Skip to main content
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd>Cyrsiau>Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff – Gradd BSc (Anrh)

Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff – Gradd BSc (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Mae'r radd BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Met Caerdydd wedi'i chymeradwyo gan gorff proffesiynol y diwydiant, Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Prydain [BASES] ac mae'n canolbwyntio ar sail wyddonol perfformiad mewn chwaraeon a chymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff. Er mwyn cyflawni gofynion BASES, byddwch yn dilyn llwybr penodol drwy gydol y tair lefel sy'n canolbwyntio ar ennill dealltwriaeth o ddisgyblaethau chwaraeon ac ymarfer craidd ffisioleg, biomecaneg a seicoleg yn ogystal ag archwilio agweddau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff gyda lefel uchel o berthnasedd a phrofiad galwedigaethol.

Fel rhan o astudio ar y radd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, gallwch hefyd ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn thema astudio ychwanegol yn seiliedig ar naill ai cryfder a chyflyru, maeth chwaraeon neu atgyfeirio ymarfer corff a chyfarwyddyd ffitrwydd gyda'r cyfle i ennill cymwysterau galwedigaethol ychwanegol.

Drwy gydol y radd hon mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff byddwch yn cael profiadau ymarferol o weithgareddau mewn labordy yn ogystal â chael cyfleoedd i arsylwi a chymryd rhan mewn ymarfer cymhwysol. Byddwch yn cael llawer o gyfleoedd i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau cyd-destunol ymarferol mewn gwyddoniaeth chwaraeon ac ymarfer corff, profi ffitrwydd, hyfforddi, rhagnodi ymarfer corff a lleoliadau perfformiad.

Blwyddyn Sylfaen

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

​Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i​:

  1. Myfyrwyr sydd am ymrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd wyddonol yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, sydd heb gyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
  2. Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu'r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.


Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen​​.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon​.

​Cynnwys y Cwrs

Mae'r rhaglen Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer wedi'i seilio ar ddwy golofn. Yn gyntaf, sicrhau bod myfyrwyr yn wybodus yn nisgyblaethau gwyddonol sylfaenol ffisioleg, biomecaneg a seicoleg ac yn ail, sut y gellir cymhwyso'r wybodaeth a sgiliau yn y disgyblaethau hyn i'r cyd-destun chwaraeon ac ymarfer.

Cyflwynir pob disgyblaeth ym mlwyddyn 1 ac fe adeiladir ar hyn ym mlwyddyn 2 gyda modiwlau gorfodol sy'n sicrhau ehangder o wybodaeth a dealltwriaeth ynghyd â gwerthfawrogiad o sut y gall y disgyblaethau gyfuno i fynd i'r afael â chwaraeon a phroblemau sy'n gysylltiedig ag ymarfer corff. Mae blwyddyn olaf yr astudiaeth yn eich galluogi i ganolbwyntio ar un neu ddwy o'r disgyblaethau hyn gan sicrhau eich bod yn datblygu gwybodaeth a chymhwysiad uwch mewn maes sy'n cyd-fynd â'ch dyheadau gyrfaol yn y dyfodol.

Hefyd, mae'r rhaglen Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer yn archwilio'r continwwm sy'n ymestyn o'r chwaraeon cystadleuol hyd at ymarfer corff a gweithgaredd corfforol. Bydd hyn yn eich helpu i gael gwerthfawrogiad o'r gwahanol ysgogwyr ar gyfer chwaraeon ac ymarfer yn ogystal â'r gwahanol ofynion ac ymatebion hyfforddi a'r gwahanol rolau y mae chwaraeon ac ymarfer yn eu chwarae mewn gwahanol boblogaethau. Mae blynyddoedd 1 a 2 yn cyflwyno'r cyd-destunau gwahanol hyn o safbwynt disgyblaeth gydag opsiwn blwyddyn olaf i ganolbwyntio ar chwaraeon neu ymarfer fel prif thema.

Yn ychwanegol at y prif fodiwlau disgyblu byddwch hefyd yn ymgymryd â modiwlau i hwyluso'ch trosglwyddiad i astudio ar lefel prifysgol, datblygu eich sgiliau ymchwil critigol a gwyddoniaeth, ymchwilio i ddisgyblaethau eraill sy'n gysylltiedig â chwaraeon a gwyddor ymarfer (e.e. maeth chwaraeon, cryfder a chyflyru ac atgyfeirio ymarferion) yn ogystal â chael cyfleoedd i ennill cymwysterau cydnabyddedig sy'n berthnasol i'r diwydiant galwedigaethol.

Byddwch yn gallu ymgymryd â phrosiect mawr yn eich dewis faes astudio, ochr yn ochr â'r cynnwys pwnc-benodol o'ch dewis. Mae'r flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar eich datblygu chi fel dysgwr annibynnol sy'n cael ei yrru a fydd yn caniatáu i chi gymryd rheolaeth o'ch dysgu a sicrhau bod hyn yn cyd-fynd â'ch cam cyntaf i swydd fel unigolyn graddedig neu i barhau i astudio ymhellach. Mae mentora yn rhan sylweddol o'r flwyddyn olaf o astudio i ganiatáu cefnogaeth unigol i ddatblygu eich sgiliau fel academydd ac ymarferydd yn y meysydd sy'n cyd-fynd â chwaraeon a gwyddor ymarfer.

Blwyddyn un

  • Ymchwil ac Ysgolheictod*
  • Datblygiad Proffesiynol
  • Biomecaneg Symudiad Dynol
  • Hanfodion Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer
  • Hanfodion Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer
  • Pynciau sy'n Gysylltiedig â Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer

Blwyddyn dau

Modiwlau Craidd:

  • Dylnunio a Phractis Ymchwil*
  • Materion mewn Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer*
  • Biomecaneg Chwaraeon ac Ymarfer
  • Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer
  • Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer

Opsiynau:

  • Maetheg*
  • Hanfodion Cryfder a Chyflyru ar gyfer Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer (SES)

Blwyddyn tri

Modiwlau Craidd:

  • Prosiect Terfynol*
  • Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff Rhyngddisgyblaethol

Modiwlau Opsiynol:

  • Biomecaneg Chwaraeon
  • Biomecaneg Iechyd ac Adfer
  • Ffisioleg Perfformiad Chwaraeon
  • Ffisioleg Ymarfer Corff mewn Iechyd
  • Seicoleg Chwaraeon
  • Seicoleg Ymarfer Corff
  • Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff
  • Cryfder a Chyflyru ar gyfer Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff (SES)

*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg

Dysgu ac Addysgu

Mae dulliau dysgu, addysgu ac asesu effeithiol yn sail i nodau addysgol a chanlyniadau dysgu pob un o'n rhaglenni a'n modiwlau. Gall dulliau dysgu ac addysgu o fewn y rhaglen chwaraeon a gwyddor ymarfer corff gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau, sesiynau ymarferol yn y labordy, siaradwyr gwadd ac ymweliadau â'r diwydiant. Mae ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir hefyd yn agwedd annatod o'r pecyn dysgu sy'n cefnogi anghenion ein myfyrwyr.

Mae darlithoedd arweiniol yn cyflwyno pynciau a chysyniadau allweddol, tra bod seminarau, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau ymarferol yn canolbwyntio ar gymhwyso cysyniadau allweddol gyda'r nod o wella profiad ac ymgysylltiad myfyrwyr. Byddwch hefyd yn cwrdd â thiwtoriaid ar sail un i un. Fel ysgol, rydyn ni'n gweithio'n galed i ddarparu cyfleoedd dysgu myfyriwr-ganolog sy'n darparu amgylchedd dysgu hyblyg o ansawdd uchel.

Mae dulliau dysgu ac addysgu yn pwysleisio ac yn hwyluso datblygiad eich rhesymu critigol, ac yn cymell integreiddio ymarfer corff a theori. Trwy gydol eich rhaglen, byddwch yn profi dysgu dan arweiniad tiwtor a dulliau dysgu hunan-gyfeiriedig, gan gynyddu annibyniaeth a myfyrio a'ch annog i ddatblygu agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu gydol oes.

Mae ein dulliau addysgu a dysgu yn ymgorffori sgiliau 'EDGE' Met Caerdydd (Moesegol, Byd-eang, Digidol ac Entrepreneuraidd) a byddwch yn cael arweiniad da i arddangos y priodoleddau graddedig a ddisgwylir gennych mewn byd gwaith cynyddol gystadleuol. Ein nod ydy eich helpu chi i ddatblygu'n weithwyr proffesiynol myfyriol ac ysgolheigion critigol.

Yn eich rhaglen chwaraeon ym Met Caerdydd, byddwch yn cael profiadau dysgu o'ch cyfnod sefydlu hyd nes i chi raddio sy'n gydlynol ac yn datblygu'ch hunaniaeth yn eich rhaglen astudio.

Mae nodweddion penodol o'ch profiad dysgu ar y rhaglen Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff yn cynnwys y canlynol:

  • Ymchwilwyr o fri rhyngwladol sy'n rhan annatod o'r pecyn dysgu a gynigir i'n myfyrwyr.
  • Adnoddau ac offer labordy gwyddor ymarfer corff o safon byd er mwyn gwella profiad dysgu myfyrwyr.
  • Mae pob agwedd o Ddysgu ac Addysgu'n defnyddio'r llenyddiaeth ymchwil a'r safonau proffesiynol diweddaraf (e.e. BASES, CIMSPA, REPS). Mae'r rhaglen yn cael ei chydnabod fel gradd gymhwysol ym maes chwaraeon a gwyddor ymarfer corff ac wedi ei ardystio gan y corff proffesiynol BASES, Cymdeithas Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer Prydain.

Asesu

Mae'r strategaethau asesu ar gyfer pob modiwl yn amrywio i sicrhau bod y dull mwyaf priodol yn cael ei weithredu ar gyfer maes eich astudiaeth. Mae dulliau asesu wedi'u cynllunio i wella'ch profiad dysgu ac i gydnabod eich bod wedi cyflawni'r canlyniadau dysgu sy'n gysylltiedig â phob modiwl. Mae asesu hefyd yn sicrhau eich bod wedi cyflawni'r safon sy'n ofynnol i symud ymlaen i'r cam nesaf neu i fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad (fel y'i mynegir gan y FHEQ a'r CQFW). Mae asesiadau'n cefnogi'ch profiad dysgu trwy ddarparu cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn asesiadau ffurfiannol a chrynodol i brofi'ch gwybodaeth, eich gallu, eich sgil a'ch dealltwriaeth gritigol ac hefyd i ddatblygu eich sgiliau hanfodol perthnasol i'r gweithle. Asesir y modiwlau israddedig gan gyfuniad o fathau o asesu. Er enghraifft:

  • gwaith cwrs ysgrifenedig
  • cyflwyniadau poster
  • cyflwyniadau llafar
  • portffolios
  • arholiadau gyda llyfrau a rhai heb lyfrau
  • sgiliau ymarferol
  • gweithgareddau eraill a gynlluniwyd i asesu, datblygu a gwella sgiliau academaidd a chyflogadwyedd.

Disgwylir i chi gwblhau prosiect terfynol fel rhan o'r asesiad o'ch gradd anrhydedd. Mae prosiectau terfynol yn ddarnau pwysig o waith a allai fod yn brosiect ymchwil, arloesi, ymgynghori neu'n seiliedig ar y gymuned.

Mae natur y rhaglen chwaraeon a gwyddor ymarfer corff yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr arddangos rhinweddau damcaniaethol (ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth a meddwl yn gritigol) a cymhwysol (sgiliau ymarferol, datblygu ymyrraeth ac atgyfeirio), ac felly mae asesiadau o fewn modiwlau chwaraeon a gwyddor ymarfer corff yn cynnwys asesiadau damcaniaethol a asesiadau ymarferol mewn lleoliadau cymhwysol.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae'r rhaglen Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff yn ceisio datblygu eich cyflogadwyedd o dri safbwynt. Yn gyntaf, fel myfyriwr graddedig gyda safon uchel o sgiliau graddedig a ddatblygwyd trwy athroniaeth 'EDGE Met Caerdydd' sy'n eich cefnogi i ffynnu yn y byd modern. Trwy gydol eich gradd byddwch yn profi ystod o gyfleoedd i ddatblygu eich cymwyseddau moesegol, digidol, byd-eang ac entrepreneuraidd trwy ddysgu ar sail problemau, astudiaethau achos o fyd go iawn y diwydiant a phrofiadau gwaith ymarferol ar y campws a, lle bo hynny'n briodol, oddi ar y campws hefyd. Drwy eich holl gyfnod ym Met Caerdydd byddwn yn sicrhau eich bod yn cael ystod o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau graddedig trosglwyddadwy fel cyfathrebu, gwaith tîm ac arweinyddiaeth. Yn ail, i'ch datblygu chi fel gwyddonydd, fe'ch anogir i feddwl ac ysgrifennu'n gritigol; ffurfio a chyflwyno dadl resymegol; casglu, coladu, dadansoddi a dehongli data; a dylunio, gweithredu a gwerthuso ymyrraeth neu raglen sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Yn olaf, byddwch yn datblygu'r arbenigedd pwnc angenrheidiol i ddod yn ymarferydd chwaraeon a gwyddor ymarfer corff effeithiol yn eich dewis faes.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf fe gewch chi gyfle i ymgymryd â chymhwyster technegol mewn hyfforddi ffitrwydd ac archwilio ystod o feysydd sy'n berthnasol i'r diwydiant gan gynnwys hyfforddi chwaraeon, atgyfeirio ymarfer corff, diogelu a chyamddefnyddio cyffuriau.​​ Bydd y cyfleoedd hyn yn sicrhau bod gennych y cymwysterau a'r profiad priodol i wneud cais am un o'r nifer o gyfleoedd lleoliad gwaith a gynigir ar ac oddi ar y campws. Byddwn hefyd yn eich cefnogi i chwilio am gyfleoedd i weithio neu astudio dramor. Mae myfyrwyr sydd wedi graddio o'r rhaglen Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff wedi mynd ymlaen i weithio mewn gyrfaoedd o fewn a thu hwnt i'r diwydiant chwaraeon ac ymarfer.

Mae graddedigion diweddar o'r rhaglen chwaraeon a gwyddor ymarfer corff bellach yn gweithio gyda timau chwaraeon proffesiynol, timau chwaraeon academi yn ogystal â gyda chyrff llywodraethu cenedlaethol ar chwaraeon. Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dilyn cyfleoedd ym myd practis preifat, amgylchedd clinigol neu yn y lluoedd arfog, gwasanaethau argyfnwg a'r diwydiant ffitrwydd. Mae myfyrwyr eraill wedi parhau i astudio ymhellach ar lefel Meistr ym maes chwaraeon a gwyddor corff neu ddisgyblaethau cysylltiol fel maeth chwaraeon, dadansoddi perfformiad chwaraeon, ffisiotherapi neu gryfder a chyflyru. Mae eraill wedi symud ymlaen ymhellach i astudio ar lefel doethuriaeth tuag at wneud gyrfaoedd fel ymchwilwyr neu academyddion.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofynion mynediad hyn, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen​ sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.

  • Pwyntiau tariff: 120-128
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd a Gwyddoniaeth.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: Tair Safon Uwch. Graddau BB i gynnwys Gwyddoniaeth.
  • Pynciau perthnasol: Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Seicoleg, Addysg Gorfforol / Astudiaethau Chwaraeon, Mathemateg neu Fioleg Cymdeithasol yn cael ei hystyried yn Wyddoniaeth gyfatebol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM-DDM mewn Gwyddoniaeth neu Addysg Gorfforol.
  • Lefel T: Teilyngdod mewn pwnc Gwyddoniaeth.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: 15 credyd gyda Rhagoriaeth a 30 credyd gyda Theilyngdod.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 1 x H6 a 1 x H5. H6 mewn Gwyddoniaeth.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 3 x gradd H2 i gynnwys Gwyddoniaeth. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau CC i gynnwys gradd C mewn Gwyddoniaeth. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers​.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu drwy e-bost askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau penodol am y cwrs, cysylltwch â'r Tîm Cymorth Rhaglen:
E-bost: CSSHSLTSE@cardiffmet.ac.uk

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

​Codau UCAS:​
C600 - Gradd 3 blynedd
C60F - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen)​

Cymeradwywyd gan​:
The British Association of Sport and Exercise Sciences

Man Astudio:
Campws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd llawn amser neu bedair blynedd llawn amser gan gynnwys blwyddyn Sylfaen.

Ar gael yn rhan-amser hefyd a gall fod hyd at wyth mlynedd. Mae’r myfyrwyr rhan-amser yn ymuno â’r myfyrwyr amser llawn ar gyfer pob modiwl. Felly cwblheir y rhan fwyaf o’r modiwlau rhwng 9.00yb a 6.00yp yn ystod yr wythnos.

Ffioedd rhan-amser:
Codir tâl fesul modiwl sengl oni nodir yn wahanol: israddedig ​= 10 credyd. Cysylltwch ag arweinydd y rhaglen am ragor o wybodaeth am fodiwlau i’w hastudio’n rhan-amser a sut bydd hyn yn effeithio ar ffioedd.​

TROSOLWG O'R CWRS | UCHAFBWYNTIAU GRADD
Uchafbwyntiau Gradd

Yn y fideo cyflwyniad byr hwn, mae'r darlithydd Rachel Lord, yn dweud mwy wrthym am y radd mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

DEWCH I GWRDD Â’R TÎM
John Fernandes

“Fe wnes i radd mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff oherwydd roedd gen i (ac mae gen i!) ddiddordeb mawr mewn perfformiad chwaraeon. Yn ystod fy ngradd bûm yn gweithio mewn llawer o dimau chwaraeon a mwynheais gymaint am fy astudiaethau ond yn y pen draw ymchwil a gymerodd fy niddordeb. Felly, ar ôl fy ngradd cwblheais fy PhD a oedd yn ymchwilio i adferiad o ymarfer corff ymhlith athletwyr hŷn (hy a yw’r teimladau hynny o ddolur ar ôl ymarfer yn gwaethygu wrth i chi fynd yn hŷn). Wrth wneud hyn dechreuais ddarlithio a chanfod fy angerdd go iawn. Roeddwn wrth fy modd yn trosglwyddo gwybodaeth i fyfyrwyr, yn rhyngweithio mewn sesiynau ymarferol ac yn bennaf oll yn gweld myfyrwyr yn datblygu. Mae dal i fyny â myfyrwyr ar ôl graddio yn wir yn un o fanteision y swydd! Ar ben hynny rwy’n cael ymchwilio i bethau cŵl a gweithio gyda staff a myfyrwyr sy’n angerddol am yr hyn maen nhw’n ei wneud. Rwy’n eistedd ar y grwpiau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) allweddol, gan gynnwys pwyllgor EDI BASES. Felly yn y bôn, rhan allweddol arall o’r hyn rwy’n ei wneud i geisio gwneud chwaraeon, ymarfer corff a’r byd academaidd yn decach. Rwy’n hyderus y gall fy mhrofiad helpu i wneud graddedigion sy’n barod ar gyfer y diwydiant!”

John Fernandes
Arweinydd Tîm Academaidd

Dewch i Gwrdd â’r Tîm: Mike Stembridge

Dewch i gwrdd â Dr Mike Stembridge, Uwch Ddarlithydd mewn Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Met Caerdydd, sy’n rhannu ei brofiad a’i angerdd am y pwnc.

Dewch i Gwrdd â’r Tîm: Rachel Lord

Dewch i gwrdd â Rachel Lord, darlithydd ar y radd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, sy’n rhannu ei harbenigedd a’i hangerdd am y pwnc.

CYFLEUSTERAU GWYDDOR CHWARAEON AC YMARFER CORFF

Ar ein gradd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff byddwch yn cael eich addysgu mewn cyfleusterau lefel uchel a byddwch yn gallu defnyddio offer a ddefnyddir mewn ymchwil ac ymarfer. Mae hyn yn cynnwys offer sy’n caniatáu asesu’r cymeriant ocsigen mwyaf, symudiad rhedeg, tracio llygaid yn ystod tasgau chwaraeon, lactad gwaed, sgrinio cardiaidd a llawer mwy!

Cyfleusterau Chwaraeon

Mae’r Brifysgol yn parhau i fuddsoddi yn ei chyfleusterau chwaraeon o safon fyd-eang ar gampws Cyncoed i wella perfformiad a datblygiad academaidd ein holl fyfyrwyr.

PROFIAD MYFYRWYR A GRADDEDIGION

“Mae fy mhrofiad yma ym Met Caerdydd wedi bod yn anhygoel. Rwyf wrth fy modd â’r awyrgylch chwaraeon a’r gymuned gefnogol sydd gennym ar Gampws Cyncoed. Mae’r cyfleusterau chwaraeon yn dda iawn ac yn bwysicaf oll i mi, yr hoci. Fe wnes i gais i astudio ar y cwrs Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Met Caerdydd oherwydd fy mod yn mwynhau dysgu am fiomecaneg, seicoleg chwaraeon, a ffisioleg. Rwy’n gobeithio astudio ymhellach mewn Seicoleg Chwaraeon gan fod hynny o ddiddordeb i mi fwyaf.”

Sophie Herbert
Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

“Rwy’n mwynhau astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (SES) ym Met Caerdydd oherwydd pa mor eang yw’r cwrs ac mae’n addas ar gyfer fy nyheadau gyrfa yn y dyfodol. Seicoleg, Biomecaneg a Ffisioleg yw’r tair disgyblaeth sy’n sail i SES, gan ein galluogi ni fel myfyrwyr i ddatblygu ein dealltwriaeth a’n gwybodaeth mewn amrywiaeth o feysydd pwnc. Gan fod gennyf ddiddordeb parhaus mewn chwaraeon, mae’r cwrs hwn wedi fy ngalluogi i ehangu fy ngwybodaeth a’m hangerdd dros weithio o fewn y diwydiant hwn yn y dyfodol. Mae’r cwrs ei hun yn rhyngweithiol iawn, o gynnwys ar-lein i ffurflenni adborth, mae’r darlithoedd i gyd yn awyddus i ddatblygu perthynas ymddiriedus gyda phob myfyriwr, gan wneud iddo deimlo eich bod i gyd yn y radd hon gyda’ch gilydd.”

Erin Hughes
Llysgennad Myfyrwyr Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff