Cardiff School of Sport and Health Sciences>Courses>Sport Conditioning, Rehabilitation and Massage - BSc (Hons) Degree
BSc (Hons) Sport Conditioning, Rehabilitation & Massage

Tylino, Adfer a Chyflyru ar gyfer Chwaraeon - Gradd BSc (Anrh)

 

Ffeithiau allweddol

Côd UCAS: C607

Lleoliad Astudio: 
CCampws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair mlynedd llawn-amser.

Ar gael yn rhan-amser hefyd a gall gymryd hyd at chwe blynedd. Mae'r myfyrwyr rhan-amser yn ymuno â'r myfyrwyr llawn-amser ar gyfer pob modiwl. Felly cwblheir y rhan fwyaf o'r modiwlau rhwng 9.00 am a 6.00 pm yn ystod yr wythnos.


Trosolwg o'r Cwrs

Mae gradd BSc (Anrhydedd) mewn Tylino, Adfer a Chyflyru ar gyfer Chwaraeon (SCRAM) yn rhoi gwybodaeth hanfodol a chymhwysiad ymarferol i chi o fewn meysydd cryfder a chyflyru, adfer ar gyfer chwaraeon a thylino ar gyfer chwaraeon. Ar y rhaglen, byddwch hefyd yn archwilio gwybodaeth hanfodol o ddisgyblaethau gwyddorau chwaraeon - ffisioleg, seicoleg a biomecaneg. Mae’r dull gweithredu cytbwys, amlddisgyblaethol hwn yn rhoi dealltwriaeth ddofn o hyfforddiant i chi, yn ogystal ag ymarfer a therapïau ymarferol ar gyfer gwella perfformiad ac adfer.

Mae dysgu’n seiliedig ar waith yn elfen allweddol o’r rhaglen, er mwyn eich galluogi i gymhwyso eich gwybodaeth o'r rhaglen mewn sefyllfa go iawn a chael profiadau gwerth chweil fel sylfaen ar gyfer gwaith yn y dyfodol.

Ymhellach, mae canlyniadau dysgu’r modiwlau ar draws y rhaglen wedi’u cysylltu’n glir â chymwyseddau Cymdeithas Cryfder a Chyflyru’r DU (UKSCA) sy’n golygu eich bod mewn sefyllfa dda i fynd ymlaen i sicrhau’r achrediad proffesiynol annibynnol hwn ar ôl graddio. Mae’r rhaglen wedi’i chymeradwyo hefyd gan y Gymdeithas Cryfder a Chyflyru Cenedlaethol (NSCA) fel rhan o’r Rhaglen Cydnabod Addysg, gan roi’r wybodaeth hanfodol i chi fynd ymlaen i ennill ardystiad Arbenigwr Cryfder a Chyflyru Ardystiedig (CSCS). Mae’r Brifysgol yn ysgol gymeradwy gyda’r Gymdeithas Tylino Chwaraeon (SMA) ac yn rhoi’r cyfle i chi ennill cymwysterau ITEC annibynnol mewn tylino chwaraeon sy’n gysylltiedig â chwblhau’r modiwlau priodol. Yn olaf, mae’r rhaglen yn rhoi sylfaen ddelfrydol i chi fynd ymlaen i ddilyn MSc mewn Adfer ar gyfer Chwaraeon wedi’i achredu gan BASRAT ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae gwybodaeth am y cwrs ar y dudalen hon yn ymwneud â Medi 2019. Caiff y rhaglen hon ei hadolygu'n gyfnodol yn 2018/19. O'r herwydd, gall gynnwys y cwrs a ddangosir isod newid er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn parhau i fod yn gyfredol. Bydd unrhyw ymgeiswyr yn cael gwybod am unrhyw newidiadau wedi iddynt gael eu cadarnhau.

​Cynnwys y Cwrs​

Mae rhaglen SCRAM wedi’i llunio fel triongl gyda sylfaen eang o gysyniadau hanfodol ym mlynyddoedd 1 a 2 cyn i chi ganolbwyntio ar faes astudio arbenigol yn y flwyddyn olaf. Mae’r model hwn yn sicrhau eich bod yn gallu gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol beth bynnag fydd eich arbenigedd gyrfa yn y dyfodol.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf o astudio byddwch yn ymgymryd â chwe modiwl gorfodol. Trwy gydol y modiwlau hyn, byddwch yn archwilio cysyniadau allweddol ym maes cryfder a chyflyru, anatomeg gyhyrsgerbydol, y broses adfer ac asesu cleifion yn ogystal â theori ac arfer sylfaenol sy’n gysylltiedig â chymhwyster L3 mewn Tylino Chwaraeon. Byddwch hefyd yn ymgymryd â modiwlau i hwyluso'ch cyfnod pontio i astudio ar lefel prifysgol, ymchwilio i ddamcaniaethau ym maes Chwaraeon ac Ymarfer Corff, yn ogystal â chael cyfleoedd i ennill hyfforddiant galwedigaethol cydnabyddedig a chymwysterau proffesiynol sy’n berthnasol i’r diwydiant.

Mae’r ail flwyddyn yn adeiladu ar y flwyddyn gyntaf ac yn eich cynorthwyo i archwilio theorïau pellach sy’n sylfaen i feysydd craidd cryfder a chyflyru, adfer ar gyfer chwaraeon a thylino chwaraeon; byddwch hefyd yn rhoi mwy o ffocws ar gymhwyso’r wybodaeth hon. Mae yna fodiwlau ychwanegol sy’n anelu at ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r broses ymchwil, cysyniadau gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff ac yn bwysig iawn, cynnwys sy’n anelu at ddatblygu sgiliau a rhinweddau entrepreneuraidd sydd mor bwysig o fewn y diwydiannau sy’n gysylltiedig â SCRAM. Mae yna gyfleoedd hefyd i ennill cymhwyster L4 cydnabyddedig mewn tylino chwaraeon.

Mae’r flwyddyn astudio olaf yn eich galluogi i ganolbwyntio ar un neu ddau faes yn y rhaglen SCRAM, gan sicrhau eich bod yn datblygu uwch wybodaeth a chymhwysedd mewn maes sy’n cyd-fynd â’ch dyheadau o ran gyrfa ar gyfer y dyfodol. Byddwch yn gallu ymgymryd â lleoliadau dysgu’n seiliedig ar waith a chynnal prosiect mawr yn eich dewis faes ynghyd â’’r cynnwys pwnc-benodol a ddewiswyd gennych. Mae'r flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar eich datblygu chi fel dysgwr annibynnol, ysgogol a all reoli eich dysgu a sicrhau bod hyn yn cyd-fynd â'ch cam cyntaf i gyflogaeth raddedig neu astudiaethau pellach. Mae mentora’n rhan bwysig iawn o’r flwyddyn olaf o astudio er mwyn caniatáu cefnogaeth unigol ar gyfer datblygu eich sgiliau fel academydd ac ymarferwr o fewn y meysydd sy’n gysylltiedig â SCRAM.

Dysgu ac Addysgu

Mae dulliau dysgu, addysgu ac asesu effeithiol yn sail nodau addysgol a deilliannau dysgu pob un o'n rhaglenni a'n modiwlau. Gall dulliau dysgu ac addysgu gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau a sesiynau ymarferol. Mae ein Amgylchedd Dysgu Rhithwir hefyd yn elfen annatod o'r pecyn dysgu sy'n cefnogi anghenion ein myfyrwyr

LMae darlithoedd arweiniol yn cyflwyno pynciau a chysyniadau allweddol, tra bod seminarau, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau ymarferol yn canolbwyntio ar gymhwyso cysyniadau allweddol gyda'r nod o wella profiad ac ymgysylltiad myfyrwyr. Byddwch hefyd yn cwrdd â thiwtoriaid ar sail un i un. Fel ysgol, rydym yn gweithio'n galed i ddarparu cyfleoedd dysgu myfyriwr-ganolog, sy'n darparu amgylchedd dysgu hyblyg o ansawdd uchel.

Mae dulliau dysgu ac addysgu yn pwysleisio ac yn hwyluso datblygiad eich rhesymu beirniadol, ac yn annog integreiddio ymarfer a theori. Drwy gydol eich rhaglen, byddwch yn cael profiad o ddysgu a arweinir gan diwtor a dulliau dysgu hunangyfeiriedig, gan gynyddu annibyniaeth a myfyrio a'ch annog i ddatblygu agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu gydol oes.

Mae ein dulliau addysgu a dysgu yn ymgorffori 'EDGE' Met Caerdydd (Sgiliau Moesegol, Byd-Eang, Digidol & Entrepreneuraidd) a byddwch mewn sefyllfad da i ddangos priodoleddau graddedig y disgwylir i chi eu cael mewn byd gwaith sy'n mynd yn fwyfwy cystadleuol. Ein nod yw eich helpu i ddatblygu'n weithwyr proffesiynol myfyriol ac yn ysgolheigion beirniadol.

Yn eich rhaglen chwaraeon ym Met Caerdydd, byddwch yn cael profiad dysgu o'r cyfnod sefydlu i raddio sy'n gydlynus ac sy'n datblygu eich hunaniaeth o fewn eich rhaglen astudio.

Mae nodweddion penodol y profiad dysgu ar raglen Tylino, Adfer a Chyflyru ar gyfer Chwaraeon (SCRAM) yn cynnwys:

  • Ymchwilwyr a hyfforddwyr byd-enwog sy'n rhan annatod o'r pecyn dysgu a gynigir i'n myfyrwyr.
  • Cyfleusterau SCRAM penodol o safon fyd-eang i wella profiad dysgu myfyrwyr.
  • Mae pob agwedd ar Addysgu a Dysgu yn defnyddio’r llenyddiaeth ymchwil diweddaraf a Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (e.e. UKSCA, NSCA, SMA, BASRaT, Corff Llywodraethu Cenedlaethol, NGB, cymwysterau hyfforddi).
  • Cydnabyddir y rhaglen fel un o’r prif raglenni cryfhau a chyflyru, adfer a thylino ar gyfer chwaraeon yn y DU, ac un o’r rhaglenni prin sy’n defnyddio dull amlddisgyblaethol.

Asesu

Mae'r strategaethau asesu ar gyfer pob modiwl yn amrywio i sicrhau bod y dull mwyaf priodol yn cael ei weithredu ar gyfer eich maes astudio. Cynlluniwyd y dulliau asesu er mwyn gwella eich profiad dysgu ac er mwyn cydnabod eich bod wedi cyflawni'r canlyniadau dysgu sy'n gysylltiedig â phob modiwl. Mae asesu hefyd yn sicrhau eich bod wedi cyflawni'r safon sy'n ofynnol i symud ymlaen i'r cam nesaf neu i fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad (fel y nodwyd gan y FHEQ a FFCCHC). Mae asesiadau'n ategu eich profiad dysgu drwy roi cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn asesiadau ffurfiannol a chrynodol i brofi eich gwybodaeth, eich gallu, eich sgiliau a'ch dealltwriaeth feirniadol. Asesir y modiwlau israddedig drwy gyfuniad o fathau o asesiadau. Er enghraifft:

  • gwaith cwrs ysgrifenedig
  • cyflwyniadau poster
  • cyflwyniadau llafar
  • portffolios
  • arholiadau wedi’u gweld a heb eu gweld
  • sgiliau ymarferol
  • gweithgareddau eraill sydd wedi'u cynllunio er mwyn asesu, datblygu a gwella sgiliau academaidd a chyflogadwyedd. Bydd disgwyl i chi gwblhau prosiect terfynol fel rhan o'r asesiad o'ch gradd anrhydedd. Mae prosiectau terfynol yn ddarnau pwysig o waith a all fod yn brosiect ymchwil, arloesedd, ymgynghoriaeth neu gymunedol.

    Mae natur rhaglen SCRAM yn gofyn i fyfyrwyr arddangos theori (arfer yn seiliedig ar dystiolaeth a rhesymu clinigol) a chymhwysedd (sgiliau clinigol, ymarferol a hyfforddi), ac felly mae asesiadau o fewn modiwlau SCRAM yn cynnwys asesiadau damcaniaethol a thrafodaethau ochr yn ochr ag asesiadau ymarferol mewn lleoliadau cymhwysol.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae EDGE Met Caerdydd yn eich cynorthwyo i ffynnu yn y byd modern. Drwy gydol eich gradd byddwch yn profi ystod o gyfleoedd i ddatblygu eich cymwyseddau moesegol, digidol, byd-eang ac entrepreneuraidd drwy ddysgu sy'n seiliedig ar broblemau, astudiaethau achos diwydiant y byd go iawn, profiadau gwaith integredig ar y campws a cyfleoedd ar gyfer lleoliadau dysgu’n seiliedig ar waith oddi ar y campws. Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael ystod o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy megis cyfathrebu, gwaith tîm ac arweinyddiaeth

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf o astudio byddwch yn cael y cyfle i ymgymryd â chymwysterau technegol mewn amrywiaeth o feysydd diwydiant perthnasol gan gynnwys hyfforddi chwaraeon, ymarfer corff & iechyd a diogelwch. Bydd y cyfleoedd hyn yn sicrhau bod gennych y cymwysterau a'r profiad priodol i wneud cais am un o'r llu o gyfleoedd lleoliadau gwaith a gynigir ar chwilio am gyfleoedd i weithio neu astudio dramor. Gall lleoliadau gwaith roi mantais hollbwysig i chi o ran cael gwaith proffesiynol ar ôl graddio. Mae myfyrwyr sydd wedi graddio o’r rhaglen SCRAM wedi mynd ymlaen i weithio mewn gyrfaoedd o fewn y Diwydiant Chwaraeon a thu hwnt.

Mae graddedigion diweddar rhaglen SCRAM bellach yn gweithio i dimau chwaraeon proffesiynol, timau chwaraeon academi yn ogystal â chyrff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon amrywiol. Mae nifer o fyfyrwyr hefyd wedi manteisio ar gyfleoedd i weithio mewn practis clinigol ymarferol neu mewn lleoliadau yn y diwydiant ffitrwydd. Mae myfyrwyr eraill wedi ymgymryd ag astudiaethau pellach ym maes Ffisiotherapi neu ar raglenni Meistr fel MSc Adfer ar gyfer Chwaraeon a achredir gan BASRaT neu MSc Cryfder a Chyflyru ac yna wedi mynd ymlaen i astudiaethau lefel doethur.​

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Dylai fod gan ymgeiswyr bum gradd TGAU gan gynnwys Iaith Saesneg (neu Iaith Gyntaf Gymraeg) a gradd C neu'n uwch mewn Mathemateg* a Gwyddoniaeth (gradd 4 neu'n uwch ar gyfer ymgeiswyr sydd â TGAU newydd eu diwygio yn Lloegr) ynghyd â 120 - 128 o bwyntiau o 3 Safon Uwch (neu gyfwerth). Gall cynigion nodweddiadol gynnwys:

  • Safon Uwch: 120 - 128 pwynt i gynnwys graddau BB, un o fewn Gwyddoniaeth (mae’r Gwyddorau sy’n dderbyniol yn cynnwys Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Addysg Gorfforol/Astudiaethau Chwaraeon, Seicoleg, Mathemateg neu Fioleg Cymdeithasol). Ystyrir Bagloriaeth Cymru - Tystysgrif Her Sgliliau Uwch fel trydydd pwnc
  • Diploma Estynedig Cenedlaethol RQF BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt DMM mewn pwnc perthnasol o blith y Gwyddorau neu Addysg Gorfforol
  • Diploma Estynedig VTCT mewn Astudiaethau Chwaraeon gyda gradd DDM yn gyffredinol
  • Irish Leaving Certificate: 120 - 128 pwynt o Lefel Uwch i gynnwys graddau 3 x H2, un o fewn pwnc Gwyddonol (y radd isaf a ystyrir ar Lefel Uwch yw H4) · Advanced Highers yr Alban: 120 - 128 pwynt i gynnwyd graddau CC
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio gyda 15 credyd gyda rhagoriaeth a 30 credyd gyda Theilyngdod
  • Yn ddelfrydol, dylai fod gan ymgeiswyr broffil chwaraeon cryf

*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru sy'n sefyll y TGAU Mathemateg diwygiedig, byddwn yn derbyn naill ai TGAU Mathemateg neu Mathemateg - Rhifedd./p>

Fel arfer, gwneir cynnig i ymgeiswyr yn seiliedig ar y manylion uchod. Bydd cynigion nodweddiadol yn cael eu gwneud o fewn yr ystod tariff a nodir uchod a byddant yn seiliedig ar gryfder eich cais cyffredinol, gan gynnwys eich proffil academaidd a chwaraeon. Ar gyfer ymgeiswyr sydd yn ymgymryd â 2 Safon Uwch (neu gyfwerth) yn unig neu sydd ddim yn rhagweld eu bod am gyrraedd y tariff safonol, caiff ceisiadau eu hystyried ar sail y proffil academaidd cyfan ac efallai y byddwn yn gwneud cynnig wedi'i raddio yn lle cynnig gan ddefnyddio Tariff UCAS.

Os ydych yn astudio cyfuniadau o'r uchod neu os nad yw'ch cymhwyster wedi'i restru, cysylltwch â Derbyniadau neu edrychwch ar dudalen Chwilio am Gwrs UCAS am y gofynion mynediad.Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ein gofynion mynediad, gan gynnwys cymwysterau o'r UE trwy glicio yma.

Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais am gymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Diwrnodau Ymgeiswyr Chwaraeon::

Gwahoddir yr ymgeiswyr llwyddiannus i Ddiwrnod Ymgeiswyr Chwaraeon Penodol fel rhan o'r broses ymgeisio. Am fwy o wybodaeth am Ddyddiau Chwaraeon Agored a Dyddiau Ymgeiswyr, cliciwch yma. Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus roi'r flaenoriaeth gyntaf i dimau chwaraeon y brifysgol drwy gydol eu gyrfaoedd israddedig.

Y Broses Ddethol:
Mae'r broses ddethol yn seiliedig ar dderbyn cais UCAS wedi'i gwblhau a'r presenoldeb ar gyfer Diwrnod Ymgeiswyr Chwaraeon.

Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn ar-lein i UCAS: www.ucas.com. Am wybodaeth bellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais: www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply. Dylid gwneud ceisiadau rhan-amser yn uniongyrchol i'r Brifysgol yn www.cardiffmet.ac.uk/selfservice

Dysgu Blaenorol Cydnabyddedig (RPL) a Throsglwyddo Credyd i flwyddyn 2 a 3

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn trosglwyddo credyd o sefydliad arall i astudio yn Met Caerdydd ar gyfer cwrs sy'n derbyn mynediad ar gyfer blwyddyn 2 a / neu 3, gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am hyn a gwybodaeth ar sut i wneud cais ar dudalen RPL. Cysylltwch â Derbyniadau gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am RPL.

Myfyrwyr aeddfed

Ymgeisydd aeddfed yw unrhyw un dros 21 oed nad aeth i'r brifysgol ar ôl ysgol neu goleg. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr aeddfed a gellir cael mwy o gyngor a gwybodaeth yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyn ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Thîm Cefnogi’r Rhaglen:
E-bost: CCProgadmin@cardiffmet.ac.uk


Gellir dod o hyd i’r telerau ac amodau llawn sy’n ymwneud â derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd trwy ymweld â www.metcaerdydd.ac.uk/terms