Gyda llwybrau penodol ar gyfer:
Mae Dadansoddi Perfformiad yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd yn
flaengar yn fyd eang o ran safbwyntiau academaidd a chymhwysol. Mae'r Ysgol wedi
cynnig astudiaeth ôl-raddedig mewn dadansoddi perfformiad ers i'r radd Meistr gyntaf
erioed mewn Dadansoddi Perfformiad gael ei datblygu yn 2003. Mae gan Ysgol
Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd Ganolfan Dadansoddi Perfformiad unigryw
sy'n ymfalchïo mewn addysgu safon uchel a labordai ymarferol gyda llu o feddalwedd ac
adnoddau ar gael sy'n flaengar yn fyd eang. Mae'r Ysgol wedi datblygu dau lwybr newydd
wedi'u cynllunio i adlewyrchu datblygiadau diweddar o ran dadansoddi perfformiad
chwaraeon..
Mae'r rhaglen yn cyfuno sgiliau academaidd, ymarferol ac ymchwil i'ch galluogi i ddatblygu
yn eich maes dewisiol chi. Gall myfyrwyr ddewis arbenigo mewn llwybrau penodol mewn
naill ai Dadansoddi Perfformiad Cymhwysol neu Ddadansoddeg. Mae'r llwybr Cymhwysol
yn paratoi ymarferwyr medrus gydag egwyddorion gwyddonol cadarn i seilio eu gwaith a
datblygu eu dealltwriaeth o'r ddamcaniaeth y tu ôl i'r dadansoddiad. Mae'r llwybr
Dadansoddol yn cyfuno sgiliau gwyddor data a gwybodaeth am chwaraeon gyda
damcaniaeth dadansoddi perfformiad.
Mae'r ysgol hefyd yn cynnig rhaglen MSc Ymarfer Proffesiynol (Dadansoddi Perfformiad
Chwaraeon), sy'n caniatáu i'r rhai sydd â phrofiad perthnasol ymgysylltu â dysgu tra'u bod
yn y gwaith neu ar ysgoloriaeth. Ewch i MSc Ymarfer Proffesiynol am ragor o fanylion.
Mynediad 2019: Oherwydd poblogrwydd y rhaglen hon dylech gyflwyno'ch cais cyn
gynted â phosibl, ac ar ddiwedd y dydd ar 30ain Mehefin 2019 fan bellaf. Dim ond os
nad yw'r rhaglen yn llawn y bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn
cael eu hystyried. Gallwch barhau i nodi diddordeb yn y rhaglen ar ôl y dyddiad
hwn a bydd eich manylion yn cael eu hychwanegu at y rhestr aros unwaith y bydd
honno wedi'i ffurfio. Cysylltwch â chyfarwyddwr y rhaglen am fwy o wybodaeth.