Iechyd Cardiofasgwlaidd a Heneiddio

Mae’r thema ymchwil Iechyd Cardiofasgwlaidd a Heneiddio yn cynnwys nifer o grwpiau ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol. Mae ein gwaith yn targedu sylfaen foleciwlaidd, patholeg gellog a ffisioleg glinigol afiechydon fasgwlaidd a niwroddirywiol. Rydym yn canolbwyntio ar homeostasis a llid fasgwlaidd a mecanweithiau sy’n sylfaen i glefyd cardiofasgwlaidd.

Mae’r thema Iechyd Cardiofasgwlaidd a Heneiddio yn gartref i dreialon clinigol mawr ym meysydd atal clefyd cardiofasgwlaidd, diagnosis, a therapi wedi’i optimeiddio. Hefyd, mae’n gartref i Hyb Strôc Cymru, menter a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu rhwydwaith cydgysylltiedig ac adnodd canolog i gefnogi a datblygu ymchwil, addysg ac arloesi ym maes Strôc ledled Cymru. 

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cyfansoddion bioactif (maethol-fferyllol) a bwydydd ergogenig sydd wedi'u cynnwys mewn amrywiaeth o blanhigion, anifeiliaid (llaeth) a systemau bwyd wedi eu meithrin, ynghyd â diddordeb mewn cynorthwyo cynhyrchwyr bwyd i ailffurfio cynhyrchion er mwyn hyrwyddo newidiadau ymddygiad cadarnhaol a gwella iechyd.

Mae ein gwaith ymchwil yn effeithio’n uniongyrchol ar iechyd a llesiant ein poblogaeth sy’n heneiddio.

 

Grwpiau Ymchwil ac Arloesi

 

Cysylltiadau Allweddol

Yr Athro Philip James - Metabolaeth a Llid Cardiofasgwlaidd

Dr Barry McDonnell - Ffisioleg Cardiofasgwlaidd

Yr Athro Jorge Erusalimsky - Pathoffisioleg a Heneiddedd Cellog

Dr Andrew Thomas - Bwyd, Maeth ac Iechyd

Dr Abdul Seckam - Hyb Strôc Cymru