Ffisioleg Gardiofasgwlaidd

Arweinwyr: Dr Rachel Lord, Dr Chris Pugh.

Arweinwyr: Dr Rachel Lord
Arweinwyr: Dr Chris Pugh

Mae gan y maes arbenigedd hwn ddau brif ffocws, sef ymchwil sy'n datblygu ac yn archwilio ymyriadau ymarfer corff newydd wrth atal a thrin afiechydon anhrosglwyddadwy; ac ymchwil sy'n archwilio gweithgarwch corfforol cyson ar iechyd cardiofasgwlaidd ar hyd y rhychwant oes.

Wrth ddylunio ymyriadau ymarfer corff newydd, rydym yn archwilio strategaethau a fydd yn optimeiddio ymarfer corff fel presgripsiwn ac yn hyrwyddo rhaglenni ymarfer corff wedi'u teilwra i’r unigolyn er mwyn cael y budd cardiofasgwlaidd mwyaf posibl. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn archwilio buddion priod hyfforddiant ymarfer corff cymedrol a dwyster uchel mewn amrywiaeth o grwpiau bregus (e.e. adsefydlu cardiaidd, syndrom ofarïau amlsystig), yn ogystal ag archwilio effeithiau annibynnol a chyfunol hyfforddiant ymarfer corff a therapi fferyllol (e.e. statinau, cyffuriau gwrthorbwysol). A hefyd, gweithgarwch corfforol cyson ar iechyd cardiofasgwlaidd ar hyd y rhychwant oes gan gynnwys y cysyniad o heneiddio'n iach a rôl gweithgarwch corfforol ar iechyd cardiofasgwlaidd pediatrig ar hyd y cyfnodau aeddfedu.

Nod y maes hwn o ymchwil CYIGLl yw deall technegau a mecanweithiau y gellid eu mwyhau i gefnogi ymarferwyr ym meysydd perthynol i iechyd a'u sefydliadau cysylltiedig, fel Byrddau Iechyd a grwpiau Comisiynu, gan oleuo’r defnydd effeithiol o weithgarwch corfforol i wella iechyd y cyhoedd.


Ymhlith y prosiectau enghreifftiol y mae:

Effeithiau Annibynnol a Chyfunol Hyfforddiant Ymarfer Corff a Therapi Statinau wrth Atal Clefyd Cardiofasgwlaidd ar Lefel Sylfaenol

Argymhellir ymarfer corff rheolaidd a therapi statinau i leihau risg Clefyd Fasgwlaidd Coronaidd (CVD). Pan gânt eu rhagnodi ar ôl trawiad ar y galon neu strôc, mae ymarfer corff a statinau’n lleihau'r risg o farwolaeth sy'n gysylltiedig â CVD o ~25%. Fodd bynnag, mae llawer llai yn hysbys am effeithiau cymharol ymarfer corff a therapi statinau wrth atal CVD ar lefel sylfaenol (h.y. cyn digwyddiad CVD). Dengys gweithrediad pibellau gwaed gwael y cam cynharaf o CVD, y gellir ei fesur ag uwchsain i ganfod risg CVD cynnar mewn modd manwl. Mae ymarfer corff rheolaidd yn darparu amrywiaeth o fuddion cardiofasgwlaidd ac yn cael effaith therapiwtig uniongyrchol ar weithrediad pibellau gwaed. Mewn cyferbyniad, mae therapi statinau’n lleihau risg CVD yn bennaf trwy ostwng colesterol, a allai hefyd wella gweithrediad pibellau gwaed. Fodd bynnag, ni chymharwyd effeithiau annibynnol hyfforddiant ymarfer corff a therapi statinau ar weithrediad pibellau gwaed yn uniongyrchol yng nghyd-destun atal sylfaenol. Nid yw'n hysbys ar hyn o bryd a yw cyfuno'r ddau ymyriad yn rhoi buddion cardiofasgwlaidd ychwanegol. Nod y prosiect hwn, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yw cynnal hap-dreial rheoledig o effeithiau annibynnol a chyfunol hyfforddiant ymarfer corff a therapi statinau ar weithrediad pibellau gwaed amgantol ac ymenyddol mewn unigolion sy’n wynebu risg o CVD.

Cysylltiadau Prifysgol Metropolitan Caerdydd: Dr Chris Pugh, Dr Eric Stohr, Dr Barry McDonnell.


Effeithiau hyfforddiant seibiannol dwyster uchel o’i gymharu â hyfforddiant cyflwr cyson dwyster cymedrol ar iechyd meddwl, canlyniadau gwybyddol a chardiofetabolaidd mewn menywod ifanc â Syndrom Ofarïau Amlsystig

Mae syndrom ofarïau amlsystig (PCOS) yn gyflwr cyffredin sy'n effeithio ar ferched ifanc, y’i nodweddir gan fisglwyfau afreolaidd, tyfiant gwallt gormodol (gorflewogrwydd) ac anhawster beichiogi. Mae gan gleifion fwy o risg o ddatblygu diabetes math 2 a sawl cyflwr iechyd meddwl, gan gynnwys iselder a gorbryder. Mae addasu ffordd o fyw, gan gynnwys ymarfer corff, yn rhan bwysig o’i reoli, ond mae'r ffordd orau o gyflawni hyn yn aneglur. Mae hyfforddiant seibiannol dwyster uchel (HIIT), sy'n cynnwys pyliau byr o ymarfer corff dwys a chyfnodau adfer bob yn ail, wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar fel ffordd effeithlon o ran amser i wella ffitrwydd cardiofasgwlaidd yn y boblogaeth yn gyffredinol. O'i gymharu â hyfforddiant cyflwr cyson dwyster cymedrol (MISS), gall HIIT wella ymlyniad wrth ymarfer corff, lles meddyliol, perfformiad gwybyddol ac iechyd corfforol mewn menywod â PCOS. Nod y prosiect hwn a ariennir gan y Waterloo Foundation yw cymharu HIIT â MISS neu ofal arferol, mewn hap-dreial rheoledig.

Cysylltiadau Prifysgol Metropolitan Caerdydd: Dr Rachel Lord a'r Athro Philip James.


Ffeithlun cryno o'n diddordebau penodol pellach

Summary infographic of our further specific interests