Labordai Biomecaneg

​​

Mae'r labordy biomecaneg newydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer addysgu modiwlau biomecaneg israddedig ac ôl-raddedig. Mae'r gofod pwrpasol hwn yn galluogi myfyrwyr i ennill y sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd biomecaneg chwaraeon. Mae hefyd yn galluogi ymchwilwyr i gynnal ymchwil biomecaneg chwaraeon, ymarfer corff a iechyd o safon uchel.

Mae'r lab yn cynnwys:

  • Pedwar rhigol wedi’u hadeiladu ar gyfer platiau grym (Kistler)
  • Rig wedi’i greu’n bwrpasol sy'n cynnwys system dadansoddi symudiad 16-camera (Vicon)
  • System dadansoddi symudiad marcio gweithred (CODA)
  • Chwe uned mesur inertiol (Vicon)
  • Tri synhwyrydd gwisgadwy (APDM)
  • System electromyograffeg di-wifr arwynebol (Delsys)
  • Symbylydd cyhyrau trydanol a nerfol (Digitimer)
  • Ysgogydd niwrogyhyrol di-wifr (Chattanooga)
  • Melin draed


    Mae hyn yn caniatáu i amrywiaeth eang o weithgareddau a symudiadau chwaraeon gael eu cofnodi a'u hasesu, unrhyw beth o laniad syml i symudiadau mwy cymhleth fel ffliciau gymnasteg. Gellir dadansoddi cerddediad a mesur cydbwysedd naill ai athletwyr iach neu athletwyr sydd wedi eu hanafu. Gellir hefyd asesu agweddau niwro-fecanyddol symudiadau, gan gynnwys patrymau actifadu'r cyhyrau, trwy gyfrwng electromyograffi arwynebol.


    Mae dwy ardal yn NIAC yn cael eu defnyddio'n helaeth ar gyfer addysgu ac ymchwilio biomecaneg. Mae chwech rhigol ar gyfer platiau grym a adeiladwyd yn arbennig wedi'u lleoli wrth y pwll naid hir, ac mae dau blat grym arall wedi’u gosod yng nghanol y mewnfaes. Mae'r hyblygrwydd o ran lleoliadau platiau grym a'r gofod y mae NIAC yn ei gynnig yn hwyluso'r ystod eang o drefniadau casglu data a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn amryw o sefyllfaoedd chwaraeon y mae ein hymchwiliadau yn ymdrin â nhw. Mae'r gofod sydd ar gael yn ein galluogi i ddefnyddio dulliau newydd o wneud ymchwil sy'n gofyn am gyfeintiau mawr a thrwy hynny yn cynyddu ein gallu i wneud ymchwil biomecaneg arloesol.

    Ar hyn o bryd mae gan y grŵp ymchwil astudiaethau athletau, rygbi, pêl-droed, gymnasteg a golff ar draws ystod o feysydd gwella perfformiad ac atal anafiadau.

    Ystafell Ddadansoddi Biomecaneg
    Mae'r swît ddadansoddi newydd yn gartref i 25 o gyfrifiaduron, pob un â meddalwedd biomecaneg o'r radd flaenaf. Fel rhan o'r cwricwlwm ar lefel israddedig a gradd Meistr, mae sesiynau ymarferol yn cyfnewid rhwng y labordy a'r ystafell ddadansoddi. Mae hyn yn caniatáu i'r data a gesglir gael ei brosesu a'i ddadansoddi