Gwobr Cynnydd 2023/24

Mae'r Wobr Cynnydd 2023/24 ar gyfer rhai sydd wedi enill graddau uchel ym Mlwyddyn 1 eu cwrs yn 2023.

Mae’r wobr hon ar gyfer myfyrwyr presennol sydd wedi cofrestru ar gyrsiau israddedig ail flwyddyn, a gwblhaodd Blwyddyn 1 yn 2023, sydd â chyfeiriad parhaol mewn ardal sydd â'r cyfraddau cyfranogiad isaf mewn Addysg Uwch yn ôl diffiniad y Cynghorau Cyllido Addysg Uwch ar gyfer naill ai Cymru (CCAUC) neu Loegr (CCAULl). 

 

​Pecyn Gwobr     

Gwobr arian parod o £1,000 yw’r Wobr Cynnydd.

Cymhwystra

Mae’r wobr hon ar gyfer myfyrwyr Cartref sy’n talu ffioedd. 

Mae’r wobr hon ar gyfer myfyrwyr presennol sydd wedi cofrestru ar gyrsiau israddedig ail flwyddyn, a gwblhaodd Blwyddyn 1 yn 2023, sydd â chyfeiriad parhaol mewn ardal sydd â'r cyfraddau cyfranogiad isaf mewn Addysg Uwch yn ôl diffiniad y Cynghorau Cyllido Addysg Uwch ar gyfer naill ai Cymru (CCAUC) neu Loegr (CCAULl). 

Dim ond ar gyfer Gwobr Cynnydd a ddyrennir i’r ysgol academaidd yr ydych chi wedi ei chofrestru ynddi y cewch eich ystyried.

Nifer cyfyngedig o’r wobr hon sydd ar gael. Rhoddir blaenoriaeth dyrannu i’r rheiny sydd â’r marciau canran uchaf ar ddiwedd y flwyddyn academaidd 2022/23.

Telerau ac Amodau

Gweler y Telerau ac Amodau ar gyfer cymhwysedd llawn. Mae'n bwysig eich bod yn darllen y telerau ac amodau i ddeall eich hawliau a'ch cyfrifoldebau mewn perthynas â'r Gwobr Cynnydd yn llawn. 

Anfonir gohebiaeth am y wobr at eich cyfeiriad e-bost myfyriwr gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.   

Bydd rhaid i fyfyrwyr llwyddiannus cwblhau ffurfflen arlein, sy'n cynnwys gwybodaeth Diogelu Data. 

Sut i Ymgeisio

Nid oes angen cais penodol. Cafodd pob myfyriwr sydd wedi cyrraedd y meini prawf cymhwystra ei ystyried.

Cysylltwch â ni 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r Wobr Cynnydd, cysylltwch â scholarship@cardiffmet.ac.uk.