Ffisioleg Cardiofasgwlaidd

​Nod y Grŵp Ymchwil Ffisioleg Gardiofasgwlaidd yw cynhyrchu ymchwil effeithiol sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol ym maes ffisioleg gardiofasgwlaidd integredig ac arbrofol. I wneud hyn, mae’r gwaith grŵp mewn cydweithrediad â chlinigwyr, ffisiolegwyr, byrddau iechyd lleol, diwydiant, elusennau a’r cyhoedd i archwilio ymatebion cardiofasgwlaidd aciwt ac addasiadau cronig i heneiddio, clefydau, ymarfer, ffarmacoleg a dyfeisiau a fewnblennir. Mae’r grŵp hefyd yn bwriadu cael effaith ar y byd real trwy lywio arferion clinigol (dynol a milfeddygol). Mae enghreifftiau o gyrhaeddiad ac enw da rhyngwladol y grŵp yn cynnwys y prif gyfraniadau ac arwain arbrofion neu ymgyrchoedd e.e.: arbrawf ffisioleg uchder uchel; ymgyrch ymwybyddiaeth pwysedd gwaed genedlaethol a rhyngwladol; aelodaeth o banel ar haemodeinameg; arbrawf rhwydweithiau cardiofasgwlaidd cenedlaethol a’r UE ar heneiddio fesul poblogaeth; ymchwil i fethiant y galon, ymchwil i therapi dyfeisiau mewnblanadwy a llywio arferion milfeddygol.

Meysydd Ymchwil / Arloesi

Ymwybyddiaeth o Bwysedd Gwaed a pherygl i’r Boblogaeth

Dr Barry McDonnell

Ar hyn o bryd mae ein grŵp yn arwain ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o sgrinio pwysedd gwaed sef Mis Mesur Mai (MMM).

Mae pwysedd gwaed (BP) uchel, neu orbwysedd, yn faich cynyddol dros y byd i gyd, ac yn arwain at dros 10 miliwn o farwolaethau bob blwyddyn. Mae Mis Mesur Mai yn fenter fyd-eang sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o BP uchel gan weithredu fel symbylydd i wella rhaglenni sgrinio ar draws y byd. Yn y Deyrnas Unedig (DU) mae gan bron 1 o bob 5 person ac yng Ngweriniaeth Iwerddon (GI) 3 o bob 10 orbwysedd, gyda chyfran helaeth ohonynt heb gael diagnosis. Cwblhawyd arolwg trawstoriadol o wirfoddolwyr ≥18 oed ym Mai 2017 a 2018. Codwyd safleoedd sgrinio mewn ysbytai, prifysgolion, canolfannau siopa, gweithleoedd, clybiau chwaraeon, canolfannau cymunedol, meddygfeydd a fferyllfeydd ar draws y DU a Gweriniaeth Iwerddon fel rhan o’r fenter.

 

          

Triniaeth Llywio Haemodeinameg mewn cleifion gyda Dyfeisiau Cymorth Fentrigl Chwith: “Arbrawf HIT LVAD”

Dr Barry McDonnell a Dr Eric Stöhr

Mae methiant datblygedig y galon (HF) yn broblem gynyddol yn yr Undeb Ewropeaidd. O ganlyniad, mae mwy a mwy o gleifion HF erbyn hyn yn dibynnu ar y Dyfeisiau Cymorth Fentrigl Chwith llif parhaus (cf-LVAD) diweddaraf fel cymorth pontio cyn trawsblaniad neu ddull therapi terfynol arall. Ers cyflwyno a defnyddio cf-LVADs yn hytrach na LVADs traddodiadol pylsadaidd, mae niferoedd goroesi wedi gwella’n sylweddol. Fodd bynnag, cafwyd enghreifftiau o nifer gynyddol o sgil effeithiau, yn cynnwys strôc, a gwaedu microfasgwlaidd. Awgrymwyd mai diffyg gwasgedd pylsadaidd a llif drwy’r system yw mecanwaith achosol ar gyfer y sgil-effeithiau hyn, ond ar hyn o bryd nid oes data ar haemodeinameg macro/micro yn y cleifion hyn.

Felly ein nod yw darparu 5 pecyn gwaith er mwyn deall canlyniadau pwysedd gwaed pylsadaidd llai a haemodeinameg llif mewn cleifion cf-LVAD o gymharu â chleifion HF a rheolyddion oed-gymharol.

         
  Dyfais Cymorth Fentrigl Chwith Llif Parhaus (cf-LVAD)  / Cynllun astudio ‘Haemodeinameg yn Llywio Triniaeth LVAD’ cleifion

 

Heneiddio Fasgwlaidd a Risg Cardiofasgwlaidd

Dr Barry McDonnell

a) Arbrawf Cydweithredol Eingl-Caerdydd:

Bellach clefyd cardiofasgwlaidd yw’r prif reswm dros farwolaeth ledled y bydd, gyda chnawdnychiant myocardiaidd a strôc yn cyfrif am dros 20% o’r holl farwolaethau. Fel rhan o’r Arbrawf Cydweithredol Eingl-Caerdydd ar y cyd â Phrifysgol Caergrawnt, gwyddom erbyn hyn fod anhyblygedd rhydwelïau yn rhagfynegydd annibynnol o drawiad ar y galon a strôc. Mae cydsyniad cyffredinol bod anhyblygedd rhydwelïau yn y boblogaeth Orllewinol yn ganlyniad anorfod o heneiddio a than yn weddol ddiweddar byddai ‘rhydwelïau wedi caledu’ yn cael ei gofnodi ar dystysgrifau marwolaeth. Fodd bynnag, nid yw anhyblygedd rhydwelïau’n anorfod ac rydym yn dilyn cwrs amser anhyblygedd rhydwelïau mewn carfan fawr seiliedig ar y boblogaeth er mwyn helpu i ganfod yr hyn sy’n achosi’r broblem hon. Mae’r astudiaeth hon yn ceisio nodi targedau newydd posibl ar gyfer trin â chyffuriau er mwyn gwyrdroi neu arafu anhyblygedd rhydwelïau, a fyddai wedyn yn arwain at leihad mawr ym mynychder clefydau fel trawiad ar y galon a strôc.

b) Asesu Risg mewn Clefyd Cronig ar y Llwybrau Anadlu (ARCADE):

Mae Clefyd Rhwystrol Cronig Ysgyfeiniol (COPD) yn glefyd amlsystemau. Yn ogystal â chlefydau anadlol, nid oes dealltwriaeth dda o’r rhesymau a’r cymhlethdodau sy’n datblygu megis clefyd cardiofasgwlaidd, osteoporosis, a cholli swyddogaeth a mas cyhyrol. Cychwynnodd arbrawf Asesu Risg mewn Clefyd Cronig y Llwybrau Anadlu (ARCADE) yn 2011 ym Mhrifysgol Caerdydd i ymchwilio i’r problemau hyn a gyda chymorth Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, meddygon teulu ac ymgynghorwyr resbiradu. Recriwtiwyd dros 500 o wirfoddolwyr gyda COPD a 150 o unigolion heb broblemau ar yr ysgyfaint. Aseswyd y garfan ARCADE yn yr ymweliad sylfaenol ac eto ddwy flynedd yn ddiweddarach pan aseswyd mesuriadau cardiofasgwlaidd ac anadlol dwys. Bellach mae’r astudiaeth wedi trosglwyddo i Brifysgol Met Caerdydd ac mae mesuriadau ychwanegol ar y gweill ar hyn o bryd yn ymwneud â strôc a chamweithredu ymenyddol yn cael eu cynnal yn ymweliad 5 mlynedd dilynol  y gwirfoddolwyr hyn.

Y Galon Sy’n Troi

Dr Eric Stöhr

Ers degawdau, mae’n hysbys bod y fentrigl chwith, sef siambr fwyaf y galon, yn cyfangu gan droi wrth symud (‘trywasgu’). Mae’r ffurfiant hwn o’r cyhyr wedi’i nodi mewn organau iach ac afiach, ond mae gwir ddiben ac effaith y nodwedd ar iechyd a rheolaeth gardiofasgwlaidd gyffredinol yn parhau’n anhysbys. Bydd fy ymchwil yn y maes hwn yn ceisio egluro’r rôl honno a gwella ein dealltwriaeth sylfaenol o weithrediad y galon ddynol.

Cyhoeddwyd yn: Stöhr et al.(2016). Am J Physiol Heart Circ Physiol; 311:H633-44.

Ffibrau endocardaidd
Ffibrau epicardaidd

Addasiad Cardiaidd mewn Iechyd ac Afiechyd

Dr Eric Stöhr

O ganlyniad i ymarfer, beichiogrwydd neu amrywiol glefydau, mae’r galon ddynol yn amrywio ei maint a’i swyddogaeth. Mae’n hen goel bod calonnau sy’n fwy o faint (fel calonnau athletwyr a menywod beichiog) yn cynhyrchu cyfaint mwy o waed gyda phob curiad o gymharu â chalonnau afiach (methiant y galon a chardiomyopathi agored) yn sgil gweithrediad gwell. Fodd bynnag, mewn astudiaeth flaenorol aethom ati i herio’r safbwynt hwn trwy ddangos bod calonnau iach o wahanol faint yn cynhyrchu cyfeintiau gwahanol o waed gyda phob curiad er bod eu gweithrediad yr un fath (Cooke et al., 2018). Felly bydd fy ymchwil yn ceisio deall sut mae strwythur y galon (maint) a gweithrediad y galon (cyfangu a llacio'r cyhyr) yn rhyngweithio i gynhyrchu’r cyfaint o waed a ollyngir gan bob curiad..

Cooke, S, Samuel, TJ, Cooper, SM & Stöhr EJ. (2018). Adaptation of myocardial twist in the remodelled athlete's heartis not related to cardiac output. Exp Physiol 103, 1456-1468.

Ymchwiliad i PCOS: a Hap Brawf gyda Rheolydd

Dr Rachel Lord

Effeithiau hyfforddiant dwysedd uchel ysbeidiol (HITT) o gymharu â hyfforddiant dwysedd cymedrol rheolaidd (MISS) ar iechyd meddwl, canlyniadau gwybyddol a chardiometabolaidd mewn menywod ifanc â Syndrom Amlsystig yr Ofari: hap brawf gyda rheolydd:

Mae Syndrom Amlsystig yr Ofari (PCOS) yn gyflwr cyffredin sy’n effeithio ar fenywod ifanc. Mae cleifion yn fwy tebygol o ddatblygu diabetes math 2 a nifer o gyflyrau iechyd meddwl gan gynnwys iselder a gorbryder. Mae addasu ffordd o fyw gan gynnwys ymarfer yn rhan bwysig o’i reoli ond mae’r ffordd orau o’i reoli yn anhysbys hyd yn hyn. Gall HIIT wella llesiant meddyliol, perfformiad gwybyddol ac iechyd corfforol mewn menywod gyda’r Syndrom, o gymharu â MISS neu ofal arferol.

          

Gweithgaredd Corfforol Galwedigaethol ar gyfer Iechyd, Llesiant a Chynhyrchiant Gweithwyr

Dr Rachel Lord

Mae’n hysbys bod strategaethau iechyd galwedigaethol cyfredol yn aneffeithiol ac annigonol wrth wynebu’r heriau a wynebir. Ar y cyd â Therapi Hyblyg rwy’n cynllunio ac yn darparu mentrau iechyd yn y gwaith i wella llesiant corfforol a meddyliol. Mae dull cydgynhyrchiol yn hwyluso mewnbwn gan randdeiliaid allweddol, yn cynnwys cyflogwyr a gweithwyr er mwyn sicrhau bod ymyriadau dichonadwy yn cael eu datblygu sy’n briodol i’r amgylchedd gwaith.

          

 

Rheolaeth Barodderbynnydd Prifwythiennol ar y Barofflecs Sympathetig Fasgwlaidd

Dr Rachel Lord

Rheolir ein pwysedd gwaed gan y brif system nerfol trwy negeseuon gan dderbynyddion yn ein pibelli gwaed. Mae’r rheolaeth hon yn wahanol mewn dynion a menywod ifanc, ac mae gan fenywod ifanc lefelau is o actifadu’r system nerfol wrth orffwys na dynion. Fodd bynnag, nid ydym yn deall beth sy’n pennu actifedd y system nerfol yn yr hirdymor, felly nod y prosiect hwn yw sefydlu’r mewnbynnau allweddol sy’n rheoli’r pwynt sefydlog hwn.

          

 

Dylanwad Ymarfer Cyson ar Heneiddio Fasgwlaidd Iachus

Dr Chris Pugh

Mae’r rhaglen ymchwil hon yn archwilio’r rhyngweithio rhwng heneiddio iachus a chyfranogaeth mewn ymarfer gydol oes ar baramedrau cardiofasgwlaidd, yn cynnwys gweithrediad fasgwlaidd canolog a pherifferol, rheolaeth awtonomig ar bwysedd gwaed a gweithrediad cerebrofasgwlaidd.

 

 

Effeithiau Cyfun ac Annibynnol Ymarfer Corff a Therapi Statinau i Atal Clefyd Cardiofasgwlaidd

Dr Chris Pugh

Bydd yr hap-brawf gyda rheolydd hwn yn gwerthuso effeithiau annibynnol a chyfun ymarfer corff a therapi statinau ar weithrediad pibelli gwaed perifferol a cherebrol mewn unigolion sydd mewn perygl o glefyd cardiofasgwlaidd. .

 

          

 

Effeithiau ffitrwydd cardioresbiradol a statws tewdra ar weithrediad fasgwlaidd perifferol a cherebrol mewn plant

Mae’r rhaglen ymchwil hon yn archwilio dylanwad ffitrwydd cardioresbiradol a statws tewdra ar weithrediad pibelli gwaed a strwythur ar wahanol adegau o aeddfedrwydd plentyn.

          

 



Aelodau'r Grŵp
 

Dr Barry McDonnell,
Darllenydd mewn Ffisioleg Gardiofasgwlaidd ac Arweinydd Grŵp
Dr Eric Stöhr,
Darlithydd mewn Ffisioleg Gardiaidd ac Iechyd
Darlithydd mewn Chwaraeon a Ffisioleg Ymarfer
Uwch Ddarlithydd mewn Ffisioleg Ymarfer
Dr Mike Stembridge,
Uwch Ddarlithydd mewn Chwaraeon a Ffisioleg Ymarfer
Dr Mike Hughes,
Uwch Ddarlithydd mewn Chwaraeon a Ffisioleg Ymarfer
Uwch Ddarlithydd mewn Podiatreg
Rheolwr Gwasanaethau Technegol
​Dr James Coulson,
Athro er Anrhydedd
​Yr Athro John Cockroft,
Athro ar Ymweliad
Yr Athro Zaheer Yousef,
Athro ar Ymweliad

Myfyrwyr PhD:

Zoe Adams​Campbell Menzies
Mafouda Al ShezawiAmanda Nio
​Brian Begg​Cory Richards
Graham BellCharles Steward
​Sarah BrownJack Talbott
Aimee Drane​Joshua Taylor
​Tony DawkinsDenis Wakeham
Stuart Ennis​Megan Harper (Registered at University of British Columbia)
Thomas GriffithsLydia Simpson (Registered at Bangor)

 

Cydweithredwyr – Partneriaid Trydydd Sector

IEM GmbH, Stolberg, Yr Almaen
Orca Medical, Bryste, y DU
International Society of Hypertension
British and Irish Hypertension Society
Sefydliad Prydeinig y Galon, y DU
HiruMed, y DU
Hyb Strôc Cymru
National Cardiovascular Network, Cymru
EU COST Action, Vascular Ageing Network
Rox Medical, UDA
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Enghreifftiau o Gyllid

FIFA Research Scholarships

Medical Research Council / British Heart Foundation

National Institute for Health Research (NIHR)