Ymchwil>Academïau Byd-eang>Gwyddor Bwyd, Diogelwch a Diogelu

Gwyddor Bwyd, Diogelwch a Diogelu

Cardiff Metropolitan University

Bydd yr Academi Fyd-eang hon yn dod â’n harbenigedd o ran y gwyddorau biofeddygol a chynhyrchu bwyd yn fasnachol, yn weithredol ac yn dechnegol at ei gilydd, ynghyd â maetheg, seicoleg a gwyddoniaeth ganfyddiadol. Gan sicrhau effaith drwy ddatblygu cynhyrchion newydd, iechyd y defnyddwyr, mewnfuddsoddi a mentrau allforio, bydd yr Academi Fyd-eang hon yn mynd i’r afael â’r heriau byd-eang a fydd yn ymwneud â gwaith teilwng a thwf economaidd, seilwaith ac arloesedd diwydiannol, cynhyrchu a defnyddio cyfrifol, a dim newyn.