Uwch Ddarlithydd
E-bost: cerowlands@cardiffmet.ac.uk
Mae Catrin yn uwch ddarlithydd yn ymwneud yn bennaf â’r rhaglen SCRAM (Sports Conditioning, Rehabilitation and Massage). Cyn hyn, bu Catrin yn Gyfarwyddwr Disgyblaeth i’r ddisgyblaeth berfformio, gan reoli’r gwaith o ysgrifennu a datblygu modiwlau APT newydd a ddilyswyd yn llwyddiannus yn 2014.
Mae Catrin ar hyn o bryd yn cynllunio ac yn ysgrifennu dau fodiwl tylino chwaraeon newydd gyda’r bwriad o sicrhau eu bod yn cael eu hachredu gan gorff proffesiynol.
Ymchwil / Cyhoeddiadau
- Imiwnoleg Ymarfer
- Effeithiau ffisiolegol tylino chwaraeon
- Anafiadau chwaraeon
Rhestr Cyhoeddiadau
Betts, J.A., Stevenson, E., Williams,
C., Sheppard, C., Grey, E., Griffin, J. (2005). Recovery of endurance running capacity: Effect of carbohydrate-protein mixtures.
International Journal of Sport Nutrition and Exercise Metabolism 15: 590-609.
Sheppard, C and Hodson, A. (2006). Injury profiles in professional footballers.
SportEx Medicine 27: 6-9.
Addysgu a Goruchwylio
Rwy’n arweinydd modiwl SSP5088 Sport Massage, SSP5016 Sport Massage and Soft Tissue Practices, SSP5023 APT Badminton, SSP6069 Analysis and Application – Badminton, ac yn Arweinydd Gweithgaredd SSP4001 Badminton. Fel Tiwtor Blwyddyn i’r rhaglen SCRAM, rwy’n gyfrifol am oruchwylio hynt carfan Lefel 4 SCRAM drwy’r flwyddyn academaidd a chynrychioli’r myfyrwyr ar fyrddau arholi. Rwy’n diwtor personol i fyfyrwyr lefel 5 SCRAM ac yn arolygu traethodau hir myfyrwyr israddedig ym maes SCRAM/tylino chwaraeon.
Cymwysterau a Gwobrau
MSc Ffisioleg Ymarfer (Prifysgol Loughborough, 2004)
BSc (Anrhydedd) Gwyddoniaeth Chwaraeon ac Ymarfer (Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, Prifysgol Loughborough, 2003)
Diploma Lefel 4 mewn Tylino Chwaraeon (OCR, 2005)
Tystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU) (Pasio gyda Theilyngdod, UWIC, 2008)
Cymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA)
Dyfarniad Lefel 3 mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol (aros am ardystiad) (1stSport, 2016)
Dolenni Allanol
Badminton Wales Tiwtor Badminton UKCC L1
Badminton Wales Tiwtor Badminton Uwch Lefel 1
Proffil Chwaraeon / Hyfforddi
Wedi ennill Lliwiau’r Clwb ym Mhrifysgol Loughborough (Badminton, 2004)
Chwaraewr badminton sirol lefel hŷn (2004-2006)
Hyfforddwr badminton UKCC L1 (2008)
Hyfforddwr badminton UKCC L2 (2010)
Tiwtor badminton UKCC L1 i Badminton Wales (2012 hyd heddiw)
Tiwtor uwch-ddyfarniad L1 Badminton Wales (2013 hyd heddiw)