Gwobr Bywyd Astudio 2023

Mae’r Dyfarniad Bywyd Astudio wedi’i gynllunio i helpu gyda chostau astudio beunyddiol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. 

Mae'r pecyn yn darparu cymorth ariannol tuag at lety, biliau, deunyddiau cwrs, bwyd, argraffu, teithio a mwy, ac mae'n werth hyd at £950 y flwyddyn.

 

Pecyn Dyfarnu   

Mae'r dyfarniad yn seiliedig ar lwfans arlwyo ac argraffu hael ac mae’n cynnig cymorth ariannol tuag at eich anghenion unigol, boed hynny'n talu biliau ynni, rhent neu'ch morgais, talu costau teithio, neu brynu deunyddiau cwrs er enghraifft.

Cymhwysedd

Byddwch yn cael eich asesu (nid eich dyfarnu) ar gyfer y fwrsariaeth yn awtomatig os ydych yn cwrdd â'r holl ofynion canlynol:

A. Rhaid ichi gael eich ystyried yn fyfyriwr Cartref at ddibenion talu ffioedd. 

B. Rhaid ichi fod yn fyfyriwr newydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, sy'n ymgeisio drwy UCAS, ac sy’n cychwyn cwrs israddedig llawn amser ym mlwyddyn un neu ar lefel sylfaen sy'n dechrau yn 2023. Rhaid mai Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw eich Prifysgol Dewis Cadarn ar eich cais UCAS erbyn 30ain Mehefin 2023. Fe allech hefyd fod yn gymwys os ydych chi’n cychwyn eich ail neu drydedd flwyddyn o gwrs masnachfraint Prifysgol Metropolitan Caerdydd (e.e. cwrs HND neu radd Sylfaen mewn darparwr arall), gan mai hwn yw’r tro cyntaf y byddwch yn bresennol ar gampws Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

C. Rhaid i'ch cyfeiriad parhaol fod mewn ardal sydd â chyfraddau cyfranogiad isel mewn Addysg Uwch.* Gallwch wirio eich cyfeiriad drwy ddefnyddio Gwirydd Meini Prawf Prifysgol Metropolitan Caerdydd sy'n gofyn ichi nodi eich oedran a'ch cod post. Defnyddir y cyfeiriad a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru gyda'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn eich asesiad cymhwysedd. Rhaid ichi ddefnyddio'r un cod post wrth gofrestru ar gyfer Cyllid Myfyrwyr â'r cod post a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru gydag UCAS.

Ch. Rhaid i incwm eich aelwyd fod yn llai na £30,000: 
  1. Er mwyn ein caniatáu ni i wirio incwm eich aelwyd, rhaid ichi fod wedi cofrestru gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru neu Loegr fel ymgeisydd 'Prawf Modd' a bod ag asesiad wedi'i gwblhau gyda Chyllid Myfyrwyr erbyn 31ain Awst 2022 
  2. Yn ogystal, mae'n rhaid i chi a'ch noddwr/noddwyr (e.e. eich rhiant/rhieni) roi 'Caniatâd i Rannu' incwm aelwyd/manylion ariannol fel rhan o'ch cais Cyllid Myfyrwyr bob blwyddyn academaidd. Os na fodlonir y meini prawf uchod, ni chewch eich ysytyried ar gyfer y fwrsariaeth. 
  3. Ni ellir gwirio incwm aelwyd mewn unrhyw ffordd arall ar wahân i’r rhai a restrir uchod (e.e. ddim drwy ddarparu P60/P45, dogfennau treth ac ati). 
*Rydym yn ddibynnol ar asiantaethau allanol er mwyn diweddaru'r data hwn a gall y data hwn newid. Ar hyn o bryd, mae codau post wedi’u categoreiddio yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019, systemau codio POLAR4 Ifanc, ac Adult HE 2011. Darparwyd y data gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ym Mai 2023. 


Caiff eich cymhwysedd ar gyfer y dyfarniad Bywyd Astudio ei asesu bob blwyddyn academaidd yn erbyn y telerau ac amodau a chewch e-bost yn ystod pob blwyddyn yr ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun. 

Nifer cyfyngedig o'r dyfarniad hwn sydd ar gael a rhoddir blaenoriaeth i'r rhai sydd ar yr incwm aelwydydd isaf. 

Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau ar gyfer 2023/24

Cyhoeddir y cynigion dyfarniadau cyn gynted ag y bo modd ac erbyn 31ain Hydref 2023 fan bellaf. Anfonir gohebiaeth am y dyfarniadau at gyfeiriad e-bost yr ymgeisydd sydd wedi'i gofrestru gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Darperir cadarnhad terfynol o dderbyn y dyfarniad unwaith y bydd y telerau a'r amodau wedi’u bodloni. Sylwer, dim ond unwaith y byddwch wedi cofrestru’n llwyddiannus ar eich cwrs gradd amser llawn y gellir actifadu taliadau a darpariaeth elfennau unigol y dyfarniad.

Os nad ydych wedi derbyn y dyfarniad Bywyd Astudio a’ch bod chi’n astudio ym Met Caerdydd ar hyn o bryd ac yn profi anawsterau ariannol, gallwch gysylltu â'n tîm Cyngor Ariannol am gyngor ar financeadvice@cardiffmet.ac.uk.

Sut i ymgeisio

Nid oes angen cais penodol. Fel myfyriwr newydd sy'n mynychu Prifysgol Metropolitan Caerdydd, byddwch yn cael eich asesu'n awtomatig ar gyfer cymhwysedd os ydych chi’n bodloni'r meini prawf. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich cymhwysedd ar gyfer y dyfarniad, cysylltwch â ni ar scholarship@cardiffmet.ac.uk.

Cysylltu â ni

Ar gyfer unrhyw ymholiadau'n ymwneud â chymhwysedd Bywyd Astudio, gallwch gysylltu â ni ar scholarship@cardiffmet.ac.uk.  

Os ydych wedi derbyn y Dyfarniad Bywyd Astudio a bod gennych unrhyw ymholiadau am eich buddion, cysylltwch â studylife@cardiffmet.ac.uk

Gwneir yr holl ohebiaeth ynghylch y dyfarniad drwy e-bost, gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a ddarparwyd yn eich cais. Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, rhowch gynnig ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin