Hafan>Prosesau Caffael Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Prosesau Caffael Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Croeso i dudalennau'r adran Gaffael ar gyfer Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'r adran yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i holl ysgolion ac adrannau'r brifysgol sy'n ymdrin â phob agwedd ar gaffael.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cymryd rhan weithredol yng Nghonsortiwm Pwrcasu Addysg Uwch Cymru (HEPCW). Mae'r brifysgol hefyd yn cefnogi Gwasanaethau Caffael Cenedlaethol Cymru ac yn cefnogi'r cysyniadau o gydweithio yn y sector cyhoeddus ehangach.

Os hoffech ddysgu rhagor am brosesau caffael Prifysgol Metropolitan Caerdydd neu wybod sut i ddod yn gyflenwr i'r brifysgol neu i HEPCW, ewch i'r adran 'Amdanom Ni '.



Ymwadiad - Mae eich derbyniad ar y wefan hon yn cael ei lywodraethu gan y canlynol. Cymerwch amser i'w ddarllen.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ceisio sicrhau bod y wefan hon a'r wybodaeth sydd arni yn gywir, yn gyfredol ac yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll. Fodd bynnag, darperir y wybodaeth "fel ag y mae" heb i unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth gael eu gwneud a heb warant o unrhyw fath, p'un a yw'n benodol neu'n cael ei hensynio. Cyn gweithredu ar unrhyw wybodaeth sydd ar y wefan hon, fe'ch cynghorir i wirio ei haddasrwydd a'i chywirdeb. Ni all Prifysgol Metropolitan Caerdydd na'i gweithwyr, asiantau na chysylltiadau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd o gwbl am unrhyw beth sy'n deillio o ddefnyddio unrhyw wybodaeth yma nac am unrhyw gamgymeriadau, wallau neu gamddehongliadau a geir yma.

Nid yw Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn gyfrifol nac yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau cysylltiedig ac ni ddylid ystyried rhestrau neu gynnwys dolenni at wefannau eraill fel arwydd o ardystiad o unrhyw fath gan y Brifysgol.

Oni nodir yn wahanol, mae Hawlfraint yr holl ddeunydd yma yn perthyn i Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Gwaherddir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o unrhyw ddeunydd hawlfraint sydd yma.

Bydd eich mynediad i’r wefan hon a/neu glustnodi’r wefan yn golygu eich bod yn derbyn y telerau defnyddio a mynediad i'r wefan hon yn llawn.