.00
Cymhorthydd Sgiliau Astudio Arbenigol 1:1 - SpLD£53.00£0.00£53.00
Cymhorthydd Sgiliau Astudio Arbenigol 1:1 - ASC​£53.00£0.00£53.00