Ymchwil>Academïau Byd-eang>Disinfection Robot

Robotiaid Diheintio’r Genhedlaeth Nesaf

Robot.png

Dr Esyin Chew ac Aveen Najm
Ysgol Dechnolegau Caerdydd


Mae ymchwil Dr Esyin Chew, Cymrawd Santander yr Academïau Byd-eang, yn astudio’r defnydd o roboteg i frwydro yn erbyn clefydau hynod heintus mewn amgylcheddau gofal iechyd, lletygarwch ac addysg. Mae robotiaid wedi’u defnyddio i leihau’r nifer o bathogenau niweidiol mewn lleoliadau byd-eang, megis maes awyr Heathrow a Doha. Ac, er bod diheintio UV robotig wedi profi i fod yn hynod effeithiol wrth ladd hyd at 99% o bathogenau niweidiol (Heathrow, 2022; Maes Awyr Doha, 2021), ni all llawer o ysbytai, ysgolion a lleoliadau lletygarwch gael gafael ar y dechnoleg hon oherwydd costau uchel a phryderon iechyd parhaus ynghylch cysylltiad estynedig â golau UV-C i fodau dynol. 

Fe wnaeth Dr Chew, cyfarwyddwr Canolfan Roboteg EUREKA ym Met Caerdydd, bartneru ag academyddion o PDR a phartneriaid diwydiannol i arloesi technoleg robotig newydd sy’n galluogi defnyddio robotiaid ar gyfer diheintio pathogenau niweidiol, wrth fod yn ddiogel i’w defnyddio pan fo bodau dynol yn bresennol. Fe wnaeth partneriaeth Chew hefyd leihau costau’r robotiaid diheintio UV hyn o 50-80% trwy ddylunio a phrototeipio fersiwn robotig hygyrch yn gyflym gan ddefnyddio eu harbenigedd a’u hadnoddau academaidd rhyngddisgyblaethol. 

Gyda hanfodion o’r prosiect Roboteg Gofal Iechyd fel Gwasanaeth a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, fe wnaeth Dr Chew a’i thîm brynu robot diheintio ar gyfer treialu a delweddu ffisegol ac er mwyn cael safbwyntiau rhanddeiliaid (e.e. gweithwyr gofal iechyd, glanhawyr, ac ati) i ddyluniad y genhedlaeth nesaf o Roboteg UV-Pell. Mae dau robot wedi’u gosod â’r partner diwydiannol ac yng Nghanolfan Roboteg EUREKA ar hyn o bryd. Profwyd y robot diheintio yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd cyn ei gyflwyno yn ysbyty Llandochau. Cliciwch ar y ddolen fideo hon i’w weld ar waith!

Mae’r robot diheintio bellach wedi’i leoli yn ysbyty Llandochau ac mae tîm Dr Chew wedi hyfforddi nyrsys cynorthwyol ar sut i reoli a gweithredu’r robot. Datganodd staff gofal iechyd:

 “Rydym yn disgwyl i’r robotiaid yn y tymor byr gyflawni rhai o’r gwaith risg uchel fel diheintio dyddiol... Fe wnaethom roi cynnig ar rai yn y peilot diwethaf ac roedd y robot yn llawer o hwyl, tipyn yn well nac iPads neu gyfrifiaduron traddodiadol”

“Byddwn wrth fy modd o weld y robot Diheintio UV-Pell. Byddai hyn yn llawer mwy pwerus na’r robot UVC presennol sydd ar waith, nad oes rhaid imi wagio pobl o’i amgylch yn ystod y broses ddiheintio, alla i ddim ag aros!”


Ymhlith y cwestiynau ymchwil pellach sy’n codi o Gymrodoriaeth AB Dr Chew y mae astudiaeth o sut y gall rhanddeiliaid mewn amgylcheddau gofal iechyd gyd-fyw gyda’r robot diheintio, a manteisio i’r eithaf ar ei fuddion, wrth berfformio eu tasgau o ddydd i ddydd. Yn ogystal â chyllid Cymrodoriaeth Santander yr Academïau Byd-eang a wnaeth y prosiect yn bosibl, mae Dr Wai Keung Fung, Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Roboteg EUREKA, yn arwain y tîm i ymgeisio am grant mwy o faint ar gyfer datblygiad y prototeip nesaf ac i ddod â’r prosiect i’r lefel nesaf. Bydd hyn yn cynnwys arbrofi maes a masnacheiddio ar raddfa fwy. Bydd prosiect Dr Chew yn darparu astudiaeth achos roboteg o Gymru a’r DU ar gyfer cyfeiriad rhyngwladol, yn ogystal ag un o’r astudiaethau achos effaith ar gyfer y FfRhY nesaf yn y DU.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Esyin ar echew@cardiffmet.ac.uk ac ewch i’w phroffil staff yma. I gael rhagor o wybodaeth am Gymrodoriaethau Santander yr AB sydd i ddod, cysylltwch â’r Swyddog Ymchwil ac Arloesi ar gyfer yr Academïau Byd-eang, Tara Cater, ar TICater@cardiffmet.ac.uk