Ymchwil>Academïau Byd-eang>Industry hotline and toolkit to support Welsh Food and drink

lanisiwyd pecyn cymorth a llinell gymorth y diwydiant i gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod cymru yn ystod y pandemig COVID-19




Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws COVID-19, canfu cydweithwyr yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ffyrdd newydd i gael defnyddio’u harbenigedd technegol a masnachol i gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru. Roedd cwmnïau o bob maint yn wynebu straen heb ei debyg ar eu cadwyni cyflenwi bwyd yn ystod y pandemig, ac roedd mwy o alw am gynnyrch eu ffatrïoedd, a straen ar eu gweithlu a’u gweithdrefnau. Datblygodd y Ganolfan Diwydiant Bwyd ar y cyd â phartneriaid Arloesi Bwyd Cymru ac Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru, linellau cymorth yn y tair canolfan fwyd yn Ne Cymru, Gogledd Cymru a’r Canolbarth i gysylltu diwydiant gydag arbenigwyr a oedd yn gallu ateb ymholiadau penodol sy’n ymwneud â diogelwch bwyd, materion technegol, parhad y gadwyn gyflenwi, a chanllawiau newydd y llywodraeth ar iechyd.

Yn ogystal â’r gwasanaeth llinell gymorth, fe lansiodd Arloesi Bwyd Cymru, mewn partneriaeth â Chanolfan Diwydiant Bwyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, becyn cymorth o adnoddau ar gyfer gwneuthurwyr bwyd a diod Cymru, gan gynnwys dolenni a thempledi defnyddiol. Roedd dros 20 templed ar gael, ac maen nhw’n dal i fod ar gael, i gwmnïau gael eu defnyddio i fonitro gweithgareddau eu busnes, gan gynnwys rhestri gwirio arsylwi, holiaduron dychwelyd i’r gwaith, canllawiau newid defnydd, cynllunio wrth gefn, a phrotocolau cau/ail-agor ffatrïoedd.




Gallwch ddysgu mwy am y llinellau cymorth a/neu gysylltu ag Arloesi Bwyd Cymru i gael cymorth yma:  https://www.cardiffmet.ac.uk/health/zero2five/news/Pages/Food-Innovation-Wales-Helpline.aspx .

Gallwch ddysgu mwy am y pecyn cymorth a chyrchu templedi a dolenni defnyddiol yma:  https://www.cardiffmet.ac.uk/health/zero2five/news/Pages/COVID-19-Tool-kit-launched-to-support-Welsh-food-and-drink-manufacturers.aspx.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr y Ganolfan Diwydiant Bwyd, dclloyd@cardiffmet.ac.uk