Mae cyfleuster cryfder a chyflyru'r Ysgol wedi'i leoli o fewn y Ganolfan Athletau Dan Do
Genedlaethol (NIAC).
Mae ganddo bedwar platfform codi pwysau gyda rheseli cwrcwd integredig, sy'n caniatáu
i'r myfyrwyr ddysgu amryw o lifftiau allweddol a datblygu eu gwybodaeth am y broses
hyfforddi.
Mae'r ystafell yn darparu amgylchedd ardderchog ar gyfer dysgu ac addysgu, gyda sgrin
deledu LCD 42” gydag Apple TV i gynnig adborth ar unwaith yn ystod darlithoedd
ymarferol. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i ymgysylltu'n weithredol â hunanasesu ac asesu
cyfoedion yn yr amgylchedd hyfforddi.
Defnyddir y cyfleuster gan nifer o athletwyr o dimau Chwaraeon Ffocws y Brifysgol, sy'n
gweithio'n agos gyda hyfforddwyr cryfder a chyflyru Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae campfa dadansoddi cryfder a phŵer ar wahân syn’ galluogi dadansoddiad manwl o
berfformiad athletaidd. Mae'r cyfleuster yn galluogi ymchwilwyr ac ymarferwyr i bennu lefel
perfformiad athletwr ar gyfer ystod o nodweddion cryfder. Mae hefyd yn caniatáu i
ymarferwyr asesu perfformiad cyhyrol mewn lleoliad adsefydlu.
Mae'n cynnwys llwyfan codi pwysau a adeiladwyd i’r pwrpas, gyda'r gallu i fewnosod
platiau grym i'r llawr er mwyn casglu data grym-amser. Mae cyfarpar ychwanegol o'r radd
flaenaf yn cynnwys dynamometer isocinetig, sy'n galluogi cynnal amryw o brosiectau
ymchwil o safbwynt perfformiad ac atal anafiadau.