Ymchwil ac Arloesi>Diwylliant, Polisi ac Ymarfer Proffesiynol>Dulliau Ymchwil Ansoddol a Damcaniaeth Gymdeithasol

Dulliau Ymchwil Ansoddol a Damcaniaeth Gymdeithasol

​Mae'r Grŵp Ymchwil Dulliau Ymchwil Ansoddol a Damcaniaeth Gymdeithasol yn grŵp newydd sy'n cynnig llwyfan i staff a myfyrwyr sy'n cyflawni ymchwil gwyddor cymdeithasol yn cynnwys dulliau ansoddol gan ddefnyddio damcaniaeth gymdeithasol. Mae'r grŵp yn un trawsddisgyblaethol, ac mae'n cynnwys ymchwilwyr sy'n edrych ar ystod eang o themâu a phynciau yn ymwneud â chwaraeon ac iechyd. Gan weithredu fel canolbwynt, mae'r grŵp yn dod ag ymchwilwyr at ei gilydd i ddatblygu, cwestiynu, dosbarthu a rhannu syniadau ac allbynnau. Mae hefyd yn cynnig cyfle i aelodau hwyluso gwaith ar y cyd drwy ddod ag ystod o arbenigedd methodolegol a damcaniaethol at ei gilydd.

 

Meysydd Ymchwil / Arloesi

Cynllunio a Defnyddio Dulliau Ymchwil Ansoddol

​Un o brif ddiddordebau'r grŵp yw datblygu cynlluniau prosiectau ansoddol, drwy ddefnyddio dulliau a strategaethau newydd ac arloesol, ynghyd â rhai mwy traddodiadol. Ochr yn ochr â hyn, mae'n canolbwyntio ar sut i weithredu gwaith cynllunio ymchwil ansoddol mewn prosiectau mewn ffyrdd sy'n gwneud y mwyaf o'u heffeithiolrwydd a'u manwl gywirdeb.

Moeseg Ymchwil Ansoddol

Mae'r grŵp hefyd yn canolbwyntio ar foeseg ymchwil ansoddol, ac mae'n cynnig amgylchedd arbennig o ddefnyddiol i ddatblygu strategaethau cadarn a chydlynol ar gyfer llywio cymhlethdodau moeseg ymchwil mewn lleoliadau a phrosiectau ymchwil modern. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i ddefnydd o dechnolegau ac amgylcheddau ymchwil newydd.

 

Rôl Damcaniaeth Gymdeithasol mewn Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Ansoddol 

Mae'r grŵp yn canolbwyntio ar rôl damcaniaeth gymdeithasol mewn ymchwil gwyddor cymdeithasol ansoddol, sut caiff ei dewis, ei chyflwyno a'i datblygu mewn prosiect, ac yn benodol, ei pherthynas gyda dosbarthu i gynulleidfaoedd ehangach.

 

Damcaniaethau a Chysyniadau 

Mae'r grŵp hefyd yn edrych ar ddamcaniaethau a chysyniadau penodol sydd un ai'n newydd neu'n hirsefydlog. Mae ffrwythloniad trawsddisgyblaethol dealltwriaeth ac adnoddau damcaniaethol, sydd wedi'i alluogi gan aelodau'r grŵp, yn golygu ei fod yn elfen arbennig o ddefnyddiol i'w aelodau.

Aelodau'r Grŵp


Dr David Brown,
Darllenydd Cymdeithaseg Chwaraeon a Diwylliant Corfforol (Arweinydd y Grŵp Ymchwil)
Dr David Aldous,
Uwch Ddarlithydd Addysgeg
Prif Ddarlithydd
Prif Ddarlithydd

 

Dr Leanne Freeman,
Uwch Ddarlithydd Seicoleg
Dr Karen Howells,
Uwch Ddarlithydd Seicoleg Ymarfer Corff a Chwaraeon
Darlithydd Seicoleg Chwaraeon / Diwylliant Corfforol
Athro Damcaniaeth Gymdeithasol a Chwaraeon

 

Mark Lowther,
Uwch Ddarlithydd
Manuel Santos, 
Darlithydd
Paul Sellars, 
Swyddog Ymchwil Seicoleg Datblygu a Dargadw Athletwyr Dawnus
Partneriaethau PVC ac Ymgysylltiad Allanol

 

            ​
Jane Barnett,
Rheolwr Gweithredoedd ac Adnoddau'r Ysgol
           
              

 

Myfyrwyr

Mara Mata
PhD Ymchwil
Swyddog Datblygu Chwaraeon Campws Cymunedol y Dwyrain Rheoli Cyfleusterau Chwaraeon

Ellyse Olivia Hopkins
PhD Ymchwil

 

Enghreifftiau o Gyllid

2019 Trosglwyddo Crefft Ymladd Traddodiadol Tsieina: Model ar gyfer Ymchwil Rhyngwladol (Xiujie MA, Prifysgol Handan Tsieina, Yr Athro Paul Bowman, Prifysgol Caerdydd, a George Jennings, Prifysgol Metropolitan Caerdydd) Talaith Hebei, Tsieina: Cronfa'r Gwyddorau Cymdeithasol £4000.