Iechyd a Llesiant y Cyhoedd

Daw grŵp Ymchwil ac Arloesi Iechyd a Lles y Cyhoedd o dan thema ‘Risg i’r Boblogaeth a Gofal Iechyd’ yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd. Rydym ni’n grŵp mawr o ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o ddisgyblaethau a chefndiroedd amrywiol. Mae ein harbenigedd cyfunol yn mynd ati i wella iechyd a lles ymhlith poblogaethau clinigol ac anghlinigol, a’r gymuned. Mae ein hymchwil yn sefyll allan oherwydd ei safbwynt cyfannol o ran:

• Diffinio beth yw hi i fod yn ‘iach ac yn iawn’
• Beth sy’n llywio iechyd a lles ymhlith grwpiau gwahanol
• Deall cyfleoedd sy’n cyflwyno’u hunain i wella iechyd a lles mewn gwahanol leoliadau
• Gweithio gydag eraill i hwyluso newid

Mae’r grŵp yn cyfarfod yn fisol ac mae’n datblygu, yn trawsnewid ac yn addasu’n barhaus i ymateb i anghenion presennol y boblogaeth yng Nghymru (a’r tu hwnt) fel y cyflwyna’r anghenion eu hunain. I ategu’r nodau hyn, rydym ni’n cydweithio’n agos gyda sefydliadau allanol yn y gymuned, gan gynnwys ymarferwyr a llunwyr polisïau yn lleol, i ddeall cymhlethdod sefyllfa a sicrhau dull newid sy’n gweddu orau i anghenion pobl a’u cyd-destun. Hefyd, mae ein hymchwil yn drawsnewidiol wrth i ni gyfuno a chymhwyso ein gwybodaeth am ddisgyblaethau yn gymwysiadau ac yn ymyriadau ymarferol.

 

Ymchwil / Meysydd Arloesi

Mae gan grŵp Iechyd a Lles y Cyhoedd nifer o feysydd o ddiddordeb ac arbenigedd, er enghraifft:

* Ymagweddau system at iechyd a ffordd o fyw

* Polisi cyhoeddus a ffordd o fyw

* Gwelliannau i iechyd, gan gynnwys:

    • Ymyriadau i wella iechyd corfforol, seicolegol a chymdeithasol ymhlith unigolion, yn y gymuned, ac mewn poblogaethau clinigol a phoblogaethau penodol
    • Y celfyddydau ar gyfer iechyd, gan gynnwys defnyddio symud, dawns ac ymarfer somatig i bobl sy’n byw gyda chlefyd cronig
    • Rhagnodi cymdeithasol, gan gynnwys gweithgarwch corfforol, y celfyddydau creadigol, a gweithgarwch pwrpasol mewn mannau gwyrdd a glas

* Byw’n dda, gan gynnwys:

    • Gwneud y gorau o’r defnydd o feddyginiaeth
    • Atal cwympiadau
    • Mentora cymheiriaid
    • Gwneud penderfyniadau ar y cyd ym maes gofal iechyd
    • Gweithgarwch pwrpasol gydol bywyd

* Gwerthuso ymyriadau cymhleth, gan gynnwys:

    • Datblygu a chymhwyso dulliau ymchwil newydd mewn dulliau gweledol a chyfranogol, creadigol, mewn ymchwil ansoddol
    • Ymagweddau dull cymysg
    • Dadansoddi ystadegol uwch
    • Cyd-gynhyrchu mewn ymchwil, gofal iechyd a gwella iechyd

Aelodau’r Grŵp

Dr Britt Hallingberg, Arweinydd y Grŵp / Darlithydd mewn Seicoleg Iechyd a Lles
Ymchwil: defnyddio sylweddau, defnyddio amser hamdden wedi’i drefnu, datblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth.

Dr Nicola Bolton, Prif Ddarlithydd mewn Marchnata a Strategaeth


Dr Nic Bowes, Darllenydd mewn Seicoleg Fforensig


Dr Debbie Clayton, Prif Ddarlithydd mewn Seicoleg


Yr Athro Diane Crone, Athro Ymarfer Corff ac Iechyd


Yr Athro Sarah Curran, Athro Meddygaeth Bodiatrig ac Adsefydlu


Dr Ruth Fairchild, Uwch-ddarlithydd


Dr Clare Glennan, Darlithydd mewn Seicoleg
Ymchwil: iechyd a lles, ymchwil ansoddol i Covid 19, gwerthuso gweithgareddau allgymorth addysgol, gwaed Cymru, therapïau â chymorth anifeiliaid, dulliau gweledol.

Dr Craig Gwynne, Darlithydd mewn Podiatreg

Yr Athro Delyth James, Athro Seicoleg Iechyd mewn Ymarfer Fferylliaeth
Ymchwil: seicoleg iechyd yn gysylltiedig â’r defnydd o feddyginiaethau, sgiliau ymgynghori er newid ymddygiad, y Gymraeg.

 
Dr Mel Jones, Prif Ddarlithydd mewn Iechyd Cyhoeddus


Dr Luca Laudani, Darlithydd mewn Biomecaneg
Ymchwil: Mesurau niwro-fecanyddol osgo a symudiad, ac asesiadau swyddogaethol o symudiadau bywyd bob dydd trwy synwyryddion, platiau grym a dynamometrau isocinetig inertiol, gwisgadwy; system dadansoddi symud ac electromiograffeg arwyneb.


Dr Jane Lewis, Uwch-ddarlithydd mewn Podiatreg

  
Yr Athro Jeffrey Lewis, Athro Dysgu Hyblyg


Dr Mikel Mellick, Uwch-ddarlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon Gymhwysol


Dr Jenny Mercer, Darllenydd mewn Ymagweddau Ansoddol at Seicoleg Gymhwysol


Dr Rhiannon Phillips, Darlithydd mewn Seicoleg Iechyd a Lles

  
Paul Sellars,  Swyddog Ymchwil, Seicoleg Datblygiad a Chynnal Athletwyr Dawnus
Ymchwil: Seicoleg chwaraeon ac ymarfer corff, lles ac iechyd meddwl, ymchwil ansoddol.


Dr Anita Setarehnejad, Uwch-Darlithydd mewn Gwyddor a Thechnoleg Bwyd


Dr Deiniol Skillicorn, Uwch-ddarlithydd mewn Seicoleg


Dr Paul Smith, Uwch-ddarlithydd mewn Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff


Dr Katie Thirlaway, Deon yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd (Seicolegydd Iechyd wedi cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal)
Ymchwil: Ffordd o fyw, cyfathrebu risg a gwneud penderfyniadau, ymarfer corff a lles, cydraddoldeb a chynhwysiant.


Dr Richard Webb, Prif Ddarlithydd


Judith Whatley, Uwch-ddarlithydd mewn Gofal Iechyd Cyflenwol


Dr Denitza Williams, Cymrawd Ymchwil mewn Seicoleg Iechyd
Ymchwil: iechyd menywod, cyflyrau hirdymor, cyfathrebu gofal iechyd, dulliau ansoddol a dulliau cyfranogol


Heidi Wilson, Uwch-ddarlithydd (Dawns)

 

Myfyrwyr


Alexis Bennett (PhD)

Tom Griffiths (PhD)

Vasiliki Kolovou (PhD)

Cory Richards (PhD) - Ffisioleg Gardiaidd, ymarfer corff fel triniaeth ar gyfer clefyd, ac ymarfer corff yn Syndrom Ofarïau Polygodennog.

John Voss (PhD)

Jack Walklett (PhD)

Jennifer Ward (PhD)

Jenna Wood (PhD)


Cydweithredwyr

Rydym yn cydweithredu ag amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Sefydliadau Addysg Uwch eraill yn y Deyrnas Unedig, yr Undeb Ewropeaidd ac yn rhyngwladol, sefydliadau chwaraeon ac iechyd yn y trydydd sector ar draws y DU a’r UE, asiantaethau’r llywodraeth, y GIG, ac arbenigwyr ar iechyd a hyrwyddo iechyd.  Caiff enghraifft o rai o’n cydweithredwyr heblaw am Sefydliadau Addysg Uwch eu rhestru yma:

• Bwrdd Iechyd Prifysgol y GIG Caerdydd a’r Fro
• Bwrdd Iechyd y GIG Cwm Taf Morgannwg
• Cystic Fibrosis Trust (y DU) a’r Cystic Fibrosis Foundation (UDA)
• Uned Ymchwil Arennol Cymru (WKRU)
• Canolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (Canolfan PRIME)
• Chwaraeon Cymru
• Iechyd Cyhoeddus Cymru
• Parkinson's UK Cymru
• Dance for Parkinson's Partnership UK

Enghreifftiau o Gyllid

Rydym yn ymgymryd â phrosiectau ymchwil gydag amrywiaeth o gyllidwyr allanol, gan gynnwys asiantaethau llywodraeth genedlaethol a rhanbarthol, cyrff iechyd cyhoeddus cenedlaethol, Byrddau Iechyd rhanbarthol, Grwpiau Comisiynu Clinigol, y Comisiwn Ewropeaidd, a sefydliadau’r trydydd sector. Mae enghraifft o rai o’n prosiectau wedi’u rhestru yma:

SPHERE: Sport Healing Rehabilitation. Cyllid: ERASMUS+ €383mil 2019-2020.

Gwerthuso Prosiect Ecotherapi Mannau Gwyllt, Sgiliau Gwyllt. Cyllid: £30mil Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, 2020-2023.

CF PROSPER: Ffibrosis Cystig: Data Deilliannau’n Gysylltiedig â Beichiogrwydd i Gefnogi Dewisiadau Personol. Cyllid: £228mil, Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, 2019-2021.

CKD ENGAGE: Ymgysylltu â menywod â Chlefyd Cronig yr Arennau, a’u cynorthwyo â phenderfyniadau cyn cenhedlu: Astudiaeth dulliau cymysg. Cyllid: Kidney care UK, British Renal Society, ac Uned Ymchwil Arennol Cymru, £75mil, 2020-2021.