Jack Talbot

Pictire of Jack Talbot

Technegydd/Arddangosydd (Ffisioleg)

Rhif ffôn: 029 2041 6593
Cyfeiriad e-bost: talbot@cardiffmet.ac.uk 

Ymunodd Jack ag Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd fel Technegydd/Arddangosydd Ffisioleg yn 2017 a bydd yn cofrestru fel myfyriwr PhD rhan-amser yn y dyfodol agos.

Graddiodd Jack gyda BSc Gwyddorau Chwaraeon a Ymarfer ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2015 a bydd yn graddio gyda gradd MSc mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer yn yr un sefydliad yn 2017. Fel Technegydd/Arddangosydd, mae rolau Jack yn cynnwys rhedeg y labordai Ffisioleg yn ddyddiol, cynorthwyo i gyflwyno sesiynau ymarferol labordy i fyfyrwyr a goruchwylio prosiectau ymchwil myfyrwyr a staff. 


Ymchwil / Cyhoeddiadau

Prif ddiddordebau ymchwil Jack yw dylanwad heneiddio ac ymarfer corff ar y system gardiofasgwlaidd wrth orffwys ac yn ystod ymarfer corff. Yn ei draethawd MSc roedd Jack yn canolbwyntio ar sut yr oedd heneiddio'n iach yn effeithio ar swyddogaeth y rhydweli garotid cyffredin yn ystod ymarfer beicio cynyddrannol.

Talbot, J, S., Lord, R., Wakeham, D, J., Dawkins, T, G., Shave, R. and Pugh, C, J, A (2017). The Effect of Age on Arterial Wall Mechanics during Incremental Exercise. Accepted for presentation to the British Association of Sport and Exercise Science (BASES) Student Conference 2017, University of St Mark & St John, Plymouth, England. April 2017.

Cymwysterau a Gwobrau

BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Gwobr poster ôl-raddedig cynhadledd myfyrwyr Cymdeithas Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Prydain 2017

Tystysgrif CYQ Lefel 2 mewn Cyfarwyddo Ffitrwydd 

Hyfforddi Undeb Rygbi Lefel 1 UKCC