Cardiff School of Sport and Health Sciences>Courses>High Performance Team Leadership

Arweinyddiaeth Tîm Perfformiad Uchel

​​

Hyd y Cwrs: 1 diwrnod

Cynnwys y Cwrs:
Bydd y gweithdy'n archwilio tair thema allweddol – sut i greu'r amodau ar gyfer perfformiad uchel, sut i ddatblygu cydlyniant ac effeithiolrwydd tîm a sut i reoli ac ysgogi talent unigol.

Mae sesiynau hefyd yn ystyried yn fyr senarios dau dîm – sut i warchod rhag hunanfodlonrwydd a chynnal momentwm tîm llwyddiannus a sut i adfer hyder a gwella tîm wrth drosglwyddo.

Amcanion y Cwrs:
Mae'r ymylon rhwng llwyddiant a methiant mewn chwaraeon tîm elitaidd (a busnes) yn fach ac yn mynd yn llai. Mae angen ymdrech ddewisol ar arweinwyr, mewnwelediadau arloesol a dysgu addasol gan eu pobl i berfformio'n effeithiol yn amgylcheddau cynyddol gymhleth a chystadleuol heddiw.

Mae'r gweithdy dwys a rhyngweithiol hwn yn archwilio'r materion sylfaenol a'r egwyddorion ar gyfer llwyddiant gan dynnu ar fewnwelediadau trosglwyddadwy o chwaraeon elitaidd.

Bydd y gweithdy'n cael ei gyflwyno drwy gyfres o sesiynau wedi'u hwyluso a grwpiau torri allan gan dynnu ar ddamcaniaeth gymhwysol, cysyniadau cyfoes ac astudiaethau achos bywyd go iawn. Mae ein dull o gyflwyno hefyd yn rhoi pwyslais mawr ar archwilio mewnwelediadau a phrofiadau cyfranogwyr eu hunain a sefydlu egwyddorion ar gyfer gweithredu yn ôl yn y gweithle.

Cwrs wedi'i anelu at:
Uwch arweinwyr a rheolwyr sefydliadol yn y sectorau cyhoeddus, preifat a dielw.

Arweinydd Rhaglen:
Mark Lowther

Gwybodaeth bellach a chofrestru:
Cysylltwch â Mark Lowther ar 029 2041 7076 neu mlowther@cardiffmet.ac.uk

Cost: £195