Skip to main content
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd>Cyrsiau>Meistr Ymarfer Proffesiynol (Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon) - MSc/PgD

Meistr Ymarfer Proffesiynol (Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon) - MSc/PgD

Dadansoddi Perfformiad yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd sy'n arwain y byd o ran safbwyntiau academaidd a chymhwysol. Mae'r Ysgol wedi cynnig astudiaeth ôl-raddedig mewn Dadansoddi Perfformiad ers i'r Radd Meistr gyntaf erioed mewn Dadansoddi Perfformiad gael ei datblygu yn 2003. Mae gan Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd Caerdydd Ganolfan Dadansoddi Perfformiad unigryw sy'n cynnwys labordai addysgu ac ymarferol penodol iawn gyda llu o feddalwedd ac adnoddau o'r radd orau ar gael.

Mae’r rhaglen MSc Ymarfer Proffesiynol, yn mabwysiadu dull cyflwyno dysgu o bell, sy'n caniatáu ymgysylltu â dysgu ledled y byd. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu arbenigedd a dysgu cymhwysol o fewn yr amgylchedd gwaith a chymhwyso cyd-destun damcaniaethol. Cyflawnir hyn drwy leoliad proffesiynol hydredol ym maes dadansoddi perfformiad chwaraeon, naill ai drwy waith y myfyrwyr eu hunain neu drwy hysbysebu ysgoloriaeth.

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

​Cynnwys y Cwrs

Mae gan y rhaglen Ymarfer Proffesiynol, a gynlluniwyd o amgylch lleoliad proffesiynol hydredol, y modiwlau canlynol.

  • Ymarfer Proffesiynol (Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon)
  • Ymgysylltu ag Ymarferwyr
  • Archwilio'r Amgylchedd Proffesiynol
  • Ymchwil Gyfoes mewn Dadansoddi Perfformiad
  • Dulliau Ymchwil mewn Chwaraeon
  • Prosiect Terfynol

Bydd cyfleoedd lleoli yn helpu i gael achrediad gan y Gymdeithas Ryngwladol Dadansoddi Perfformiad chwaraeon (ISPAS).

Cyfleoedd Lleoliad Proffesiynol

Bydd yr holl leoliadau y cadarnhawyd eu bod yn addas ar gyfer y rhaglen gan Gyfarwyddwr y Rhaglen yn cael eu hysbysebu yma. Cyn gwneud cais am unrhyw un o'r cyfleoedd lleoli hyn, mae'n rhaid bod ymgeiswyr wedi derbyn cynnig i astudio'r MSc Ymarfer Proffesiynol (SPA).

Dysgu ac Addysgu

Mae'r rhaglen Ymarfer Proffesiynol wedi'i chynllunio i'w hastudio yn yr amgylchedd gwaith proffesiynol, felly bydd mynediad at adnoddau dadansoddi perthnasol yn dibynnu ar leoliad.

Mae pob modiwl, ac eithrio Prosiect Terfynol ac Ymgysylltu ag Ymarferwyr yn fodiwl 20 credyd. Bydd cynnwys dysgu yn cael ei gyflwyno gan sgyrsiau fideo rhyngweithiol byw, cynnwys fideo wedi'i recordio a deunyddiau dysgu ar-lein.

Mae cyflwyno wedi'i amserlennu ar gyfer cynnwys cydamserol ar gyfer pob modiwl yn cyfateb i tua 3 awr yr wythnos, wedi'i ategu â hyd at 6 awr o amser astudio dan gyfarwyddyd a hyd at 6 awr o amser astudio annibynnol bob wythnos. Mae amser cyswllt fel arfer yn cynnwys darlithoedd, seminarau a thiwtorialau unigol.

Fel arfer, caiff modiwlau eu haddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau rhyngweithiol lle defnyddir trafodaethau a thasgau grŵp yn aml. Disgwylir i fyfyrwyr fynychu darlithoedd a chymryd rhan mewn tasgau astudio dan gyfarwyddyd sy'n berthnasol i bob modiwl. Cefnogir yr holl fodiwlau gan lwyfan dysgu ar-lein y Brifysgol, lle bydd adnoddau dysgu a gwybodaeth atodol ar gael.

Cefnogir pob myfyriwr gyda mynediad at diwtor personol, sydd fel arfer yn Gyfarwyddwr y Rhaglen. Lle bo'n bosibl yn logistaidd, mae'r rhan fwyaf o ddarlithoedd wedi'u trefnu ar ddydd Llun, ond yn dibynnu ar ddewis modiwlau efallai na fydd hyn yn bosibl.

Yn ystod Ymgysylltu ag Ymarferwyr bydd myfyrwyr hefyd yn cael eu cefnogi gan fentor seiliedig ar waith ac academaidd drwy gydol y modiwl.

Asesu

Ac eithrio Prosiect Terfynol ac Ymgysylltu ag Ymarferwyr, mae pob asesiad modiwl yn seiliedig ar 5,000 o eiriau neu gyfwerth. Cynlluniwyd dulliau asesu i roi cyfle i'r myfyriwr ddangos ei wybodaeth a'i ddealltwriaeth o arfer damcaniaethol, cymhwysol a phroffesiynol yn y modd mwyaf perthnasol, a chynnwys traethodau sy'n seiliedig ar waith cwrs, cyflwyniadau ymarferol, cynhyrchu adnoddau i amlygu dadansoddi, adroddiadau ac adolygiadau beirniadol.

Gellir cyflwyno'r Prosiect Terfynol naill ai fel traethawd ymchwil traddodiadol 12,000 gair neu ar ffurf erthygl cyfnodolyn.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae llawer o raddedigion dadansoddi perfformiad o Met Caerdydd yn gweithio ym maes dadansoddi perfformiad.

Oherwydd gofynion Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, cwmnïau teledu lloeren a daearol, clybiau pêl-droed, clybiau rygbi, Athrofa Chwaraeon Cymru, Sefydliadau Chwaraeon Lloegr (canolfannau rhanbarthol) Chwaraeon bu cynnydd yn yr ystod o gyfleoedd gyrfa ym maes dadansoddi perfformiad chwaraeon.

Mae'r rhaglen hon yn paratoi myfyrwyr ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd dadansoddi yn y diwydiant chwaraeon, yn enwedig gwaith sy'n digwydd gyda pherfformwyr elît.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Fel arfer, dylai ymgeiswyr gael un o'r canlynol:

  • Mae gradd anrhydedd (2:1 neu uwch) mewn maes sy'n gysylltiedig â chwaraeon neu fathemateg yn briodol i Gyfarwyddwr y Rhaglen
  • Gradd anrhydedd (2:1 neu uwch) mewn maes pwnc amgen sy'n dderbyniol gan Gyfarwyddwr y Rhaglen.
  • Profiad o astudio neu ddarparu dadansoddiad perfformiad.
  • Bydd ymgeiswyr sydd â phrofiad gwaith eithriadol a helaeth mewn chwaraeon, hyfforddi neu berfformiad hefyd yn cael eu hystyried.

Ar gyfer yr MSc Ymarfer Proffesiynol, rhaid i ymgeiswyr hefyd naill ai gael lleoliad gwaith proffesiynol perthnasol wedi'i drefnu neu wneud cais am interniaeth â chymorth.

Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.5 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg ewch i'r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Gweithdrefn Ddethol:
Fel arfer, caiff myfyrwyr eu dewis ar sail eu cais ffurfiol, CV a chyfweliad. Fel arfer, gwahoddir ymgeiswyr i gael sgwrs anffurfiol (skype neu ffôn) gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen cyn gwneud unrhyw gynnig.

Sut i wneud cais:
Dylai ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei wneud yn uniongyrchol i'r brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais yma.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd gan sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a / neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen RPL.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael. Cyfeiriwch yma.

Ffioedd rhan-amser:
Codir y taliadau fesul Modiwl Sengl oni nodir yn benodol:
Israddedig = 10 Credyd; Ôl-raddedig = 20 Credyd

Yn gyffredinol, gwelwn y bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn cwblhau 60 credyd y flwyddyn ar gyfer astudio Israddedig ac Ôl-raddedig; i gael gwir gost, eglurwch hyn trwy gysylltu â Chyfarwyddwr y Rhaglen yn uniongyrchol.

Cysylltwch â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch directapplications@cardiffmet.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, Lucy Holmes
E-bost: lholmes@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: +44(0)29 2041 7258

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Man Astudio:
Campws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Un i ddwy flynedd yn llawn amser.
Dwy i bedair blynedd yn rhan-amser.