Astudio>New Students>Cofrestru

Cofrestru

​​


Y broses gofrestru yw'r hyn sy'n eich cadarnhau fel myfyriwr swyddogol.

Fel myfyriwr Cartref newydd, pan fydd eich lle wedi'i gadarnhau a'ch bod wedi bodloni holl amodau anacademaidd eraill eich cynnig fel DBS os yw'n berthnasol i'ch cwrs, anfonir e-bost atoch gyda chyfarwyddiadau ar sut i gofrestru o fis Gorffennaf ymlaen. Sylwch: Ni fyddwch chi'n gallu cofrestru ac ni ddylech geisio gwneud hynny hyd nes eich bod chi wedi derbyn eich neges e-bost gan Derbyniadau.

Os ydych chi'n fyfyriwr Rhyngwladol newydd, ni fydd yn ofynnol i chi gofrestru ar-lein cyn cyrraedd Met Caerdydd. Mae hyn oherwydd ei bod yn ofyniad cyfreithiol i'r brifysgol wirio dogfennau mewnfudo cyn y caniateir ichi gofrestru ar eich cwrs. I gael mwy o wybodaeth am gofrestru myfyrwyr rhyngwladol ac i gael rhestr o ddogfennau y bydd angen i chi ddod â nhw gyda chi, ewch i dudalennau Myfyrwyr Rhyngwladol neu cysylltwch â Thîm Cydymffurfiaeth Mewnfudo /029 2041 5644.

Ar gyfer rhaglenni Ôl-raddedig, Rhan-Amser ac Ymchwil gyda dyddiad cychwyn ym mis Ionawr, Ebrill neu Orffennaf, arhoswch nes eich bod wedi derbyn e-bost i gadarnhau eich bod yn gallu cofrestru'n agosach at eich dyddiad cychwyn penodol.

Er mwyn cynnal eich statws fel myfyriwr Met Caerdydd, mae'n ofynnol i chi gofrestru ar gyfer pob blwyddyn rydych chi'n astudio gyda ni. Fe'ch cyfeirir at y wybodaeth berthnasol gan ein Tîm Cofrestru pan fyddwch yn barod i ailgofrestru. Gweler y wybodaeth isod am y broses berthnasol i chi.

I weld Telerau ac Amodau eich cofrestriad Telerau ac Amodau.

Gellir darparu fersiwn Gymraeg o Delerau ac Amodau eich cofrestriad ar gais.

 

Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â:
Cofrestru - 029 2020 5669 - Dolen Cymorth Cofrestru
​Derbyniadau - 029 2041 6010 / askadmissions@cardiffmet.ac.uk​

Myfyrwyr Newydd​

Fel ymgeisydd Israddedig neu Hyfforddiant Athrawon UCAS newydd, anfonwyd e-bost atoch yn eich hysbysu eich bod yn barod i gofrestru trwy Gofrestriad Hunan Wasanaeth unwaith y bydd eich lle wedi'i gadarnhau a'ch bod wedi bodloni holl amodau eich cynnig.  

Os ydych chi wedi gwneud cais am un o'n rhaglenni Rhan-amser, Ôl-raddedig neu Ymchwil, sy'n dechrau ym mis Ionawr, Ebrill neu Orffennaf, byddwch yn derbyn yr e-bost hwn yn agosach at eich dyddiad cychwyn penodol. 

Os nad ydych wedi derbyn yr e-bost cofrestru, gallai fod nifer o resymau am hyn:

  • Rydych chi'n cychwyn rhaglen sy'n gofyn am wiriad DBS Uwch nad yw wedi'i gwblhau ar-lein eto
  • Rydych yn cychwyn rhaglen sy'n gofyn am wiriad Iechyd Galwedigaethol lle nad yw Derbyniadau wedi derbyn cydnabyddiaeth ei fod wedi'i gwblhau
  • Nid ydych wedi anfon eich cymwysterau yn unol â chais Derbyniadau
  • Anfonwyd eich e-bost i hen gyfrif nad ydych yn ei ddefnyddio mwyach; neu efallai ei fod wedi'i anfon i'ch blwch Sothach

Os ydych chi'n perthyn i unrhyw un o'r uchod, cysylltwch â Derbyniadau a all eich cynghori ymhellach.

Os ydych chi'n fyfyriwr blaenorol ym Met Caerdydd, bydd gennych gyfrif Hunan Wasanaeth eisoes a bydd angen i chi ddefnyddio'ch manylion mewngofnodi blaenorol. Os nad ydych yn siŵr beth yw eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair, cysylltwch â Derbyniadau, a all eu hailosod ar eich rhan. Fel arall, os oes angen i chi ailosod eich cyfrinair yn unig, cliciwch yma.

Myfyrwyr presennol sy’n symud ymlaen o'r Radd Sylfaen i Flwyddyn 1

Os ydych chi'n fyfyriwr sy'n mynd o'r Radd Sylfaen i Flwyddyn 1 o'ch gradd berthnasol, dylech fod wedi derbyn, cwblhau a dychwelyd Ffurflen Datganiad o Fwriad i Symud Ymlaen i'n tîm Cofrestru neu'ch Ysgol berthnasol. Ar y ffurflen hon byddech wedi nodi'r radd yr ydych yn bwriadu symud ymlaen iddi. Unwaith y bydd y byrddau arholi wedi cadarnhau eich bod yn gymwys i symud ymlaen, anfonir Telerau ac Amodau atoch i'w llofnodi a'u dychwelyd fel cadarnhad terfynol o'r dilyniant gradd o'ch dewis. Yn dilyn hyn, byddwch yn cael eich cofrestru'n awtomatig ar y radd o'ch dewis gan y tîm Cofrestru.


Eithriad -- Os gwnaethoch ddechrau'r Radd Sylfaen gan arwain at BSc Gwyddorau Iechyd gyda chytundeb i symud ymlaen i un o'r rhaglenni gradd rhestredig isod, bydd eich cynnig wedi'i brosesu trwy'ch cais UCAS a dderbyniwyd yn y flwyddyn academaidd gyfredol gyda'ch amodau wedi'u nodi ar Trac UCAS. Mae symud ymlaen yn amodol ar Farciau Terfynol eich Bwrdd Arholi ar yr ymgais gyntaf a chytundeb Cyfarwyddwr y Rhaglen. Cyfeiriwch at y tab Myfyrwyr Newydd uchod i gael manylion am y broses gofrestru berthnasol i chi. 

BSc (Anrh) Technoleg Ddeintyddol
BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd
BSc (Anrh) Maeth Dynol a Deieteg
BSc (Anrh) Podiatreg

Bydd angen i chi ddarllen Gwybodaeth Ymsefydlu eich gradd a gwneud nodyn o'ch digwyddiadau wythnos ymsefydlu sy'n ddigwyddiadau gorfodol ar gyfer eich cwrs newydd. Bydd angen i chi hefyd gael MetCard newydd i sicrhau eich bod yn cael y mynediad cywir ar draws y campws ar gyfer ystafelloedd a chyfleusterau.

Defnyddiwch hefyd ein Llyfrgell Manyleb Rhaglen trwy fewngofnodi fel myfyriwr presennol gyda'ch ID Myfyriwr, Cyfenw a Dyddiad Geni.

Ar ôl i chi gael eich cofrestru, dylech allu cyrraedd porth eich myfyriwr gan ddefnyddio'ch manylion mewngofnodi gwreiddiol. Os ydych wedi anghofio, neu angen newid, eich cyfrinair Met Caerdydd, gallwch ddefnyddio'r ddolen hon - Ailosod Cyfrinair.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'ch cyllid myfyrwyr, cliciwch ar y Dolen Cymorth Cofrestru​.


Myfyrwyr presennol sy’n symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf - Gradd ac Ôl-radd

Y dyddiad cynharaf y bydd yr hysbysiad i ailgofrestru yn cael ei anfon at y myfyrwyr hynny sy'n gymwys i symud ymlaen yw:

6 Gorfennaf 2023

Os ydych chi naill ai'n fyfyriwr llawn amser neu ran-amser yn dychwelyd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd byddwch chi'n gallu cofrestru trwy'r Eicon Ailgofrestru ar dudalen we Ystafell Myfyrwyr ar ôl i chi dderbyn eich hysbysiad i ailgofrestru.

Bydd Myfyrwyr Adalw (y rhai sydd angen ailgyflwyno gwaith cwrs neu ail-sefyll asesiadau) yn gallu hunan-gofrestru gan ddefnyddio manylion mewngofnodi blaenorol ar ôl cwblhau'r asesiad gofynnol yn llwyddiannus. Byddwch yn derbyn e-bost i'ch cyfrif Met Caerdydd a'ch cyfeiriad e-bost personol rhwng 19 a 21 Medi.

Sylwch: Ni fydd yn bosibl ichi gofrestru cyn i chi dderbyn y wybodaeth hon. Os nad ydych wedi derbyn e-bost ynghylch eich cofrestriad erbyn 26 Medi, cliciwch ar y Dolen Cymorth Cofrestru a fydd yn gallu eich cynghori ynghylch eich statws i ailgofrestru.​

Myfyrwyr presennol sy’n symud ymlaen i raglen Ychwanegol

Os ydych chi'n fyfyriwr sy'n gorffen un o'n HND/Graddau Sylfaen ac eisiau ychwanegu at y flwyddyn olaf, dylech fod wedi derbyn, cwblhau a dychwelyd Ffurflen Datganiad o Fwriad i Symud Ymlaen i'ch Ysgol. Ar y ffurflen hon byddech wedi nodi'r radd yr ydych yn bwriadu symud ymlaen iddi.

Unwaith y bydd y byrddau arholi wedi cadarnhau eich bod yn gymwys i symud ymlaen, anfonir Telerau ac Amodau atoch i'w llofnodi a'u dychwelyd fel cadarnhad terfynol o'r dilyniant gradd o'ch dewis. Yn dilyn hyn, byddwch yn cael eich cofrestru'n awtomatig ar y radd o'ch dewis gan y tîm Cofrestru.

Gall myfyrwyr ychwanegu at eu gradd gan ddilyn y rhaglenni canlynol:

Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd​

  • Gall myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer Gradd Sylfaen mewn Cyfathrebu Graffig ychwanegu drwy ymuno â blwyddyn olaf BA (Anrh) Cyfathrebu Graffig
  • Gall myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer Gradd Sylfaen mewn Cerameg ychwanegu drwy ymuno â blwyddyn olaf BA (Anrh)Cerameg
  • Gall myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer Gradd Sylfaen mewn Arfer Tecstilau Cyfoes ychwanegu drwy ymuno â blwyddyn olaf BA (Anrh)Tecstilau

Yn y drydedd flwyddyn ym Met Caerdydd, cwblheir Traethawd Hir. Wrth baratoi ar gyfer y cyfnod astudio dwys hwn, mae Met Caerdydd yn gwahodd myfyrwyr sydd â diddordeb i fynychu dosbarthiadau Paratoi Traethawd Hir yn nhymor olaf y Radd Sylfaen.

Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

  • Gall myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer HND Iechyd a Gofal Cymdeithasol ychwanegu drwy ymuno â blwyddyn olaf BSc (Anrh) Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Gall HNC Astudiaethau Tai ymuno â BSc (Anrh) Astudiaethau Tai
  • Gall graddedigion BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyffredin ychwanegu i fod â BSc Anrhydedd
  • Gall myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer HND Hyfforddi a Pherfformio Chwaraeon ychwanegu drwy ymuno â blwyddyn olaf BSc Hyfforddi Chwaraeon neu BSc (Anrh) Dadansoddiad Perfformiad Chwaraeon
  • Gall myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer HND Perfformiad a Hyfforddiant Chwaraeon ychwanegu drwy ymuno â blwyddyn olaf BSc Hyfforddi Chwaraeon neu BSc Dadansoddiad Perfformiad Chwaraeon

 

Cwblhau'r Broses Gofrestru

Fel ymgeisydd newydd, byddwch yn derbyn e-bost i'r cyfeiriad e-bost personol a roddwyd ar eich cais cyfredol.  

I gael arweiniad ar y broses gofrestru ac arweiniad fesul cam fel myfyriwr newydd cyfeiriwch at ein harweiniad.

Fel myfyriwr cyfredol, i gael arweiniad ar y broses gofrestru ac arweiniad fesul cam fel myfyriwr newydd cyfeiriwch at ein canllaw.

Cofiwch sicrhau eich bod yn parhau hyd ddiwedd yr holl sgriniau yn y system gofrestru i gwblhau'r broses yn llawn. Ar dudalen olaf y broses, cliciwch y botwm Parhau ar waelod ochr dde'r sgrin i gadarnhau eich statws cofrestredig. Bydd hyn yn mynd â chi i'n tudalen Ar ôl i chi Gofrestru lle byddwch chi'n dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol a beth i'w ddisgwyl nesaf.

Cwestiynau Cyffredin am Gofrestru (ar gyfer pob myfyriwr)

Cliciwch isod i gael rhestr o ymholiadau cyffredin y mae myfyrwyr wedi'u gofyn:

Cwestiynau Cyffredin am Gofrestru

Os na allwch ddod o hyd i'r ateb i'ch ymholiad isod neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cliciwch ar y Dolen Cymorth Cofrestru.

​ ​​​