Dr Andy Lane

 

​​​

Cyfarwyddwr Rhaglen Israddedig - Hyfforddi Chwaraeon

Cyfeiriad e-bost: alane@cardiffmet.ac.uk

Andrew yw Cyfarwyddwr Rhaglen Israddedig y radd BSc Hyfforddi Chwaraeon yn Ysgol Chwaraeon Caerdydd.  Yn y gorffennol, bu'n gweithio fel darlithydd gwadd yn Sefydliad Prifysgol Cymru, Casnewydd, lle bu'n arweinydd modiwl Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer ar draws lefel 5 a lefel 6. Bu hefyd yn addysgu ar fodiwlau Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Israddedig eraill a'r MSc Ôl-raddedig yn y rhaglen Hyfforddi Chwaraeon.  Yn ogystal, bu Andrew yn goruchwylio ystod eang o Israddedigion yn eu prosiectau traethawd hir. Cyn ei gyfnod ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, roedd Andrew wedi bod yn ddarlithydd gwadd yn cyflwyno mewn modiwlau Modiwlau Perfformiad Ymarferol (athletau), Seicoleg Chwaraeon, Hyfforddi Chwaraeon a Dulliau Ymchwil.

Yn 2012 dyfarnwyd gwobr Traethawd Ymchwil Eithriadol y flwyddyn y Gymdeithas Seicolegol Prydain i Andrew am ei draethawd PhD sef “An examination of Robust Sport-Confidence in elite sport”. Mae ei broffil ymchwil yn ehangu yn y maes hwn ac mae wedi darparu ystod o wasanaethau gwyddor chwaraeon i athletwyr, hyfforddwyr a Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol (NGB).

Ymchwil / Cyhoeddiadau

Hays, K., Lane, A. and Thomas, O (in press, 2016). Self-confidence in a sporting context. In A. Lane (Ed), Sport and Exercise Psychology (2nd edition). London: Routledge Psychology Press

Thomas, O., Lane, A., and Kingston, K. (2011). Defining and contextualizing robust sport-confidence. Journal of Applied Sport Psychology, 23, 189-208.

Kingston, K., Lane, A., and Thomas, O. (2010). A temporal examination of elite performers sources of sport-confidence. The Sport Psychologist, 18, 313-332.

Mullen, R., Lane, A., & Hanton, S. (2009). Anxiety Symptom Interpretation in High-Anxious, Defensive High-Anxious, Low-Anxious and Repressor Sport Performers. Anxiety, Stress, & Coping: An International Journal, 22(1), 91-100.

Addysgu a Goruchwylio

Ar hyn o bryd mae'n cyflwyno ar ystod o fodiwlau ym maes Hyfforddi Chwaraeon ar lefel Israddedig ac Ôl-raddedig.  Andrew yw arweinydd y modiwl ar gyfer Hyfforddi Chwaraeon (lefel 5) ac mae hefyd yn dysgu ar fodiwl MSc Dadansoddi Perfformiad.  Yn ogystal, mae Andrew hefyd yn diwtor personol i fyfyrwyr lefel 5 a lefel 6 ac yn goruchwylio traethodau hir Israddedig ac Ôl-raddedig.

Dolenni Allanol

Mae Andrew yn cyflawni'r rôl fel hyfforddwr yng Nghanolfan Berfformio Triathlon yng Nghaerdydd, cydweithrediad rhwng Triathlon Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd.  Mae hefyd yn cyflwyno amrywiaeth o gymwysterau UKCC a Sports Coach UK i hyfforddwyr a Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol.

Cymwysterau a Gwobrau

BSc (Anrh) Chwaraeon ac Addysg Gorfforol
Seicoleg Chwaraeon MSc
Seicoleg Chwaraeon PhD
PGCert Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch
Trwydded UEFA ‘C’
Hyfforddwr Lefel 3 Triathlon Prydain
Traethawd Doethurol Eithriadol y flwyddyn 2012 Cymdeithas Seicoleg Prydain, Adran Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer
Dyfarnwyd iddo Grant Reverse SIP Funding 2014
Rhaglen Datblygu Hyfforddwyr  ASPIRE II Sports Coach UK

Proffil Chwaraeon/Hyfforddi

Perfformiad:
• Carfan Triathlon Cymru Dan 23  y Cenhedloedd Cartref
• Cynghreiriau Cymru Chwaraewr Pêl-droed Lled-Broffesiynol
• Chwaraewr Pêl-droed Dorset County 
• Capten Dan 21 Bournemouth Football Select 
• Pencampwriaethau Traws Gwlad Ysgolion De Lloegr

Hyfforddi a Rheoli:
• Hyfforddwr Canolfan Berfformio Triathlon Cymru
• Rheolwr Tîm Pencampwriaethau Triathlon Prifysgol y Byd, Brasilia, Brasil, 2014

• Hyfforddwr Clwb Triathlon Iau Caerdydd 
• Hyfforddwr Triathlon Met Caerdydd 
• Hyfforddwr Lled-Broffesiynol mewn dau Glwb Cynghrair Pêl-droed Cymru
• Hyfforddwr WFC Met Caerdydd 
• Hyfforddwr Cynorthwyol Pêl-droed Cenedlaethol UWAU
• Hyfforddwr Canolfan Ddatblygu Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd