Proses Gaffael Prifysgol Metropolitan Caerdydd:
"Datblygu, gweithredu a chynnal strwythur caffael effeithiol a chadarn sy'n sicrhau cyflenwad amserol o gynhyrchion a gwasanaethau cost-effeithiol sy'n diwallu anghenion a disgwyliadau pob defnyddiwr."
Mae'r uned Gaffael yn goruchwylio pob agwedd ar weithgaredd caffael y Brifysgol. Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau cynghori strategol a swyddogaethol gyda'r nod o sicrhau ein bod yn rhoi gwerth da am arian, cynnal amddiffyn cytundebol da a sicrhau bod gwerth cymdeithasol yn cael ei ddarparu drwy ein gweithgareddau caffael.
Gellir dod o hyd i wybodaeth staff a chyswllt yn Cysylltwch â ni.
Os hoffech wybod rhagor am sut i ddod yn gyflenwr i Brifysgol Metropolitan Caerdydd neu i Gonsortiwm Pwrcasu Addysg Uwch Cymru, (HEPCW), yna ewch i Sut i Gyflenwi i Ni.
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ystyried cydweithio fel elfen allweddol wrth sicrhau gwerth am arian, ac yn mynd ati i chwilio am gyfleoedd i cydweithio â sefydliadau a chyrff eraill. Yn arbennig o berthnasol i'r amcan hwn mae HEPCW, y consortia caffael addysg uwch rhanbarthol eraill ledled y DU, a Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Cymru.
Consortiwm Pwrcasu Addysg Uwch Cymru (HEPCW)
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cymryd rhan weithredol yng Nghonsortiwm Pwrcasu Addysg Uwch Cymru (HEPCW). Mae'r Brifysgol yn cyfrannu at reoli'r consortiwm yn ogystal â chymryd rhan yn grwpiau nwyddau'r consortiwm. Ewch i wefan HEPCW i gael rhagor o wybodaeth am y consortiwm a'i aelodau.
Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Cymru ('NPS')
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd hefyd yn cymryd rhan weithredol yn ac yn cefnogi
Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Llywodraeth Cymru - mae manylion y fenter hon ar gael yn y Gymraeg.
Cynaliadwyedd
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cefnogi egwyddorion cynaliadwyedd trwy gydol ei gweithrediadau.
Cyflogaeth Foesegol a Chaethwasiaeth Fodern
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cydnabod ei rôl wrth hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a helpu i ddileu pob math o gaethwasiaeth, caethwasanaeth a llafur gorfodol neu sy’n cael ei orfodi yn ei chadwyni cyflenwi. Mae dolen i ddatganiad y Brifysgol ynghylch y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern i'w weld yn y troedyn. Mae'r datganiad hwn hefyd yn cydnabod ymrwymiad y Brifysgol i god ymarfer Llywodraeth Cymru, 'Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi'.
Hysbysiad Preifatrwydd Caffael
Gellir dod o hyd i hysbysiad preifatrwydd Caffael Prifysgol Metropolitan Caerdydd
yma.