Ffioedd a Chyllid>Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau>Cwestiynau am y Wobr Bywyd Astudio

Cwestiynau am y Wobr Bywyd Astudio


Rwy'n credu fy mod i’n byw mewn ardal cyfranogiad isel mewn Addysg Uwch ond nid yw Gwirydd Cymhwysedd Cymdogaethau Cyfranogiad Isel Met Caerdydd yn cadarnhau hyn. Ydw i'n gymwys ar gyfer y dyfarniad Bywyd Astudio? 

Os nad yw ein Gwirydd Cymhwysedd Cymdogaethau Cyfranogiad yn nodi eich cod post fel ardal cyfranogiad isel dynodedig, mae arnaf ofn na fyddwch yn gymwys i dderbyn y dyfarniad. Rydym yn ddibynnol ar asiantaethau allanol er mwyn diweddaru'r data hwn a gall y data hwn newid. Ar hyn o bryd, mae codau post wedi’u categoreiddio yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019, systemau codio POLAR4 Ifanc, ac Adult HE 2011. Darparwyd y data gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ym Mai 2022.   


​​Rydw i eisoes yn astudio ym Met Caerdydd. A fyddaf yn cael fy ystyried ar gyfer y dyfarniad Bywyd Astudio? 

Ar hyn o bryd, dim ond myfyrwyr israddedig newydd sy’n cael eu hasesu’n awtomatig ar gyfer y fwrsariaeth. I weld telerau ac amodau llawn y dyfarniad, ewch i'n tudalen we Bywyd Astudio. Os ydych chi'n fyfyriwr presennol ym Met Caerdydd ac yn profi anawsterau ariannol, cysylltwch â'n gwasanaeth cynghori myfyrwyr ar financeadvice@cardiffmet.ac.uk i gael cyngor.


Beth ddylwn ei wneud ar ôl imi gael cadarnhad y byddaf yn derbyn y dyfarniad?

Unwaith y bydd y bwrsariaethau wedi'u dyrannu a'u cyfathrebu i fyfyrwyr (heb fod yn hwyrach na 30ain Medi), bydd studylife@cardiffmet.ac.uk yn cysylltu â chi gyda manylion am eich pecyn dyfarnu. Dim ond unwaith y byddwch wedi cofrestru'n llwyddiannus ar eich cwrs gradd amser llawn, ac unwaith y bydd eich cwrs wedi dechrau, y gellir actifadu taliadau a darpariaeth elfennau unigol y dyfarniad. Os na fydd unrhyw un o elfennau cydran y fwrsariaeth Bywyd Astudio wedi’u hactifadu erbyn 1 Rhagfyr 2022, bydd y cynnig bwrsariaeth yn cael ei ddiddymu a'i ailddyrannu i fyfyriwr arall.


A fydd angen imi ailymgeisio ar gyfer y dyfarniad bob blwyddyn?

Caiff eich cymhwysedd ar gyfer y dyfarniad Bywyd Astudio ei asesu bob blwyddyn academaidd yn erbyn y telerau ac amodau a chewch e-bost yn ystod pob blwyddyn yr ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun. Mae taliad y dyfarniad Bywyd Astudio yn ystod y blynyddoedd hynny sy’n dilyn blwyddyn gyntaf eich presenoldeb yn amodol ar wneud cynnydd i'r flwyddyn astudio rifol nesaf (e.e. o 0FT09 i 1FT09) yn llwyddiannus a bodloni'r meini prawf cymhwysedd flwyddyn ar ôl blwyddyn. 

Rwy'n derbyn y dyfarniad Bywyd Astudio a byddaf yn parhau â'm hastudiaethau i bedwaredd flwyddyn. A fyddaf i'n dal i dderbyn y dyfarniad? 

Bydd myfyrwyr o lefel sylfaen i’r bedwaredd flwyddyn yn cael eu hystyried ar gyfer y fwrsariaeth. Caniateir pedwaredd flwyddyn i'r rhai sy'n dechrau ar flwyddyn sylfaen neu sy'n astudio cwrs pedair blynedd. Ni fydd myfyrwyr ar gwrs sy'n cynnwys blwyddyn ar leoliad yn derbyn y fwrsariaeth yn ystod y lleoliad hwnnw. Nid yw'r dyfarniad yn cynnwys unrhyw ailarholiadau oni bai bod yna amgylchiadau lliniarol llawn.

Rwy’n ailsefyll fy mlwyddyn gyntaf ac ni fyddaf yn symud ymlaen. A fyddaf yn dal i allu derbyn y dyfarniad? 

Mae arnaf ofn nad yw'r dyfarniad Bywyd Astudio’n cael ei ddyrannu heb gynnydd, oni bai bod yna amgylchiadau lliniarol llawn, felly os oes rhaid ichi ailsefyll unrhyw flwyddyn, ni fydd gennych hawl i dderbyn y dyfarniad ar gyfer y flwyddyn honno. Mae taliad y dyfarniad Bywyd Astudio’n amodol ar wneud cynnydd i'r flwyddyn astudio rifol nesaf (e.e. o 0FT09 i 1FT09) yn llwyddiannus a bodloni'r meini prawf cymhwysedd flwyddyn ar ôl blwyddyn. 

Gellir dod o hyd i wybodaeth am amgylchiadau lliniarol yn Llawlyfr Academaidd Met Caerdydd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r Swyddog Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau ar scholarship@cardiffmet.ac.uk