Rheoli a Datblygu Chwaraeon

​Mae aelodau’r grŵp ymchwil Rheoli a Datblygu Chwaraeon yn cynnwys cyfuniad o academyddion ac ymarferwyr gydag ystod o brofiad yn ymwneud â'r byd academaidd a diwydiant. Mae eu diddordebau ymchwil yn eang oherwydd natur ddeinamig a chyflym y maes a chenhadaeth y grŵp yw cynhyrchu ymchwil o ansawdd uchel mewn nifer o feysydd. Mae'r rhain yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol: cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol, rheoli chwaraeon a gweithgaredd corfforol, llywodraethu chwaraeon, yn ogystal â menter ac arloesi mewn chwaraeon ac iechyd.

 

Meysydd Ymchwil / Arloesi

Chwaraeon ar gyfer Datblygu

Mae sawl agwedd wahanol i’r maes ymchwil hwn. Mae gwaith empirig yn parhau i gael ei wneud mewn llu o wahanol feysydd ac mae gwaith diweddar wedi ymchwilio i effeithiolrwydd mentrau chwaraeon a gweithgaredd corfforol (ee nofio am ddim), yn ogystal â sut y gellir defnyddio chwaraeon fel mecanwaith i dyfu cymunedau neu'n wir, i weithio gyda grwpiau anodd eu cyrraedd.

Llywodraethu Chwaraeon

Mae'r ffrwd llywodraethu chwaraeon wedi cynhyrchu ymchwil helaeth yn ymwneud ag ennill mantais gystadleuol a meithrin gallu o fewn cenhedloedd chwaraeon sy'n datblygu a'u cyrff llywodraethu cenedlaethol. Mae gwaith hefyd yn parhau i gael ei wneud ar y cyd-destun byd-eang, yn ogystal â'r cyd-destun lleol ac mae ymchwil yn edrych ar sut mae sefydliadau chwaraeon yn cynllunio ac yn cyflawni strategaeth, ochr yn ochr â sut mae polisi chwaraeon yn cael ei gyflwyno gan y rhanddeiliaid perthnasol.

 

Digwyddiadau Chwaraeon 

Mae digwyddiadau chwaraeon yn ffrwd annatod i'r grŵp ymchwil. Mae prosiectau wedi edrych ar rôl gwirfoddolwyr wrth gynllunio a darparu digwyddiadau chwaraeon o bob maint. Mae gwaith empirig wedi cael ei wneud ac yn parhau i gael ei wneud gan edrych ar ddigwyddiadau  chwaraeon enfawr, gyda ffocws penodol ar y modd maent yn cael eu llywodraethu a chynllunio etifeddiaeth.

 

Arloesi ac Entrepreneuriaeth 

Mae'r maes hwn yn ymchwilio i natur newidiol chwaraeon a gweithgaredd corfforol mewn perthynas â'r gwahanol sectorau. Er enghraifft, mae’r ffaith fod llai o bobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon tîm traddodiadol bellach yn golygu bod pobl yn defnyddio chwaraeon a gweithgaredd corfforol mewn gwahanol ffyrdd. Mae gweithgaredd corfforol bellach yn dod yn fwy amgen ac mae twf gweithgareddau arbenigol fel trawsffit  (crossfit) yn golygu bod cystadleuaeth am fusnes rhwng y sectorau. Gallai gwaith yn y dyfodol edrych hefyd ar y rôl y mae technoleg yn ei chwarae wrth ddefnyddio chwaraeon a gweithgaredd corfforol.

Aelodau'r Grŵp


​Dr Alex McInch,
Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli a Datblygu Chwaraeon (Arweinydd Grŵp)
Yr Athro Leigh Robinson,
Dirprwy Is-Ganghellor ac Athro mewn Rheoli Chwaraeon
​Dr Olesya Nedvetskaya,
Darlithydd mewn Busnes Chwaraeon
Darlithydd mewn Rheoli a Datblygu Chwaraeon

 

Dr Nicola Bolton,
Prif Ddarlithydd mewn Strategaeth ac Ymgysylltu
​Ellyse Hopkins,
Aelod Cysylltiol Academaidd (PhD)
Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli a Datblygu Chwaraeon
Uwch Ddarlithydd mewn Arweinyddiaeth Chwaraeon 

 

Elizabeth Lewis,
Darlithydd mewn Rheoli a Datblygu Chwaraeon
Steve Osborne,
Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli a Datblygu Chwaraeon
Darlithydd mewn Rheoli a Datblygu Chwaraeon
Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli a Datblygu Chwaraeon

 

James Thie,
Darlithydd mewn Rheoli a Datblygu Chwaraeon
​Suzy Drane,
Darlithydd mewn Rheoli a Datblygu Chwaraeon

 

 

Cydweithwyr

Yr Athro Scott Fleming (Bishop Grosseteste University)

Yr Athro Andrew Parker (Consultant academic, UK)

European Association of Sport Management

International Olympic Committee

Dr Geoff Nichols (Sheffield Hallam University)


Enghreifftiau o Gyllid

Chwaraeon Cymru

Chwaraeon Lloegr