Astudio>Ffioedd a Chyllid>Gwneud Taliad

Gwneud Taliad

​Sylwch, gall rhai o'r opsiynau hyn gymryd hyd at dri diwrnod gwaith i ymddangos yng nghyfrifon y Brifysgol.​

Porth Taliad Myfyrwyr Met Caerdydd

Taliad gyda Cherdyn Credyd/Debyd am Ffioedd Dysgu.

Bydd angen i'r defnyddiwr nodi ID Myfyriwr (8 rhif) a Dyddiad Geni i wneud taliad yn erbyn cyfrif. Os yw ar gael, bydd gan y defnyddiwr hefyd y gallu i arwyddo cytundebau rhandaliad a ddiffiniwyd ymlaen llaw. Dogfen gyfarwyddiadol yma.

DS – ni fydd hyn yn dangos unrhyw dâl, rhaid i'r defnyddiwr fewnbynnu cyfanswm y taliad ar ôl mewngofnodi, bydd y dull talu yn pennu'r hyn sy'n daladwy ar unwaith. Gall gymryd hyd at dri diwrnod gwaith i'r taliad ymddangos ar gyfrif y myfyriwr.


Os hoffech ddiweddaru manylion y cerdyn a nodir ar y Taliad Cerdyn Cylchol, gwnewch hynny trwy'r ddolen hon:: https://epay.cardiffmet.ac.uk/customer-card-update

Sylwch, rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru (Cais neu Gofrestru) gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.

Taliad Rhyngwladol gyda Cherdyn Debyd/Credyd neu Drosglwyddiad Banc – trwy Flywire


Flywire

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi dod yn bartner swyddogol i Flywire er mwyn derbyn taliadau o fwy na 240 o wledydd a thiriogaethau, mewn mwy na 140 arian cyfred.

Mae miliynau o fyfyrwyr a'u rhieni ledled y byd yn ymddiried yn Flywire i hwyluso eu taliadau addysg.

Trwy dalu gan ddefnyddio Flywire, gallwch:

  • Dalu â cherdyn credyd neu ddebyd, trosglwyddiad banc neu drwy e-waled.
  • Talu o unrhyw wlad neu fanc.
  • Talu yn eich arian cyfred lleol.
  • Osgoi ffioedd banc a chostau ychwanegol.
  • Bod yn sicr o'r gyfradd gyfnewid orau wrth wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Flywire. Os byddwch yn dod o hyd i gyfradd well cyn pen dwyawr, bydd Flywire yn cyfateb iddo.
  • Olrhain eich taliad mewn amser real a derbyn hysbysiadau e-bost a neges destun ar bob cam o'r ffordd, gan gynnwys cadarnhad bod eich taliad wedi'i dderbyn yn ddiogel gan y Brifysgol.
  • Cael cymorth amlieithog 24/7 ag unrhyw gwestiynau sydd gennych am wneud taliadau gan dîm arbenigol Flywire. Gallwch eu ffonio, anfon e-bost neu ddefnyddio sgwrs fyw ar-lein.
  • Mae gan Flywire raglen atal gwyngalchu arian gadarn felly gallwch deimlo'n hyderus o ran diogelwch eich taliad.

Gallwch weld sut mae Flywire yn gweithio yma.

Taliad Rhyngwladol gyda Cherdyn Debyd/Credyd, E:Waledi, Taliadau Ar-lein a Drosglwyddiad Banc gan Convera

​Taliad trwy ​Drosglwyddiad Banc neu ddulliau talu eraill ar gyfer Ffioedd Dysgu, Llety neu Dâl Cosb. (Sicrhewch fod yr holl fanylion wedi'u cwblhau er mwyn i ni ddyrannu'ch taliad yn gywir.)


Convera

Trosglwyddiad Banc Rhyngwladol drwy EasyTransfer


Mae gan fyfyrwyr rhyngwladol o India, Nigeria a Tsieina'r opsiwn o dalu gydag EasyTransfer.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn bartner i EasyTransfer fel dull talu ar gyfer taliadau rhyngwladol. Mae'r gwasanaeth cyflym, saff a diogel hwn yn caniatáu i chi wneud taliadau yn eich arian cyfred lleol yn hawdd gyda ffioedd isel a chyfraddau cyfnewid tryloyw. Bydd tîm o arbenigwyr talu EasyTransfer yn eich tywys gam wrth gam ac yn rhoi tawelwch meddwl i chi bod eich taliad llawn wedi'i ddanfon i'r Brifysgol.

EasyTransfer

Talu yn y Cnawd yn y Parth-G

Gallwch hefyd dalu yn y cnawd yn y Parth-G ar gampws Llandaf a Chyncoed. Bydd angen i chi ddod â'ch cerdyn adnabod myfyriwr gyda chi wrth dalu. Sylwch nad ydym yn derbyn arian parod. Gallwch wneud taliadau trosglwyddiad banc drwy Flywire yn y rhan fwyaf o arian cyfred lleol.

Manylion Banc y Brifysgol

Nid yw'r Brifysgol yn trefnu bod ei manylion cyfrif banc ar gael.

Dylai myfyrwyr sy'n dymuno gwneud taliadau drwy drosglwyddiad banc wneud hynny drwy byrth Flywire, naill ai am anfonebau ffioedd sydd eisoes wedi'u codi neu er mwyn gwneud rhagdaliadau cyn cofrestru.

Gallwch wneud taliadau trosglwyddiad banc drwy Flywire yn y rhan fwyaf o arian cyfred lleol, Punnoedd Prydain Fawr, Doleri UDA neu Ewros, a chânt eu holrhain yn llawn ar hyd eu taith, fel bod myfyrwyr yn gwybod ymhle y mae eu harian. Yn y rhan fwyaf o achosion, rydym yn derbyn taliadau trosglwyddiad banc drwy Flywire yn gynt nag y byddem petaen nhw wedi'u trosglwyddo'n uniongyrchol i gyfrif y Brifysgol.

Darperir manylion cyfrif banc i noddwyr drwy eu hanfonebau.

Siop Met Caerdydd

Taliad gyda Cherdyn Credyd/Debyd neu Paypal am Eitemau 'Siop' gan gynnwys: Cyrsiau Byr, Nwyddau, Cynadleddau a Digwyddiadau, Cynhyrchion BywydMet e.e. Tocynnau Bws MetRider, Cardiau ID newydd, Trwyddedau Parcio Ceir, ac ati.


Ychwanegu at eich Cerdyn Argraffu

Taliad gyda Cherdyn Credyd/Debyd neu PayPal i ychwanegu credyd i'ch Cerdyn Adnabod Myfyriwr/Staff. Gellir ei ddefnyddio yn Stiwdio Argraffu Met Caerdydd.