Cynnwys y Cwrs
Modiwlau Craidd:
- Prosiect Traethawd Hir (60 credyd)
- Dulliau Ymchwil mewn Chwaraeon (Llwybr Meintiol) (20 credyd)
- Dulliau Cwnsela a Sgiliau ar gyfer Seicolegwyr Chwaraeon (20 credyd)
- Datblygiad ac Ymarfer Proffesiynol mewn Seicoleg Chwaraeon (20 credyd)
- Safbwyntiau Datblygu a Lles Athletwyr (20 credyd)
- Dylunio Ymchwil mewn Seicoleg Chwaraeon (20 credyd)
- Seicoleg Chwaraeon: Theori i Ymarfer (20 credyd)
NDS: Oherwydd gofynion cwricwlwm a chymhwysedd y corff achredu nid oes modiwlau
opsiwn ar y rhaglen MSc Seicoleg Chwaraeon.
Dysgu ac Addysgu
Mae pob modiwl, ac eithrio'r Prosiect Traethawd Hir yn fodiwl 20 credyd. Mae cyflwyno
amserlenni addysgu a ddyrannwyd (amser cyswllt) ar gyfer modiwlau o'r fath fel arfer yn
cyfateb i isafswm o 30 awr o amser wedi'i ategu â hyd at 60 awr o amser astudio dan
gyfarwyddyd a hyd at 60 awr o amser astudio annibynnol. Mae'r amser cyswllt fel arfer yn
cynnwys darlithoedd, seminarau, labordai / gweithdai ymarferol, gwaith maes, ymweliadau
proffesiynol, dysgu ar leoliad a thiwtorialau unigol a / neu grŵp.
Fel rheol, addysgir modiwlau trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a sesiynau
ymarferol. Defnyddir trafodaethau grŵp a thasgau ymarferol yn aml. Cefnogir dysgu
myfyrwyr trwy ddefnyddio ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir (Moodle) sy'n darparu
adnoddau dysgu y tu hwnt i'r hyn a geir yn y ganolfan ddysgu (llyfrgell). Cefnogir pob dysgwr gyda mynediad at diwtor personol. I ddechrau, Cyfarwyddwr y Rhaglen fel rheol yw hwn gyda goruchwyliwr y traethawd yn mabwysiadu'r cyfrifoldeb hwn yn nes ymlaen yn rhaglen astudio'r myfyrwyr.
Asesu
Mae asesiad pob modiwl yn seiliedig ar fodel y Brifysgol gyfan o 5,000 gair neu gyfwerth fesul 20 credyd o astudiaeth lefel 7. Dyluniwyd y dulliau asesu i roi cyfle i fyfyrwyr ddangos eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o faterion ymarfer damcaniaethol, cymhwysol a phroffesiynol a chynnwys traethodau gwaith cwrs, dadansoddi anghenion a dylunio ymyriadau, adroddiadau ymchwil, astudiaethau achos, cyflwyniadau, chwarae rôl, dadansoddi fideo a beirniadaeth.
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr sy'n ymgymryd â'r MSc llawn (180 credyd) gyflwyno Prosiect Traethawd Hir, y gellir ei gyflwyno naill ai mewn traethawd ymchwil traddodiadol 12,000 gair neu ar ffurf papur cyhoeddadwy (8,500 gair). Waeth bynnag y fformat cyflwyno a ddefnyddir, mae'n ofynnol i fyfyrwyr hefyd gynnal asesiad viva sy'n gysylltiedig â'u Prosiect Traethawd Hir.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae'r MSc mewn Seicoleg Chwaraeon (achrededig gan y BPS) yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n dymuno dod yn seicolegwyr chwaraeon gweithredol, yn ogystal ag athrawon, darlithwyr a hyfforddwyr. Mae cwblhau'r MSc Seicoleg Chwaraeon yn llwyddiannus yn rhan o hyfforddiant Cam 1 tuag at Statws Siartredig BPS a bydd yn galluogi myfyrwyr i symud ymlaen i hyfforddiant Cam 2 os oes ganddynt aelodaeth lawn o’r GBC.
Mae'r MSc mewn Seicoleg Chwaraeon yn darparu llwyfan lle gall myfyrwyr ddilyn Profiad dan Oruchwyliaeth trwy Gymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Prydain (BASES) gan arwain at achrediad posibl fel Gwyddonydd Chwaraeon ac Ymarfer Achrededig BASES. Mae'r rhaglen hefyd yn darparu sbardun rhagorol i fyfyrwyr sy'n dymuno symud astudio MPhil / PhD.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Dylai fod gan ymgeiswyr un o'r canlynol:
- Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd israddedig achrededig BPS mewn seicoleg (2.1 neu'n uwch) neu radd israddedig (2:1 neu'n uwch) mewn gwyddoniaeth chwaraeon / ymarfer corff (neu raglen gysylltiedig) sydd ag elfen seicoleg chwaraeon sylweddol.
- Rhaid i ymgeiswyr nas oes ganddynt radd gychwynnol gael llawer o ddysgu trwy brofiad mewn maes seicoleg chwaraeon a / neu brif ffrwd.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.5 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais am gymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Y Broses Ddethol:
Caiff myfyrwyr fel rheol eu dewis ar sail eu cais ffurfiol a’u curriculum vitae, ac mae’n
bosibl y gofynnir iddynt fynychu cyfweliad. Fel rheol, gwahoddir ymgeiswyr i gael sgwrs anffurfiol (yn bersonol, skype neu ffôn) gyda chyfarwyddwr y rhaglen cyn y gwneir unrhyw gynnig.
Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i'r brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. Am wybodaeth bellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais: www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply
Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd o sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a/neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaaenorol (RPL).
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael. Ewch i www.cardiffmet.ac.uk/fees .
Ffioedd rhan-amser:
CCodir y taliadau fesul Modiwl Unigol oni nodir yn wahanol:
Israddedig = 10 Credyd; Ôl-raddedig = 20 Credyd
Yn gyffredinol, bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn cwblhau 60 credyd y flwyddyn, ond gall eu dewis o fodiwlau fod yn benoedol i fyfyrwyr a’u hymrwymiadau. I gael gwir bris, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen yn uniongyrchol.
Ysgoloriaethau Ôl-raddedig
Mae'r brifysgol hefyd yn cynnig cynllun ysgoloriaeth ôl-raddedig i helpu myfyrwyr tra yn y brifysgol. I weld a ydych chi'n gymwys, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/scholarships .
Cysylltu â Ni
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyn ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch askadmissions@cardiffmet.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, Dr Karen Howells:
E-bost: KLHowells@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: +44 (0)29 20417153