Andrew Kelly

​​

Darlithydd

Rhif ffôn: 029 20 416309
Cyfeiriad e-bost: akelly@cardiffmet.ac.uk​

Mae Andy yn ddarlithydd, yn Ffisiotherapydd ac yn ymarferwr tylino cymwys ar raglen gradd BSc (Anrhydedd) Cyflyru, Adferiad a Thylino Chwaraeon ar ôl ymuno â’r ysgol yn 2012 wedi cyfnod yn gweithio ym maes rygbi’r undeb proffesiynol.    Cyn hynny, bu’n gweithio mewn nifer o leoliadau chwaraeon gwahanol, practis preifat a’r GIG. 

O fewn yr ysgol, mae’n diwtor personol, yn arweinydd cyflogadwyedd i’r cwrs ac yn arweinydd modiwl. Mae’n cyfrannu hefyd at y radd MSc mewn Meddyginiaeth Chwaraeon ac Ymarfer yn ogystal â rhaglenni MSc eraill.  Ynghyd â’r darlithio, mae wedi parhau i weithio ac ymgynghori fel ffisiotherapydd i Ganolfan Meddyginiaeth Chwaraeon ac Ymarfer Caerdydd yn ogystal â chyrff llywodraethu cenedlaethol a sefydliadau chwaraeon eraill.  Mae hyn yn cynnwys Rhwyfo Prydain Fawr, Hoci Cymru a Thenis Cymru ymysg eraill.


Ymchwil / Cyhoeddiadau

Mae fy mhrif ddiddordebau ymchwil yn ymwneud ag anafiadau chwaraeon a sgrinio/rhagfynegi ffactorau risg sy’n arwain at amser i ffwrdd o chwaraeon. Roedd fy mhrosiect MSc yn edrych ar gryfder ysgwyddau chwaraewyr rygbi cyn i’r tymor ddechrau ac yn monitro’r risg o anafiadau drwy’r tymor.  Cyflwynwyd y prosiect hwn i Gynadleddau BASEM a Rhwydwaith Gwyddorau Rygbi yn 2015.

Addysgu a Goruchwylio

Rwyf ar hyn o bryd yn arweinydd modiwl i Gyflwyniad i Anafiadau Chwaraeon ac Adferiad lefel 4 (ssp 4015), Dysgu yn y Gwaith lefel 6 (ssp6092) ac yn chwarae rôl weithredol yn y Modiwl Adferiad ac Anafiadau Chwaraeon lefel 5 (ssp5063). Yn ogystal â hyn, rwy’n diwtor lefel 4 a 6 i’r cwrs SCRaM.  Ochr yn ochr â’r rolau hyn, rwy’n gweithio fel yr arweinydd cyflogadwyedd i’r rhaglen SCRaM ac yn trefnu lleoliadau profiad gwaith i fyfyrwyr yn ystod trydedd flwyddyn eu gradd.  O ran MSC Meddyginiaeth Chwaraeon ac Ymarfer, rwy’n gyfrifol am gyflwyno a marcio elfennau o gynnwys y cwrs. Rwyf hefyd o bryd i’w gilydd yn cyflwyno i fyfyrwyr ar y cyrsiau MSc Cryfder a Chyflyru a MSc Dadansoddi Perfformiad.

Cymwysterau a Gwobrau

    • MSc Ffisiotherapi Chwaraeon
    • Tylino Chwaraeon 
    • BSc (Anrhydedd) Ffisiotherapi
    • BSc (Anrhydedd) Adferiad Chwaraeon 

Dolenni Allanol

    • Ffisiotherapydd wedi cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd
    • Aelod o Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
    • Aelod o BASRaT
    • Aelod o ACPSEM
    • Aelod o’r AACP
    • Cymedrolwr ICSP gyda’r Rhwydwaith Meddyginiaeth Chwaraeon ac Ymarfer
    • Siaradwr gwadd i Gymdeithas Meddyginiaeth Chwaraeon ac Ymarfer Caerdydd

Proffil Chwaraeon / Hyfforddi

Wrth weithio fel ffisiotherapydd, rwyf wedi bod yn ffodus iawn i weithio ar draws a gyda nifer fawr o dimau a chwaraeon yn fy ngyrfa hyd yn hyn.  Yn arbennig gyda: Rhwyfo Prydain Fawr, Tîm Rygbi Saints Northampton, ECB, England Touch Rygby, Hoci Cymru, Tenis Cymru a chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain.