Gwella Iechyd drwy Weithgarwch Corfforol: Ennyn diddordeb menywod ifanc “anodd eu cyrraedd” yn y Cymoedd

Ellyse.jpeg

Mae Ellyse Hopkins yn cwblhau PhD â chyllid KESS 2 mewn cydweithrediad ag Academi Gymnasteg y Cymoedd. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ennyn diddordeb menywod ifanc o gefndiroedd difreintiedig mewn gweithgarwch corfforol.


Cefndir

Fe wnes i gwblhau gradd gyntaf a gradd meistr ym Met Caerdydd. Ro’n i’n hoffi’r amgylchedd ac yn cyd-dynnu’n dda â’r staff. Fel roeddwn i’n gorffen fy nghwrs meistr, ro’n i’n cadw llygad am gyfleoedd PhD, a gwelais y PhD hwn â chyllid KESS 2 mewn partneriaeth ag Academi Gymnasteg y Cymoedd. Yr hyn wnaeth fy nenu i at y PhD oedd y ffaith ei fod mewn maes ro’n i’n teimlo’n gryf iawn amdano – ennyn diddordeb menywod ifanc mewn gweithgarwch corfforol. Roedd y ffaith fod y pwnc yn eithaf eang hefyd yn caniatáu i mi ddod â’m gwybodaeth a’m sgiliau cymdeithaseg i’r prosiect. Roedd yr ymchwil yn cynnwys tair astudiaeth. Dechreuais drwy arsylwi ar y merched mewn lleoliadau amrywiol a sgwrsio am eu perthynas â gweithgarwch corfforol. Roedd yr ail astudiaeth yn adeiladu ar yr arsylwadau, gan gyfweld y menywod am eu harferion gweithgarwch corfforol a deall sut roedd ymarfer corff yn cael ei flaenoriaethu yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

Roedd dwy elfen i’r drydedd astudiaeth. Yn gyntaf, bûm yn gweithio drwy raglen gerdded fyrdymor â merch ifanc o un o’r lleoliadau, gan gynnal cylch o gyfweliadau er mwyn gwerthuso ei phrofiad yn barhaus a hybu cerdded fel arferiad cyson yn ei bywyd. Yn ail, bûm yn cyfweld arweinwyr clybiau a rhanddeiliaid o’u rhiant-sefydliadau er mwyn asesu anghenion y menywod ifanc, ynghyd â’r posibiliadau a’r cyfyngiadau ar gyfer gweithgarwch corfforol a brofwyd gan y clybiau a’r polisïau a’r rheoliadau trosfwaol a oedd yn eu llywio. Y pwrpas yma oedd canfod camosodiadau a thrwy hynny feysydd i ganolbwyntio arnynt er mwyn hybu ymgysylltiad.

Effaith

Weithiau gall y byd academaidd deimlo fel pe bai wedi colli cysylltiad â’r byd go iawn, felly rwy’n gobeithio y bydd pwyslais fy ymchwil ar fanylion bychain ond arwyddocaol perthnasoedd y menywod â gweithgarwch corfforol yn egluro pam y mae angen i ni roi sylw mor fanwl i hyn, oherwydd gall un digwyddiad bach gael effaith bwerus sy’n para gydol oes ar berthynas rhywun ag ymarfer corff. Mae fy ymchwil yn cysylltu’n dda ag Academi Fyd-eang Iechyd a Pherfformiad Dynol a’r Ganolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgarwch a Lles ym Met Caerdydd, gan fy mod yn archwilio sut y gall gweithgarwch corfforol helpu unigolion i fod y gorau y gallant fod a chyflawni eu potensial. Mae’r ymchwil hwn hefyd yn cael ei ddylanwadu gan Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, sef “Sicrhau bywydau iach a hybu llesiant i bawb o bob oed,” yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n hybu ‘Cymru Iachach’ lle mae lles corfforol a meddyliol pobl yn cael ei wella, a phobl yn meddu ar y gallu a’r pŵer i wneud dewisiadau am eu hiechyd yn y dyfodol.

Rwyf hefyd yn gobeithio bod pawb sydd wedi cymryd rhan yn yr ymchwil yn teimlo ei fod wedi bod yn brofiad sy’n grymuso, a’u bod yn teimlo’n fwy hyderus i reoli eu perthynas â gweithgarwch corfforol. Un o ddeilliannau’r ymchwil hwn fydd pecyn cymorth yn cynnwys gwybodaeth er mwyn ennyn diddordeb menywod ifanc o gefndiroedd difreintiedig mewn gweithgarwch corfforol, felly gobeithio y bydd hynny’n darparu awgrymiadau ymarferol y gellir eu mabwysiadu’n hawdd mewn sefyllfaoedd go iawn.

Uchafbwyntiau ac Edrych Ymlaen

Rwyf wedi gallu cymryd rhan mewn nifer o gynadleddau yn ystod fy nghyfnod ar y rhaglen KESS 2. Cefais gyfle iellyse conference welsh.jpg wneud cyflwyniad byr ar fy ymchwil yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru – profiad y byddaf yn ei gofio am byth! Rwyf hefyd yn falch o’r hyn y mae fy nhîm wedi’i gael o ganlyniad i gyhoeddi fy PhD; roedd yn benllanw dwy flynedd o waith caled ac yn gyfle gwych i gael fy enw allan yna. Rwyf wedi dechrau swydd ymchwil newydd yn Chwaraeon Caerdydd yn ddiweddar. Mae fy rôl yn cynnwys cydlynu ymchwil a dealltwriaeth o brosiectau amrywiol sy’n ceisio ennyn diddordeb poblogaethau anweithgar mewn gweithgarwch corfforol yng Nghaerdydd. Roedd yn teimlo fel cam naturiol o’m PhD a ffordd wych o gael effaith ar y gymuned leol. Rwyf hefyd yn aelod o’r Gymuned Gyrfa Cynnar yn y Ganolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgarwch a Lles ym Met Caerdydd, felly rwy’n parhau i fod yn gysylltiedig ag ymchwil yn y brifysgol.

Supervisor Feedback

Daeth y syniad ar gyfer y prosiect hwn yn dilyn ymchwil gwerthuso a wnaethpwyd i Calls for Action, ymyriad cenedlaethol i fynd i’r afael ag anweithgarwch corfforol. Roedd gen i ddiddordeb mewn datblygu proses ymchwil ddyfnach lle gallem edrych ar fywydau menywod ifanc a sut maen nhw’n deall gweithgarwch corfforol yn ogystal ag ystyried yr heriau i ddarparwyr gweithgarwch corfforol.”

“Mae’r cyfle i weithio gyda’r Academi Gymnasteg wedi bod yn wych. Mae’r cwmni sydd wedi’i leoli yn y cymoedd yn arloesol iawn ac mae’n fusnes bach pwysig sy’n canolbwyntio ar wella bywydau drwy chwaraeon a hamdden yn y gymuned.”

“O safbwynt ymchwil, mae’r tîm goruchwylio, sydd hefyd yn cynnwys Dr David Brown a Dr Nic Matthews, yn rhyng-ddisgyblaethol ac yn dod â datblygu chwaraeon, polisi, rheoli a chymdeithaseg at ei gilydd. Roeddem mor lwcus i ddod o hyd i Ellyse. Mae’n ymchwilydd cryf iawn sydd wedi cofleidio naws KESS 2 yn ogystal â datblygu sgiliau newydd a rheoli’r her o fod yn ymchwilydd doethurol yn ystod y cyfnod clo. Mae bod yn ymchwilydd yn ystod y cyfnod clo wedi galw am lawer iawn o ystwythder a gwytnwch.”

“Yn gyffredinol, mae KESS 2 wedi cynnig cefnogaeth dda a phecyn hyfforddiant ymchwil gwerthfawr. Yn bwysig iawn, mae’n paratoi myfyrwyr doethurol ar gyfer gwaith ac rydym yn falch iawn fod Ellyse yn gweithio i Chwaraeon Caerdydd nawr.”

Dr Nicola Bolton
Cyfarwyddwr Astudiaethau

Company Feedback

“Fel menter gymdeithasol mae’r cysylltiad ag Ellyse drwy’r prsiect KESS 2 wedi bod yn fuddiol iawn i ni. O’r dechrau un, mae gwaith academaidd Ellyse wedi’n helpu i ddod i ddeall cymhellion ein haelodau, a helpu’r tîm i gael gwell dealltwriaeth o’r bobl ifanc rydym yn gweithio gyda nhw – gan ein galluogi i sicrhau newid yn y ddarpariaeth. Cawsom wybodaeth unigryw sydd wedi’n galluogi i siapio ein darpariaeth i gysylltu â’n haelodau – a darpar aelodau – yn fwy effeithiol, gan adeiladu ar ddarnau blaenorol o waith, fel prosiect US Girls gan StreetGames.” 

Melissa Anderson
Rheolwr Gyfarwyddwr, Academi Gymnasteg y Cymoedd


kess logo welsh.PNG         esf-logo welsh.png                         VGA welsh.jpg



Mae KESS 2 yn fenter sgiliau lefel uwch drwy Gymru gyfan sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Caiff ei hariannu’n rhannol gan raglen gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd