Mae'r DEng wedi'i strwythuro i gefnogi newid cam wrth gam o safbwynt datrys problemau a/neu wella perfformiad datrysiad sy'n bodoli eisoes, gan arwain at newid gwreiddiol neu sylweddol yn arfer y Proffesiynau Peirianneg neu sefydliadau Peirianyddol. Gweinyddir y DEng gan CSAD gyda chefnogaeth gan CSM a PDR. Gwahoddir ceisiadau gan Beirianwyr Siartredig, ymarferwyr Peirianneg a Gweithwyr Proffesiynol sy'n gweithio ym maes ymgynghori, y diwydiant Peirianneg neu sefydliadau academaidd. Yn benodol, Peirianneg Bensaernïol, Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu, Peirianneg Dylunio, Peirianneg Rheoli Dylunio, Peirianneg Drydanol ac Electroneg, Polisi Peirianneg, Peirianneg Amgylcheddol, Peirianneg Gweithgynhyrchu, Peirianneg Dyfeisiau Meddygol, Peirianneg Fecanyddol, a Pheirianneg Cynnyrch. Yn ogystal, gwahoddir ceisiadau gan ymarferwyr nad oes ganddynt gymwysterau Peirianneg o bosibl, ond sydd eisoes yn gweithio o fewn y byd Peirianneg mewn diwydiant neu sefydliad academaidd, neu'r ymarferwyr hynny sy'n dymuno newid gyrfa a throi at beirianneg neu amgylchedd Peirianyddol. Mae’n berthnasol hefyd ar gyfer ymarferwyr neu eu sefydliadau sy'n ymwneud â Gwerthuso Perfformiad Adeiladu.
Mae'r DEng yn CSAD, CSM & PDR yn galluogi ymarferwyr i fyfyrio ar sut y dylai eu harfer eu hunain ac arfer eu cyfoedion newid (addasu) fel y gall eu datrysiadau peirianneg (newydd a phresennol) fod yn fwy effeithlon, effeithiol, gwydn a chynaliadwy er mwyn diwallu anghenion y presennol heb gyfaddawdu ar anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Gallai prosiectau yn CSAD, CSM a PDR ganolbwyntio ar newid sylweddol i adeiladau, eu cydrannau, deunyddiau, rheolyddion a systemau; cynhyrchion, eu dyluniad, eu prosesau gweithgynhyrchu a'u cadwyni cyflenwi; adnoddau fel ynni, ynni adnewyddadwy neu leihau defnydd dŵr ac ailgylchu.
Mae'r ffocws ar newid arfer neu newid sefydliadol, neu'r ddau yn hyblyg yn cynnwys yn fras un o dri math, sef: cynnig, gweithredu a gwerthuso newid yn y cyd-destun proffesiynol; gwerthuso newid sydd eisoes yn digwydd o fewn y cyd-destun proffesiynol; neu ennill gwell dealltwriaeth o'r cyd-destun proffesiynol er mwyn cynnig newid.