Ymchwil>Academïau Byd-eang>UK Study of public experiences during the COVID19 Pandemic

Astudiaeth o brofiadau'r cyhoedd yn y D.U. yn ystod pamdemig COVID-19

Ym mis Mawrth 2020, roedd pandemig y coronafeirws COVID-19 yn cynyddu yn y DU ac fe wnaeth ymchwilwyr seicoleg o Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd a Chanolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd ddylunio’n gyflym arolwg ar-lein i gael gwybod am brofiadau pobl sy’n byw yn y DU yn ystod y pandemig. Y prosiect hwn oedd un o’r cyntaf o’i fath yn y DU. Fe fu’r prosiect yn archwilio’r hyn oedd yn digwydd yn wirioneddol ymhlith y cyhoedd yn y DU ar ddechrau’r cyfyngiadau symud – â’r nod i ddeall beth oedd aelodau o’r cyhoedd yn meddwl, yn teimlo ac yn ei wneud yn ystod diwrnodau cynnar yr argyfwng a sut roedden nhw’n ymateb i gyfathrebiadau oddi wrth y llywodraeth a’r gwasanaethau iechyd. Fe wnaeth yr arolwg ar-lein archwilio ystod o bynciau, gan ymchwilio i’r newidiadau oedd yn digwydd i fywydau pobl oherwydd y pandemig a’r pryderon a’r rhwystredigaethau roedd pobl yn eu profi. Fe wnaeth yr arolwg geisio sefydlu hefyd sut roedd y cyhoedd yn teimlo am awdurdodau’r llywodraeth ac ymateb y gwasanaeth iechyd i’r sefydliadau oedd yn newid yn gyflym, ac a oedden nhw’n teimlo bod mynediant ganddynt i wybodaeth gywir a chyfredol.   

Fe gaeodd yr arolwg ar-lein cyntaf ar Ebrill 12, 2020 â 11,417 o gyfranogwyr, ffigur canmoladwy iawn, rhwng Mawrth 13eg ac Ebrill 14eg. Nawr mae arweinydd y prosiect, Dr. Rhiannon Phillips, Darlithydd mewn Seicoleg Iechyd a Lles ym Met Caerdydd, a’i thîm yn gweithio i ddadansoddi canlyniadau’r arolwg, lansio tudalen gwe y prosiect, a gwneud cais i gael cyllid ar gyfer unrhyw ymchwil dilynol.


Dr Rhiannon Phillips (PI)

Mae toreth o ffactorau seicolegol a demograffig-gymdeithasol yn dylanwadu ar sut y bydd pandemig yn effeithio ar bobl a sut bydd y bobl yn ymateb i’r pandemig. Bydd angen deall y rhain wrth ddylunio a gweithredu mentrau iechyd cyhoeddus cenedlaethol a byd-eang i isafu’r niwed ar draws y boblogaeth. Mae deall effaith pandemig COVID-19 ar iechyd corfforol a lles seicolegol yn flaenoriaeth fawr i waith llunio polisïau a chynllunio ar gyfer y pandemig gan Lywodraeth y DU. Bydd canlyniadau’r prosiect hwn yn rhoi arweiniad i Lywodraeth y DU ar batrymau ymddygiad iechyd y cyhoedd ac yn cyfrannu argymhellion i ddylanwadu’n gadarnhaol o ran cadw at y cyngor ar ymddygiad ac atal cam-wybodaeth.

Gall canfyddiadau pobl a’u hymateb i fygythiadau feirysol pandemig fod yn rhwystrau neu’n hwyluswyr i ymgysylltiad â, ac i gadw at, bolisïau cyfyngu, oedi a lliniaru. Mae’r prosiect hwn yn gysylltiedig â mentrau byd-eang oddi wrth WHO (Sefydliad Iechyd y Byd) i gael dysgu oddi wrth ymatebion y cyhoedd i bandemig COVID-19 er mwyn cael paratoi yn well ar gyfer yr epidemig nesaf a fydd yn digwydd yn ddiarwybod. Bu’r tîm ymchwil yn ystyried sut i addasu prosiect sy’n canolbwyntio ar y DU i waith cymharu rhyngwladol wedi’i yrru gan bartneriaid rhyngwladol a fydd yn gallu addasu cwestiynau’r arolwg i sicrhau perthnasedd diwylliannol. Ymhlith camau nesaf y prosiect bydd cynnal cyfweliadau gyda chyfranogwyr allweddol ac ail-adrodd yr arolwg ar-lein yn haf 2020 ac eto yn 2021, i gael gweld sut mae agweddau wedi esblygu dros amser.

Darllenwch fwy am y prosiect hwn yma: https://www.cardiffmet.ac.uk/news/Pages/UK-attitudes-to-coronavirus-pandemic.aspx.

Gallwch ddilyn y newyddion diweddaraf am y prosiect yma: https://copestudy.yolasite.com/.