Hafan>Ymchwil>CSM DBA

Doethur mewn Gweinyddu Busnes (DBA)

Mae'r rhaglenni wedi'u hanelu at reolwyr proffesiynol o ystod eang o sectorau busnes a diwydiant ac fel rheol mae'n ofynnol i ymgeiswyr arwain prosiect rheoli strategol sylweddol. Mae'r DBA yn gyfwerth â PhD ond mae’n canolbwyntio'n bennaf ar nodi sut y bydd arferion proffesiynol yn newid o ganlyniad i'r wybodaeth newydd a ddatblygir ac a gynhyrchir yn sgil y rhaglenni Doethuriaeth Broffesiynol. Oherwydd natur y rhaglen a'r angen i ddangos cyfraniad clir ac amlwg i arfer proffesiynol, dim ond ar sail Rhan-amser y cynigir y rhaglenni.

Pam dilyn cwrs DBA?

Mae yna lawer o resymau pam y gallai dilyn llwybr astudiaeth ôl-raddedig fod yn addas i chi. P'un ai os ydych am wella'ch rhagolygon cyflogaeth, yn awyddus i gael dealltwriaeth ddyfnach o bwnc rydych chi'n teimlo'n gryf amdano neu eisiau cael eich ysgogi i wneud newid yn eich bywyd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw’r lle delfrydol i chi.

Strwythur y Rhaglen

Programme Structure

Tystebau

"Fel Prif Weithredwr Canolfan Wyddoniaeth brysur, gwelais gymhwyster Doethur mewn Gweinyddu Busnes (DBA) fel cyfle unigryw i fynd i'r afael â newidiadau o bwys yn y gweithle ar draws y sector ... Amlygodd y gwaith a wnes i yn ystod fy DBA nifer o feysydd ymchwil sy'n dod i'r amlwg, ac mae wedi hybu’r diddordeb a'r sgiliau sydd eu hangen arnaf i ddilyn rhain."

Paul Jennings
Graddedig – DBA
Ysgol Reolaeth Caerdydd

Gwybodaeth Cyswllt

Dr Rachel Mason-Jones
DBA Pathway Lead
Ysgol Reoli Caerdydd
Campws Llandaf,
Rhodfa’r Gorllewin,
Caerdydd
CF5 2YB
e: rkmason-jones@cardiffmet.ac.uk​​
T: 029 2041 6447​
www: rhhaglenni a themâu BA a PhD

​​​​​​Dychwelyd i dudalen hafan Doethuriaeth Broffesiynol